Mae GIG Lloegr ar fin agor rownd newydd o gyllid ar gyfer arloesi ym maes canfod a rhoi diagnosis cynnar o ganser. Mae 'Galwad Agored Arloesedd 3' wedi'i chynllunio fel ei bod yn haws integreiddio datrysiadau arloesol mewn lleoliadau gofal iechyd rheng flaen, ynghyd â mynd i'r afael â bylchau allweddol mewn tystiolaeth gweithredu.
Bydd yr arloesiadau’n cael ei ariannu 100% hyd at £4 miliwn (heb gynnwys TAW) dros 24 mis gan mwyaf.
MaeRhaglen Canser y GIG yn arwain y gystadleuaeth, gyda chefnogaeth gan SBRI Healthcare a’r Gydweithfa Mynediad Cyflymedig (AAC).
Pwy all wneud cais?
Mae’r gystadleuaeth yn agored i bob math o arloesiadau a fydd yn canfod canser yn gynharach ac yn cynyddu’r gyfran sy’n cael eu diagnosio yng ngham un neu gam dau. Mae hyn yn cynnwys dyfeisiau meddygol, diagnosteg in vitro, datrysiadau iechyd digidol, ymyriadau ymddygiad, meddalwedd, deallusrwydd artiffisial, a modelau gofal newydd.
Croesewir ceisiadau ar gyfer prosiectau sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd i ran rhoi diagnosis cynnar o ganser. Dylai pob ymgeisydd ystyried effaith ei arloesiadau ar anghydraddoldebau iechyd, a datblygu mesurau lliniaru priodol.
Dyddiadau allweddol
6 Chwefror: Gweminar briffio rhwng 3-5pm. Cofrestrwch ar Eventbrite.
12 Mawrth: Cynhelir digwyddiad paru arloesedd ar-lein rhwng 2-5pm. Cofrestrwch ar Eventbrite.
8 Ebrill: Mae’r ceisiadau ar agor.
29 Mai: Mae’r ceisiadau’n cau.
I ddysgu mwy ac i ddarllen briff yr her yn llawn, ewch i wefan SBRI.