Trydydd parti

Dim ond ychydig wythnosau sydd ar ôl i gymryd rhan yng Ngwobrau STEM Cymru 2024, a bydd y ceisiadau’n cau ar 12 Gorffennaf. Bydd Gwobrau STEM Cymru 2024 yn tynnu sylw at y sefydliadau a’r unigolion sy’n gwneud gwahaniaeth i’r agenda STEM yng Nghymru.

Award

Mae Gwobrau STEM Cymru yn dathlu’r rhai sy’n arwain y sector yng Nghymru, y busnesau sy’n cael effaith ar economi Cymru, y rhai sy’n mynd i’r afael â’r bwlch o ran amrywiaeth STEM a phrinder sgiliau, a’r rhai sy’n ysbrydoli ac yn codi dyheadau’r genhedlaeth nesaf.

Cynhelir seremoni 2024 ar 17 Hydref yng Ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd.

Mae pymtheg categori i gystadlu ynddynt, gan gynnwys Arloesedd mewn STEM, Rhaglen Addysgol y Flwyddyn, Menyw’r Flwyddyn a Chwmni’r Flwyddyn. 

Dywedodd Liz Brookes, cyd-sylfaenydd y gwobrau: 

“Dim ond ychydig wythnosau sydd ar ôl i gael ceisiadau ar gyfer Gwobrau STEM Cymru 2024. Bydd y gwobrau’n agored i sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus, preifat ac nid-er-elw, ac mae categorïau i ddathlu unigolion sy’n cael effaith, a sefydliadau yn gyffredinol. Rydym ni’n gwybod bod pethau anhygoel yn digwydd ledled Cymru, ac rydym ni’n edrych ymlaen at gydnabod a dathlu hynny.”

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cael ei chadarnhau unwaith eto yn brif noddwr y gwobrau eleni, ynghyd ag EDX Medical a CSA Catapult fel noddwyr categori.

Wrth noddi gwobrau eleni, dywedodd Matthew Taylor, Cyfarwyddwr Arloesi ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: 

"Mae'n bleser gan Met Caerdydd barhau â'n partneriaeth â Gwobrau STEM Cymru, sy'n cyd-fynd â'n Hysgol Dechnolegau Caerdydd a'i graddau israddedig ac ôl-raddedig arloesol a chyfleoedd ymchwil mewn meysydd sy'n gysylltiedig â thechnoleg gan gynnwys roboteg, deallusrwydd artiffisial, peirianneg meddalwedd a dylunio gemau. Rydym yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr ar draws y diwydiant technoleg i ddylunio cyrsiau sy’n berthnasol i’r diwydiant ac sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd, gan gyfrannu’n uniongyrchol at dwf parhaus y sector pwysig hwn a llwyddiant y bobl a’r busnesau ynddo.”

Mae Gwobrau STEM Cymru yn cael eu trefnu ar y cyd gan Grapevine Event Management a’r asiantaeth cyfathrebu, Jamjar.

Roedd enillwyr gwobrau 2023 yn cynnwys un o entrepreneuriaid gwyddonol mwyaf adnabyddus Cymru, yr Athro Syr Chris Evans OBE, Thales, CanSense, Techniquest ac EESW.

Mwy o wybodaeth am gystadlu a fanylion am noddi'r gwobrau yma.