Gall pobl yng Nghymru sydd mewn perygl o'u calon yn stopio'n sydyn, gael eu gosod â diffibrilwyr y gellir eu gwisgo, yn dilyn canllaw newydd gan Technoleg Iechyd Cymru.
Mae diffibrilwyr cardiaidd y gellir eu gwisgo yn monitro rhythm y galon yn barhaus, ac yn rhoi sioc drydanol yn awtomatig o fewn un munud pan fydd rhai rhythmau calon afreolaidd yn cael eu canfod.
Maen nhw'n cael eu gwisgo fel fest fel mesur dros dro, a dim ond pan fo'r gwisgwr yn cael bath/yn ymolchi y dylid eu tynnu.
Gall cleifion fynd â nhw adref i fonitro eu cyflwr, sy'n golygu efallai na fydd angen iddyn nhw aros yn yr ysbyty yn ystod y cyfnod adfer neu wrth aros am feddyginiaeth i weithio neu i osod diffibriliwr cardiaidd wedi ei fewnblannu (ICD).
Edrychodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar effeithiolrwydd costau diffibrilwyr cardiaidd y gellir eu gwisgo, ac mae wedi cyhoeddi canllaw sy'n argymell mabwysiadu'r ddyfais i rai cleifion sy’n oedolion sydd â risg uchel o farwolaeth sydyn ar y galon yng Nghymru, ond nid i bawb.