Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o gyhoeddi ei fod yn noddi Gwobrau 2024, mewn cydweithrediad â BASW Cymru. Mae’r rhain yn wobrau o fri, yn draddodiad ers 2005 ac yn brawf o’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Accolade Awards 2023

Eleni, rydyn ni’n falch iawn o noddi categori newydd a chyffrous, ‘Gweithio mewn partneriaeth’, sy’n pwysleisio pwysigrwydd cydweithio wrth sbarduno arloesi o ran gofal cymdeithasol rheng flaen. Pwysleisiodd ein Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn, rôl hanfodol partneriaethau er sicrhau newid ystyrlon i iechyd a lles pobl:

“Mae’n anrhydedd i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gefnogi’r Gwobrau am yr ail flwyddyn yn olynol, drwy noddi’r categori ‘Gweithio mewn partneriaeth’ y tro hwn. Mae ein sefydliad yn gweithredu fel rhyngwyneb deinamig rhwng partneriaid amrywiol yn ecosystem arloesi y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Rydyn ni’n deall pwysigrwydd cydweithio cryf ar brosiectau i wella iechyd a lles pobl, ac rydyn ni’n falch o weithio mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru i gydnabod a dathlu gwaith diflino ac ymroddiad staff, gofalwyr a sefydliadau ledled Cymru.”

Roedd Sue Evans, Prif Weithredwr y Gwobrau, wrth ei bodd yn croesawu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a BASW Cymru fel noddwyr ar gyfer y digwyddiad eleni:

“Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a BASW Cymru i fod yn noddwyr ar gyfer Gwobrau 2024. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn bartneriaid gwerthfawr ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda nhw ar y Gwobrau, sy’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gydnabod, dathlu a dweud diolch i’n gweithwyr gofal ymroddedig sy’n gweithio’n galed yng Nghymru. Mae trefnu seremoni wobrwyo yn dasg enfawr ac ni allem wneud hynny heb gefnogaeth ein noddwyr. Diolch yn fawr iawn i BASW Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru am eich cefnogaeth barhaus i’r sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.”

Bydd enillwyr Gwobrau 2024 yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad dathlu yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd ar Ebrill 25, 2024. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i anrhydeddu a diolch i’r unigolion a’r sefydliadau sy’n gweithio’n galed i wneud gwahaniaeth yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru.