Mae hwn yn gyfnod allweddol wrth i ddeallusrwydd artiffisial gael ei gyflwyno a’i ddefnyddio ar raddfa eang i wella bywydau pobl. Ymunwch â ni i gefnogi’r digwyddiad dysgu a datblygu hwn ar gyfer pobl sy’n gweithio’n rhagweithiol i newid y ffordd rydym ni’n darparu gwasanaethau ar hyn o bryd. Bydd amrywiol siaradwyr yn cyflwyno gwybodaeth, astudiaethau achos ac awgrymiadau ymarferol ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn ddiogel, yn foesegol ac yn gyfrifol.
Mae pecynnau noddi arbennig ar gael sy’n cynnig amlygrwydd ac ymgysylltiad arbennig. Mae eich cefnogaeth yn bwysig i ni a bydd yn cyfrannu at lwyddiant y digwyddiad.
Pecynnau Noddi
Noddwr Aur — £12,000 + TAW (Dau ar gael*)
Bydd Noddwyr Aur y digwyddiad Edrych yn Fanylach ar Ddeallusrwydd Artiffisial yn cael:
- Eich logo ar holl ddeunyddiau’r gynhadledd ddigidol, ar faner ar y prif lwyfan, ar fathodyn y diwrnod gyda’n partneriaid yn ogystal ag ar ddeunyddiau marchnata eraill
- Brand eich cwmni ger y ddesg gofrestru mewn lle amlwg iawn wrth i bobl gyrraedd
- Trefnu sesiwn 15 munud ar y cyd i arddangos y gwaith rydych chi wedi’i wneud gyda sefydliad yn y sector cyhoeddus i wella bywydau
- Man arddangos mawr amlwg (6m x 2m) yn y Neuadd Arddangos a Chinio a chyfleoedd i siarad â’r mynychwyr ac i arddangos eich gwaith
- Sylw mewn negeseuon cyn ac ar ôl y digwyddiad ar LinkedIn a chyfryngau cymdeithasol eraill
- Gwahoddiad i dri i’r cinio rhwydweithio i westeion arbennig (drwy wahoddiad yn unig)
- Sesiwn 2 awr benodol i archwilio cyfleoedd i gydweithio gyda phartneriaid y digwyddiad a gynhelir o fewn 3 mis a chael eich cynnwys mewn adroddiad ar ôl y digwyddiad ar ganfyddiadau’r diwrnod.
Rydym yn chwilio am hyd at ddau Noddwr Aur a bydd y tîm trefnu yn gwneud y penderfyniad terfynol yn seiliedig ar y ffit orau a’r cyntaf i’r felin.
Noddwr Nodedig — £5,000 + TAW (Pedwar ar gael*)
Bydd Noddwyr Arian y digwyddiad Edrych yn Fanylach ar Ddeallusrwydd Artiffisial yn cael:
- Eich logo ar holl ddeunyddiau’r gynhadledd ddigidol ochr yn ochr â’n partneriaid yn ogystal ag ar ddeunyddiau marchnata eraill
- Man arddangos amlwg o faint canolig (4m x 2m) yn y Neuadd Arddangos a Chinio a chyfleoedd i siarad â’r mynychwyr ac i arddangos eich gwaith
- Sylw mewn negeseuon cyn ac ar ôl y digwyddiad ar LinkedIn a chyfryngau cymdeithasol eraill
- Eich baner a’ch brand yn un o’r ardaloedd gweithdy a chyfle am sesiwn ragarweiniol 5 munud fel rhan o’r sesiynau trac.
Rydym yn chwilio am hyd at bedwar Noddwr Arian a bydd y tîm trefnu yn gwneud y penderfyniad terfynol yn seiliedig ar y ffit orau a’r cyntaf i’r felin.
Hawliwch eich cyfle noddi heddiw!
I gael rhagor o wybodaeth heddiw neu i gadarnhau eich bod am noddi’r gynhadledd Edrych yn Fanylach ar Ddeallusrwydd Artiffisial, cysylltwch â Rupa Chilvers drwy e-bost Rupa.Chilvers@gov.wales.
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru fydd yn rheoli’r archebion noddi ar ôl gorffen y broses ddethol.
* Mae telerau ac amodau yn berthnasol