Tynnwyd sylw at bwysigrwydd Cymru i sector gwyddorau bywyd y DU mewn dwy set o ffigurau diweddar sy’n dangos perfformiad cryf mewn agweddau allweddol ar fusnesau gwyddorau bywyd yng Nghymru. 

Joerg Fischer, Finance Director at Siemens Healthineers Llanberis welcoming Vaughan Gething, Minister for Economy, Welsh Government. 

Mae Ffigurau gan y Swyddfa Gwyddorau Bywyd (OLS), a ryddhawyd ar 01 Rhagfyr 2022 ac sy’n cynnwys data hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol yn 2021, yn dangos twf cryf yn incwm a chyflogaeth busnesau gwyddorau bywyd yng Nghymru. 

Yn y cyfamser, mae’r ffigurau allforio diweddaraf ar gyfer Cymru yn dangos dylanwad byd-eang cynyddol gwyddorau bywyd Cymru. Mae’r ffigurau, a gyhoeddwyd ar 19 Rhagfyr 2022, ac sy’n cynnwys data hyd at drydydd chwarter 2022, yn dangos twf sylweddol mewn allforion ar gyfer y diwydiant gwyddorau bywyd. 

Y Prif Bwyntiau: 

  • Mae ffigurau OLS yn dangos bod twf incwm busnesau gwyddorau bywyd yng Nghymru yn uwch na thwf busnesau yng ngweddill y DU. Mae'r diwydiant wedi cynhyrchu £2.62 biliwn mewn trosiant yng Nghymru – cynnydd o 12.1% ers y flwyddyn flaenorol – o’i gymharu â chynnydd o 9% yn nhrosiant busnesau gwyddorau bywyd ledled y DU fel cyfangorff.  
  • Mae nifer y bobl oedd yn cael eu cyflogi yn y diwydiant yng Nghymru hefyd wedi cynyddu 1.9%, gan barhau â’r tuedd o dwf cyson mewn ffigurau cyflogaeth, a chadw’n wastad â’r ffigurau twf cyflogaeth a welwyd yng ngweddill y DU. 
  • Mae nifer y busnesau gwyddorau bywyd sy’n gweithredu yng Nghymru wedi aros yn gadarn, gyda chynnydd bach o 0.4%, ar ôl gweld gostyngiad yn nifer y busnesau mewn blynyddoedd blaenorol. 
  • Mae’r ffigurau allforio diweddaraf yn dangos bod nwyddau ‘Meddyginiaethol a Fferyllol’ ymhlith y 5 cynnyrch uchaf a oedd yn cael eu hallforio o Gymru. Gyda gwerth blynyddol o £1.1 biliwn, roedd yr allforion fferyllol diweddaraf wedi codi dros 30% o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol. 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

“Roeddwn i’n falch o weld y ffigurau diweddaraf yn dangos cryfder y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru, ond doeddwn i ddim yn synnu. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati’n rhagweithiol i gefnogi twf y diwydiant ac wedi creu amgylchedd lle gall busnesau gwyddorau bywyd ffynnu.  

Fel mae'r ymateb unedig i Covid-19 wedi dangos, rydyn ni hefyd wedi gweld y diwydiant yn dod at ei gilydd go iawn, gyda busnesau a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio’n fwy effeithiol nag erioed i ddod o hyd i atebion i heriau gwirioneddol ym maes iechyd a gofal. Mae hyn wedi bod yn beth cadarnhaol iawn i gleifion ac i’r diwydiant fel ei gilydd, ac rydyn ni yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o fod wedi chwarae rhan yn hynny.  

O ystyried y datblygiadau cyffrous a welsom yn 2022, gan gynnwys cwmnïau rhyngwladol mawr yn tyfu yng Nghymru a llawer o fusnesau newydd ac arloesol yn cael eu lansio, rwy'n credu y byddwn yn gweld tystiolaeth gryfach fyth o bŵer gwyddorau bywyd Cymru yn y blynyddoedd i ddod.” 

Mae Cymru wedi gweld twf sylweddol yn y sector gan gwmnïau fel QuidelOrtho, sefydliad byd-eang sy’n cynhyrchu cynnyrch gofal iechyd diagnostig arloesol gyda chyfleusterau gweithgynhyrchu ym Mhencoed; a BBI, sydd wedi’u lleoli yng Nghrymlin ac sy’n darparu gwasanaethau datblygu a gweithgynhyrchu profion imiwno-adnabod i gleientiaid ledled y byd. Hefyd, yn ddiweddar cyhoeddodd Siemens Healthineers, y cwmni technoleg feddygol byd-eang blaenllaw, gynlluniau i uwchraddio ei gyfleuster yn Llanberis, ynghyd â chreu 100 o swyddi newydd, gyda chymorth Llywodraeth Cymru. 

Dywedodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi: 

“Mae ein sector gwyddorau bywyd yn rhan hollbwysig o economi Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn benderfynol o gefnogi’r sector i dyfu a ffynnu, ac mae’r canlyniadau diweddaraf hyn yn dangos bod cymorth yn wirioneddol yn dwyn ffrwyth. 

“Nid yn unig mae ein cwmnïau gwyddorau bywyd yn creu ac yn darparu swyddi o ansawdd uchel i bobl ledled Cymru, ond maen nhw hefyd yn datblygu cynnyrch a gwasanaethau sy’n mynd i’r afael â’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu fel cymdeithas heddiw. Mae hyn yn hanfodol wrth i ni barhau i adfer ar ôl pandemig Covid, gan alluogi pobl i fyw bywydau cynhyrchiol ac iachach.”  

Un stori lwyddiant yng Nghymru yw CellPath - mae’n arbenigo mewn gweithgynhyrchu a chyflenwi nwyddau traul, offer a gwasanaethau ledled y byd i’r sector patholeg gellog. Corfforwyd y cwmni ym 1990 ac mae’n gweithredu allan o’i bencadlys yn y Drenewydd, Powys. Ers hynny, mae wedi tyfu’n sylweddol i fod yn gwmni ffyniannus gyda throsiant gwerth miliynau o bunnoedd.

Dywed y Cyfarwyddwr Paul Webber:  

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld twf sylweddol o un flwyddyn i’r llall, wedi’i sbarduno gan ein gwerthiannau yn y DU a dramor. A ninnau wedi ein lleoli yng nghanolbarth Cymru ochr yn ochr â’n tîm o reolwyr tiriogaeth ledled y DU, rydyn ni’n gallu meithrin perthynas agos â phrifysgolion a’r GIG, ac mae’n rhoi’r cyfle i ni gael gweithlu lleol hynod o gryf, profiadol a ffyddlon. Ar ben hynny, mae’r cymorth arloesi rydyn ni wedi’i gael gan Lywodraeth Cymru yn sicr wedi caniatáu i ni roi ein cynlluniau twf ar waith a phrofi’r cynnydd rydyn ni’n ei weld ar hyn o bryd.” 

Yn y cyfamser, mae Llusern Scientific, sy’n arbenigo mewn diagnosteg foleciwlaidd fforddiadwy, symudol a hawdd ei defnyddio, yn un o nifer o gwmnïau gwyddorau bywyd newydd a lansiwyd yn ddiweddar yng Nghymru.

Dywedodd Emma Hayhurst, Prif Weithredwr y cwmni:  

“Allem ni ddim dychmygu lansio ein busnes yn unman arall. Nid yn unig rydyn ni wedi’n hamgylchynu â llawer o arloeswyr newydd eraill, ond mae’r amgylchedd cefnogol yno ar gyfer sefydlu cwmni deillio wedi bod yn amhrisiadwy. Rydyn ni wedi cael cymorth i ddatblygu ein gwefan, casglu ein data clinigol, arddangos ein cynnyrch yn y DU ac yn rhyngwladol, datblygu cysylltiadau â chwsmeriaid ac agor ein rownd gyllido gyntaf.” 

Yn ogystal â’r ffigurau diweddar, amlygwyd arwyddocâd sector gwyddorau bywyd Cymru tua diwedd y llynedd gan Ysgrifennydd Masnach y DU, Kemi Badenoch, mewn ymweliad â Chymru. Yn ystod yr ymweliad, roedd yr Ysgrifennydd Masnach wedi disgrifio Cymru fel rhywle oedd “yn hollbwysig i’n sector gwyddorau bywyd” yn ogystal â rhywle oedd yn “hybu safle'r DU fel archbŵer gwyddoniaeth”.   

Gall busnesau gwyddorau bywyd sy’n gweithredu yng Nghymru (neu sy’n ystyried gwneud hynny) gael mynediad at amrywiaeth o gymorth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. O arloesi a chymorth â phrosiectau wedi'i deilwra, i gyflwyniadau a chyfleoedd i rwydweithio, cysylltwch â’u tîm o arbenigwyr i weld beth sydd ar gael yn https://lshubwales.com/cy/innovation-enquiry-form