Ein aelod bwrdd Cath O'Brien wedi derbyn 'Member of the Order of the British Empire (MBE)'

Cath O'Brien with her MBE

Mae Dug Caergrawnt wedi dyfarnu MBE i gyn-Gyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Cath O'Brien am ei gwasanaethau i Wasanaeth Gwaed Cymru a Therapi Celloedd a Genynnau yng Nghymru.

Ymunodd Cath, sydd yn fferyllydd yn ôl proffesiwn, â Gwasanaeth Gwaed Cymru yn 2013, ac arweiniodd y sefydliad drwy nifer o raglenni newid mawr, gan gynnwys trosglwyddo gwasanaethau yng ngogledd Cymru o’r gwasanaeth yn Lloegr i ffurfio gwasanaeth gwaed cenedlaethol i Gymru.

Cyn cychwyn yn ei rôl newydd fel Prif Swyddog Gweithredu dros dro Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, bu Cath yn arwain y gwaith o ddatblygu'r Datganiad o Fwriad ar gyfer Therapïau Uwch ar ran Llywodraeth Cymru. Roedd y ddogfen hon yn amlinellu’r camau gweithredu strategol sydd eu hangen i alluogi Cymru i fabwysiadu'r therapïau newydd hyn, gan gynnwys therapïau celloedd a genynnau, ac ar yr un pryd, yn sicrhau bod Cymru'n cael ei chydnabod fel lle deniadol i ddatblygu'r therapïau a'r gwasanaethau cysylltiedig hyn.

Ar ôl casglu’r wobr ym Mhalas Buckingham, meddai Cath: "Pleser o’r mwyaf ydy casglu'r wobr hon sy'n cydnabod y gwaith sydd wedi cael ei wneud yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru. Dros y blynyddoedd, mae'r staff wedi dangos eu hymroddiad i ddarparu gwasanaeth y gall cleifion a rhoddwyr fod yn falch iawn ohono.

"Ni fyddai’r llawer o’r gwaith hwn wedi bod yn bosibl heb gydweithrediad ar draws nifer o sefydliadau, fel Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Grŵp Diddordeb Arbennig Therapi Celloedd a Genynnau Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru."

Meddai Yr Athro Syr Mansel Aylward:

“Ni allwn fod yn hapusach i Cath ei bod hi wedi ei hadnabod am ei gwaith gwych gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru fu gyfrannu at mabwysiadu therapi cell a genynnau yng Nghymru.

Mae'n fraint i ni ei chael ar ein Bwrdd yma yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.  Llongyfarchiadau ar eich llwyddiant!”

Meddai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Mae'r gwaith sydd wedi cael ei gyflawni gan y Gwasanaeth Gwaed Cymru diolch i Cath O'Brien a'i thîm, nid yn unig wedi darparu gwasanaeth y gallwn fod yn falch ohono yng Nghymru, ond yn un sydd bellach yn cael ei gydnabod ar raddfa ryngwladol. 

"Rwy’n hapus dros ben bod gwaith Cath wedi cael ei gydnabod ar y cyd â naw o gydweithwyr eraill o GIG Cymru a'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru."