Mae’n bleser gennym longyfarch Eluned Morgan ar gael ei phenodi’n Brif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru, a’r fenyw gyntaf i fod yn arweinydd Plaid Lafur Cymru.
Mae’r cyflawniad hanesyddol hwn yn garreg filltir bwysig yn hanes gwleidyddol Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi ein Prif Weinidog newydd wrth iddi ddechrau ar y daith gyffrous hon. Mae ei harweinyddiaeth yn addo dod â phersbectif ffres a deinamig i wleidyddiaeth Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y newidiadau cadarnhaol a’r cynnydd y bydd yn eu hyrwyddo i bobl Cymru.
Fel sefydliad sydd wedi ymrwymo i hybu arloesedd ym maes gofal iechyd a meithrin cydweithio yng Nghymru, rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos mewn partneriaeth ag Eluned Morgan i barhau i osod ein cenedl fel arweinydd ym maes gwyddorau bywyd. Rydym yn dathlu ei hymrwymiad i gydweithio â’r diwydiant i gyflwyno arloesedd ym maes iechyd a thechnolegau newydd ar draws GIG Cymru.
Mae gyrfa ddisglair Eluned yn cwmpasu swyddi amrywiol hanfodol, gan gynnwys ei swydd ddiweddar fel Ysgrifennydd Iechyd Cymru. Mae ei harweinyddiaeth wedi bod yn allweddol wrth fynd i’r afael â materion allweddol, fel rheoli’r system iechyd yn ystod pandemig Covid-19, ac yn fwyaf diweddar arwain y Rhaglen Mynd i’r Afael â Chanser.
Rydym yn arbennig o falch o gefnogi a chydlynu’r Rhaglen Mynd i’r Afael â Chanser ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Fforwm Diwydiant Canser Cymru, Rhwydwaith Canser Cymru, ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Nod y fenter hon, a hyrwyddir gan Eluned Morgan, yw gwella gwasanaethau canser ar hyd a lled Cymru drwy gyfres o weithdai gwahoddiad yn unig a gynhelir yn ystod haf 2024.
"Rydym yn falch iawn o longyfarch Eluned Morgan ar gael ei phenodi'n Brif Weinidog newydd Cymru. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda hi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac rydym yn awyddus i barhau i gefnogi blaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet, wrth iddi ysgwyddo cyfrifoldebau ehangach. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda hi i ddatgloi potensial y sector gwyddorau bywyd, ysgogi twf economaidd a gwella iechyd a lles ledled Cymru." – Chris Martin, Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
"O dan arweiniad Eluned Morgan, rydym yn rhagweld cyfleoedd gwych i gryfhau partneriaethau rhwng diwydiant, y byd academaidd, a'r system iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd ei gweledigaeth a’i hymrwymiad i arloesi yn arwain at ddatblygiadau sylweddol. Rydym ni’n estyn ein dymuniadau gorau i Eluned wrth iddi ymgymryd â’r swydd bwysig hon, ac rydym yn barod i gefnogi ei hymdrechion i hyrwyddo ffyniant ac iechyd pobl Cymru.” – Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Rydym hefyd yn manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Cyn Brif Weinidog, Vaughan Gething, am ei wasanaeth ymroddedig i Gymru.