Trydydd parti

Mae’r her yn chwilio am ddatblygiadau arloesol sy’n arwain at ddiagnosis cynharach a chyflymach, gostyngiad mewn amseroedd aros, gwelliannau i effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd triniaeth a chymorth gofal lliniarol.

Two scientists working in a laboratory

Mae’r Her Ganser gyffrous hon, sef y gyntaf o’i math, yn gydweithrediad rhwng SBRI – y Ganolfan Rhagoriaeth yng Nghymru – ac Uned Arloesedd a Datblygu’r Farchnad yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r her yn chwilio am ddatblygiadau arloesol sy’n arwain at ddiagnosis cynharach a chyflymach, gostyngiad mewn amseroedd aros, gwelliannau i effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd triniaeth a chymorth gofal lliniarol.

Mae cyllid cyfredol o £1,000,000 ar gael i bortffolio o brosiectau (a all fod yn agored i newid, yn dibynnu ar nifer/ansawdd y cyflwyniadau sy’n dod i law). Rydym yn chwilio am ystod eang o brosiectau – o arddangosiadau cyflym neu gost isel i arddangoswyr ar raddfa fawr.

Gellir darllen copi llawn o Friff yr Her yma: Cyflymu’r broses o roi diagnosis, rheoli a chefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis o ganser yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. Dylid cyflwyno pob cais drwy’r ddolen hon.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gael gwybod mwy am yr her, cysylltwch â’r Ganolfan SBRI, neu cofrestrwch ar gyfer y Digwyddiad Briffio ar 10 Medi 2024 am 1pm: Digwyddiad Briffio SBRI: Cofrestrwch yma.