Mae busnesau ledled Cymru wedi bod yn addasu ac yn arloesi ar raddfa a chyflymder na welwyd eu tebyg o'r blaen i frwydro yn erbyn lledaeniad Covid-19 a helpu i drin y rhai sydd wedi eu heffeithio gan y firws.
O ail-beiriannu llinellau cynhyrchu ac ailstrwythuro cadwyni cyflenwi dros nos, mae'r busnesau hyn wedi gweithio'n ddiflino i gynnig y cyfarpar a'r gwasanaethau y mae eu hangen ar frys i GIG Cymru.
Fodd bynnag, nid dim ond achos o ymateb yn gyflym gan unigolion i fodloni galwadau newydd yw eu llwyddiannau. Mae cydweithio rhwng diwydiant a GIG Cymru wedi bod yn hanfodol i'w gwneud yn bosibl.
Gwneud cydweithio yn bosibl
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru i reoli holl ymholiadau'r diwydiant i gefnogi GIG Cymru yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn.
Ein rôl ni yw gweithredu fel cyfrwng rhwng diwydiant a'r gwasanaeth iechyd, gan annog a chynorthwyo sefydliadau i gynnig cymorth.
Gyda chysylltiadau uniongyrchol â'r diwydiant a'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn deall anghenion gwasanaethau rheng flaen yn ogystal â'r rôl y gall busnesau ei chwarae wrth fynd i'r afael a Covid-19.
Rydym yn cydweithio'n agos â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol - sefydliadau sy'n gyfrifol am gaffael cynhyrchion allweddol-i brosesu pob ymholiad cychwynnol ac i wneud gwaith diwydrwydd dyladwy i sicrhau bod y cwmnïau mwyaf perthnasol a phriodol yn cael eu trin.
Nodi cyfleoedd
Gan fod rheidrwydd ar gynhyrchion gofal iechyd i gydymffurfio â safonau diogelwch caeth, y gwir amdani yw nad yw pob cynnig yn addas i gael ei ddatblygu.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn awyddus i glywed gan unrhyw fusnes a allai fod o gymorth ac arweiniad i'r rhai sy'n dymuno gwneud cynigion ar gael drwy ein tudalennau cwestiynau cyffredin.
Wrth i gyfyngiadau gychwyn ar ddiwedd mis Mawrth, cynhaliwyd digwyddiad rhithwir mawr ar draws y diwydiant a welodd dros 150 o sefydliadau yn dod at ei gilydd i drafod ffyrdd o fynd i'r afael â Covid-19. Ers hynny, mae cannoedd o fusnesau, ar draws amryw o sectorau, wedi dod ymlaen.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau bywyd Cymru:
"Ein cylch gwaith yw hwyluso cydweithio rhwng y diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda'n cydweithwyr ym maes caffael ac yn cymryd ymagwedd Cymru gyfan wrth ymateb i gynigion o gymorth gan ddiwydiant wrth i ni wynebu gofynion coronafeirws a'r pwysau ar ein systemau iechyd a gofal."
Cynyddu Cynhyrchiant
Dros y misoedd diwethaf, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi gweithio'n agos gyda chyflenwyr o Gymru i gynyddu eu cynhyrchiant.
Yn arbennig, rydym wedi cefnogi distyllwyr Cymru i newid eu prosesau cynhyrchu yn gyflym i greu diheintydd dwylo, gan sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar y deunyddiau a'r arbenigedd sydd eu hangen i gynhyrchu a dosbarthu'r cynhyrchion hyn yn ddiogel.
Mae hyn wedi arwain at gynhyrchion allweddol yn cael eu rhoi ar lwybr carlam o fewn GIG Cymru er mwyn eu cael i'r mannau lle mae eu hangen ar frys.
Gwneud gwahaniaeth
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi prosesu miloedd o ymholiadau gan fusnesau sy'n cynnig cymorth gan gynnwys cwmni o Gaerdydd a Llanelli, BCB International, sydd ag hanes o 160 mlynedd o greu cynhyrchion achub bywyd sy'n dyddio'n ôl i Ryfel y Crimea.
Yn dilyn ei gyflwyniad cychwynnol, mae BCB wedi llwyddo i wneud cynnyrch diheintio alcohol cryf, PPE ac offer meddygol ymatebwyr cyntaf ar gael i GIG Cymru.
Mae cefnogaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru hefyd wedi helpu cwmni o Gaerffili,Transcend Packaging, sy'n gweithgynhyrchu gwellt papur ar gyfer McDonald's, i gael ei ardystio i gynhyrchu PPE yn ystod Covid-19.
Yn yr un modd, rydym wedi helpu cwmnïau fel cwmni o Sir Ddinbych, Workplace-Worksafe,i drosoli eu cysylltiadau presennol gyda gweithgynhyrchwyr yn y DU ac yn rhyngwladol i brynu a chyflenwi cynhyrchion PPE ardystiedig sydd eu hangen ac sydd mewn galw yn fyd-eang.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
"Ar adeg o argyfwng iechyd cyhoeddus cenedlaethol, mae busnesau mewn amrywiaeth o sectorau yn parhau i chwarae eu rhan i gefnogi ein GIG ac achub bywydau yn y pen draw.
"Mae gennym rai o'r busnesau gorau yn y byd yma yng Nghymru, nid yn unig ar gyfer y cynnyrch a'r gwasanaethau a gynigiant ond ar gyfer y moeseg maent yn arddangos bob dydd. Nid yw hynny erioed wedi bod yn fwy amlwg nag yn awr.
"Hoffwn hefyd ddiolch i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a'i staff am y rôl hollbwysig y maent wedi'i chwarae wrth gefnogi ein hymdrechion yn erbyn y firws hwn. Drwy ddod ag arloesedd a chydweithredu ynghyd ar frys, maent wedi helpu i sicrhau bod ein hymateb yn effeithlon ac yn effeithiol. "
Dylai busnesau sydd am gyflwyno cynigion o gymorth yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws wneud hynny drwy ein tudalennau Covid-19 pwrpasol.