Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn bartner yng Nghynhadledd Iechyd y Cyhoedd Cymru eleni, sy’n cael ei chynnal ddydd Iau 17 a dydd Gwener 18 Hydref yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd.

WPHC

Thema'r gynhadledd yw edrych ar ‘Ddatblygu dyfodol iachach i Gymru’ ac mae’n dod â safbwyntiau a lleisiau at ei gilydd o feysydd iechyd, addysg, tai, technoleg, yr amgylchedd, diwydiant a’r llywodraeth. Bydd y gynhadledd ddeuddydd yn arddangos yr ymchwil diweddaraf, yn rhoi enghreifftiau o’r hyn sy’n gweithio’n dda yng Nghymru a thramor, ac yn agor deialog heriol ac adeiladol am yr hyn sydd angen digwydd er mwyn troi syniadau yn weithredoedd.

Sut gall dysgu peirianyddol roi rhyddid i chi!

Bydd cynadleddwyr yn cael cyfle i fynd i sesiwn sylw ar y diwrnod cyntaf, o’r enw: ‘Sut bydd dysgu peirianyddol yn rhoi rhyddid i chi’, a fydd yn cael ei ddarparu gan Ecosystem Iechyd Digidol Cymru, sef rhaglen sy’n cael ei chynnal gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.

Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar brosiectau sy’n defnyddio dysgu peirianyddol yng Nghymru, yn nodi sut mae deallusrwydd artiffisial yn rhoi profiadau gwell i gleifion ac yn sicrhau arbedion effeithlonrwydd mewn gofal iechyd. 

Y genhedlaeth nesaf o ddata: Defnyddio data mawr a thechnoleg newydd i wella iechyd

Ar yr ail ddiwrnod, bydd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn cymryd rhan mewn sesiwn llawn sy’n trafod sut bydd data mawr a thechnoleg newydd yn esgor ar welliannau o ran iechyd y cyhoedd.

Bydd trafodaeth panel yn archwilio sut gall data ysgogi trawsnewid – gan amrywio o arloesi technegol i ddylanwadu ar ymddygiad. Bydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Amazon, Google Cloud, IBM Watson a Phrif Swyddog Gwybodaeth Public Health England.

“Mae Al yn newid y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau yn barod, ac mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd! Rydw i’n edrych ymlaen at glywed gan arbenigwyr blaenllaw am y datblygiadau sydd ar y gweill a beth sydd i ddod yn y dyfodol yng Nghynhadledd Iechyd y Cyhoedd Cymru,” meddai Cari-Anne.

I gael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd ac i archebu lle, ewch i www.wphc.wales/register lle gall cynadleddwyr gadw lle ar gyfer y sesiwn sylw ‘Sut gall dysgu peirianyddol eich rhyddhau’.