Trydydd parti

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022/23!

Cardiff Bay Senedd Building

Yn ystod 2022-3, fe wnaethom ystyried mwy na 150 o atgyfeiriadau pwnc newydd, a chyhoeddi 10 dogfen ganllaw newydd HTW, yn ogystal â 71 o Adroddiadau Archwilio Pwnc.

Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys dathlu ein pen-blwydd yn bump oed, a chyhoeddi ein hadroddiad archwilio mabwysiadu peilot.

Cafodd Technoleg Iechyd Cymru ei benodi’n Bartner Cydweithio Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd.

Canfu Adolygiad Pum Mlynedd ar Gynnydd a gynhaliwyd ym mis Hydref a Thachwedd 2022, fod HTW wedi cyflawni twf uchelgeisiol, a'i fod yn rhan werthfawr o'r dirwedd arloesi yng Nghymru.

Meddai'r Athro Peter Groves, Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru:

"Rwyf wrth fy modd gyda chyflawniadau HTW dros y flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi cael eu crynhoi yn yr Adroddiad Blynyddol hwn. Mae effaith gwaith HTW yn parhau i dyfu, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n partneriaid ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad parhaus. Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen yr adroddiad blynyddol hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chi ar ein taith i wella iechyd a bywydau pobl Cymru."

 

Ychwanegodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr HTW:

"Rwy'n falch iawn o'r pethau rydym wedi’u cyflawni fel sefydliad yn 2022/23 wrth i ni barhau i ehangu cwmpas ein gwaith, datblygu partneriaethau newydd, ac esblygu i ateb anghenion newidiol y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol."

 

Darllen Adroddiad Blynyddol Technoleg Iechyd Cymru ar gyfer 2022/23 heddiw.