Mae’r cwmni technoleg byd-eang, Healthy.io, wedi lansio ap arloesol ar gyfer gofal clwyfau yng Nghymru, gan ganiatáu i gleifion gael eu hasesu a’u monitro o gysur eu cartref eu hunain.

Ap Datrysiad Digidol

Mae’n brosiect wyth mis sy’n cael ei gyflwyno ar hyn o bryd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar draws Bae Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Caiff ei ariannu gan Gronfa Atebion Digidol Llywodraeth Cymru sy’n cael ei chydlynu gan Ecosystem Iechyd Digidol Cymru. Mae'r prosiect eisoes wedi cyrraedd 30 o gleifion rhwng y 11eg a'r 26ain o Hydref, gyda 36 o glwyfau unigol yn cael eu monitro'n ddigidol a 9 math o glwyf wedi'u nodi gan 18 clinigwr sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

Mae gwasanaethau gofal clwyfau yn cyfrif am swm sylweddol o gyllideb flynyddol GIG Cymru, sy’n costio £330 miliwn, sef 6% o’i gyfanswm. Gall asesu clwyfau’n amhriodol hefyd arwain at ymweliadau dilynol ac apwyntiadau cleifion allanol diangen, gan achosi problemau capasiti ac oedi i gleifion sy’n derbyn gwasanaethau.

Mae Healthy.io wedi datblygu ateb digidol ar gyfer asesu clwyfau er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r pwysau hyn. Mae Ap Datrysiad Digidol y cwmni ar gyfer Rheoli Clwyfau yn caniatáu i nyrsys ardal deithio i weld cleifion fel rhan o archwiliadau rheolaidd. Tra byddan nhw yno gallan nhw sganio’r clwyfau gydag ap y gellir ei integreiddio i feddalwedd parod ar ffonau clyfar a dyfeisiau tabled sy’n trawsnewid y camera ar y ddyfais yn sganiwr diagnostig o safon labordy. Caiff y rhain wedyn eu rhannu ar borth digidol diogel y gall staff clinigol ei ddefnyddio i asesu a monitro a yw clwyfau wedi gwaethygu dros amser, yn ogystal â darparu gwasanaethau ymgynghori digidol.

Mae’r datrysiad arloesol hwn yn golygu y gellir canfod clwyfau statig yn gynnar gan ganiatáu ar gyfer ymyrraeth yn gynharach gan leihau dioddefaint diangen. Drwy ddefnyddio dull digidol o reoli clwyfau, mae clinigwyr hefyd yn gallu gwahodd cleifion i’r ysbyty ar eu taith i wella clwyfau. Mewn ardaloedd eraill, mae hynny nid yn unig wedi helpu i sicrhau bod cleifion yn teimlo eu bod yn cyfrannu at eu gofal, ond hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar lesiant. Mae Datrysiad Rheoli Clwyfau Digidol Health.io hefyd o fudd i staff clinigol a gwasanaethau gofal iechyd drwy leihau’r baich gweinyddol a symleiddio gwaith drwy broses gofnodi ac asesu symlach a chyson.

Mae’r dechnoleg brofedig hon eisoes wedi hen ennill ei phlwyf yn Lloegr, mewn ymddiriedolaethau fel Livewell yn y de orllewin. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymuno â’r sefydliadau hyn sy’n helpu i sicrhau canlyniadau gwell i gleifion a gwella effeithlonrwydd y system iechyd drwy drawsnewid digidol. Roedd Healthy.io wedi darparu hyfforddiant wyneb yn wyneb i staff gofal iechyd ac ymgysylltu â nhw er mwyn sicrhau bod deialog ddwy ffordd yn cael ei sefydlu o’r dechrau.

Dywedodd Katherine Ward, Prif Swyddog Masnachol a Rheolwr Gyfarwyddwr Health.io yn y DU:

“Rydyn ni’n falch iawn o ddod â’n ap Rheoli Clwyfau Digidol i’r clinigwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; ein lleoliad cyntaf yn GIG Cymru. Mae’r dull traddodiadol o reoli gofal clwyfau yn cymryd llawer o amser ac adnoddau i glinigwyr yn ogystal â bod yn heriol yn aml i gleifion. Drwy wneud prosesau monitro clwyfau rheolaidd yn ddigidol, rydyn ni’n helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd eisoes wedi’u llethu i wneud penderfyniadau clinigol gwell ac yn helpu cleifion i reoli eu gofal yn nes at adref”

Dywedodd Catrin Codd, Arweinydd Gweithredol Nyrsio Ardal Castell-nedd Port Talbot, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

“Mae rheoli heintiau yn rhan fawr o swydd Nyrsys Ardal. Bydd defnyddio’r ap hwn yn galluogi ein Gwasanaeth Nyrsys Ardal i gael gafael ar yr wybodaeth a’r delweddau diweddaraf o glwyfau cleifion, gwella amseroedd adfer cleifion, yn ogystal â’u gofal, eu profiad a'u lles. Edrychwn ymlaen at rannu’r canlyniadau hyn gyda’n cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd.

“Mae’r Gwasanaeth Nyrsys Ardal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wrth eu bodd mai hwn yw’r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru a’r gwasanaeth cyntaf yn y Bwrdd Iechyd i dreialu Ap Rheoli Clwyfau Digidol Healthy.io.”

Dywedodd Kate Coombs, Pennaeth Cyflawni Rhaglenni Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Gall Rheoli Clwyfau'n Ddigidol helpu i wella profiad cleifion a chyfrannu at y driniaeth, gan weithio tuag at broses symlach a chyson ar gyfer staff clinigol a systemau gofal iechyd. Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi hwyluso’r gwaith o sefydlu’r peilot cyntaf o’r offeryn digidol arloesol hwn yng Nghymru sy’n cael ei redeg gan Health.io a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.”

I ddysgu mwy am sut y gall technoleg arloesol Health.io gefnogi systemau a chleifion gofal iechyd, ewch i’w gwefan.