Trydydd parti

Mae Cymru am ymweld a Llundain mis Medi eleni, i arddangos cenedl o arloeswyr, a rhoi cyfle i ddiwydiant rwydweithio ag ecosystem newydd.

M-SParc #OnTour

Gan ehangu eu cyrhaeddiad y tu hwnt i Ogledd Cymru, mae M-SParc bellach wedi gosod ei fryd ar Lundain. Gwahoddir arloeswyr o Gymru – o ddiwydiant ac academia i gyllid a’r Llywodraeth – i fynychu arddangosfa wythnos o hyd ym mis Medi i gefnogi busnesau i dyfu a gwneud cysylltiadau newydd. Byddant yn ymuno ag agenda sydd drawiadol sy'n cynnwys Google, Prif Swyddog Gweithredol UKRI, yr Athro Leyser, Banc Busnes Prydain, EnBP, busnesau newydd o Gymru a mwy.

Nid yw M-SParc yn ddieithr i ddarparu cymorth busnes arbenigol ac ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda dros 70 o gwmnïau yn y sectorau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, yn ogystal â chartrefu dros 50 o’r cwmnïau hyn yn eu hadeilad blaenllaw ar Ynys Môn a darparu cymorth busnes pwrpasol iddynt dyfu, ac mae M-SParc hefyd yn #ArYLôn!

Wedi llwyddiant lleoliadau dros dro ym Methesda, Botwnnog, Caernarfon, a Bae Colwyn, mae M-SParc bellach ar y stryd fawr ym Mangor a Phwllheli. Yn rhaglen lwyddiannus sydd wedi bod yn rhedeg ers 2019, mae #Ar y Lôn yn mynd â phopeth sydd gan M-SParc i’w gynnig allan i’r gymuned. Mae rhai o'u digwyddiadau mwyaf poblogaidd yn cynnwys y caffi trwsio, clwb STEM i blant, a'u gofod creu anhygoel. Mae Llundain fel man nesaf ar y daith yn ehangu gorwelion arloesi Cymreig hyd yn oed ymhellach.

Dywed Lois Shaw, Rheolwr Cymorth Busnes yn M-SParc:

“Byddwn yn mynd â’r ethos Cymreig o arloesi ac ysbrydoliaeth i gymunedau newydd, i ysgogi busnesau a sgyrsiau ac i annog mwy o bobl i ymddiddori mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg.”

Bydd M-SParc yn mynd â rhai o’u cwmnïau tenantiaid gwych i lawr i Lundain gyda nhw i ymuno yn y sesiynau, sy’n cynnwys diwrnod wedi’i neilltuo ar gyfer eu meysydd sector allweddol o Ddigidol ac Ynni, ffocws arbenigol ar fasnach a buddsoddi yng Nghymru, a hyd yn oed gweithdai i blant wrth iddynt gynnal eu sesiynau allgymorth STEM poblogaidd yn yr Ysgol Sadwrn ac yn Ysgol Gymraeg Llundain, gan ysbrydoli’r cenedlaethau nesaf. Mae'r wythnos hefyd yn cynnwys sesiwn sy'n canolbwyntio ar fasnachu yng Nghymru a'r rhaglen Porthladd Rhydd ynghyd â digwyddiad pitsio a chyllid.

Meddai Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc:

“Mae gweithio gydag ecosystemau ehangach Cymru, a chydweithio â phartneriaid gan gynnwys Global Welsh, Tramshed Tech, Aber Innovation, Banc Datblygu Cymru, Llywodraethau Cymru a’r DU a mwy wedi helpu i greu cyrhaeddiad gwirioneddol Cymru gyfan, a thrwy fynd â hwn i Lundain gallwn fanteisio ar gyfleoedd a rhwydweithiau nad ydynt i’w cael fel arfer ar garreg ein drws a dod â buddion yn ôl i Gymru. Rydym yn hynod gyffrous i weld y canlyniad terfynol, ac ehangu ein hecosystem hyd yn oed ymhellach.”

Mae yna siaradwyr allweddol gwych wedi'u trefnu drwy gydol yr wythnos, ac mae pob sesiwn yn rhad ac am ddim i'w mynychu. Cynhelir y digwyddiad rhwng y 9fed a’r 14eg o Fedi, a gallwch fynychu un diwrnod yn unig, neu ddod am yr wythnos!

Mae Cydweithio ac Arloesi yn greiddiol i’r hyn y mae M-SParc yn ei wneud, ac mae’r digwyddiad hwn yn cyd-fynd yn berffaith â’u hethos. Ers agor eu drysau yn 2018 mae eu hecosystem wedi tyfu’n aruthrol, ac maen nhw’n edrych ymlaen at ddatblygu’r ecosystem ymhellach a phrofi bod Cymru’n genedl o bobl sy’n arloesi, pobl sy’n meiddio breuddwydio, ac sy’n gallu cymryd y llwyfan ar lwyfan enfawr ym mhrifddinas y DU.

Peidiwch â cholli allan! Archebwch heddiw drwy fynd i wefan M-SParc.