Trydydd parti

Wedi’i threfnu gan Gynghrair Arloesi ac Ymchwil Iechyd Gogledd Iwerddon (HIRANI), mae’r Uwchgynhadledd Arloesedd a Thechnoleg Feddygol (MITS) yn gynhadledd undydd sy’n cael ei chynnal yn Belfast ar 19 Ebrill.

A hand holding a lightbulb

Gyda phwyslais ar arloesi ym maes Technoleg Feddygol, bydd MITS yn archwilio dau faes:

  • ecosystemau digidol i integreiddio diagnosteg a therapiwteg.
  • cynllun cymunedol sy'n canolbwyntio ar bobl i gyflymu arloesedd a mabwysiadu technoleg iechyd.

Gyda dros 40 o siaradwyr o’r diwydiant ar lefel fyd-eang a brodorol, y byd academaidd ac iechyd ynghyd â 300 o gynadleddwyr, bydd cyfle i rannu astudiaethau achos ac i gymryd rhan mewn sesiynau panel amlddisgyblaethol i archwilio materion cyfoes a rhwystrau i fasnacheiddio.

Mae’r partneriaid yn cynnwys Innovate UK, AWS, Big Motive, Diaceutics, KPMG, Queen’s University Belfast a Phrifysgol Ulster

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol HIRANI, Joann Rhodes:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddod â'r digwyddiad newydd sbon hwn i Ogledd Iwerddon gan dynnu sylw at y camau breision a gymerwyd o ran integreiddio technoleg feddygol i’r dirwedd gofal iechyd ac archwilio mecanweithiau i gydweithio’n ‘glyfrach’ i gyflymu a chynyddu arloesedd ymhellach.

“Ochr yn ochr â’n harloeswyr blaenllaw o Ogledd Iwerddon, gan gynnwys Peter Keeling (Diaceutics), Damian Cranney (Big Motive), Clare Guinness (Belfast Innovation District) fydd arweinwyr agweddau mawr y byd fel cyn Bennaeth

Byd-eang Iechyd a Therapiwteg Digidol yn Merck, Caoimhe Valley Gilroy a Phrif Swyddog Gweithredol Closed-loop Medicine a chadeirydd HIRANI, Hakim Yadi OBE.

“Mae’n bleser hefyd cael croesawu Prif Swyddog Fferyllol Adran Iechyd Gogledd Iwerddon, Cathy Harrison, a fydd yn rhoi’r brif araith yn ystod y gynhadledd.”

Mae tocynnau ar gael ar gyfer y digwyddiad yn www.MITS.health


 

Ynglŷn â HIRANI

Mae Cynghrair Arloesi ac Ymchwil Iechyd Gogledd Iwerddon (HIRANI) yn gynghrair o brifysgolion, sefydliadau iechyd a chyrff eraill o fewn y diwydiant, a sefydlwyd i ysgogi a chefnogi twf uchelgeisiol yn sector Gwyddorau Bywyd ac Iechyd Gogledd Iwerddon. Caiff HIRANI ei gefnogi gan bartneriaid sy’n cynnwys Invest NI, Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd, Swyddfa Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yr Adran Iechyd ac Adran yr Economi.