Trydydd parti

Mae'r galwad am Geisiadau (Carfan 9) Rhaglen Esiamplwyr Bevan bellach ar agor ac yn cau am 11:59yh ar 14eg o Orffennaf 2024.

Two scientists looking at a screen

Mae Rhaglen Esiamplwyr Bevan, a gyflwynir gan Gomisiwn Bevan a'i noddi'n garedig gan Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG ar draws Cymru, yn cefnogi gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal i ddefnyddio eu syniadau arloesol a gochelgar a'u trosi'n ymarfer er mwyn arwain newid cadarnhaol ar draws systemau iechyd a gofal yng Nghymru. 

Mae'r hymagwedd 'rhowch gynnig arni' dros 12 mis yn rhoi hyfforddiant, mentora ac amgylchedd cefnogol i herio meddwl presennol, datblygu sgiliau a hyder, a rhoi mewnwelediad arbenigol er mwyn galluogi ein Hesiamplwyr i ddatblygu'n arweinwyr newid, gan drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal ar draws Cymru ac o'i mewn. 

Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae rhaglen Esiamplwyr Bevan wedi cefnogi dros 350 o brosiectau arloesi gwahanol, gan rychwantu amrywiaeth o arbenigeddau a bellach mae'n paratoi i groesawu ei hwythfed garfan. Mae carfannau blaenorol o Esiamplwyr wedi cael llwyddiant sylweddol ac wedi cyflwyno effaith gadarnhaol nodedig, gyda llawer o brosiectau ein Hesiamplwyr yn cael eu cydnabod ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol gan dderbyn gwobrau ac acoladau eraill.  
 

Eleni, mae Comisiwn Bevan yn annog ceisiadau am brosiectau sy'n cyd-fynd â'r themâu canlynol:

  • Cefnogi atal, diagnosisau buan a thriniaethau (yn ymwneud yn benodol â Chanser)
  • Mynd i’r afael â materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl ac iechyd menywod
  • Trawsnewid gofal ar gyfer y rheiny sydd â chyflyrau tymor hir (er enghraifft Diabetes a Chlefyd Cardiofasgwlaidd)
  • Cefnogi pobl hŷn, eiddilwch ac atal cwympo
  • Datblygu pobl a chymunedau gwydn a dyfeisgar
  • Lleihau gwastraff ar draws iechyd a gofal cymdeithasol
  • Integreiddio gofal a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau
  • Defnyddio data a thechnoleg i gefnogi newid systemau

 
Mae Rhaglen Esiamplwyr Bevan ar agor i unrhyw un sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar draws GIG Cymru, Awdurdodau Lleol a'r Sector Gwirfoddol. Serch hynny, rhaid i brosiectau gael eu cefnogi gan un o Fyrddau neu Ymddiriedolaethau Iechyd GIG Cymru a/neu eich sefydliad.

Bydd yr alwad am geisiadau i Garfan 9 Rhaglen Esiamplwyr Bevan ar agor o 8fed o Fai ac yn cau am 11:59 yh ar 14eg o Orffennaf 2024

Mae mwy o wybodaeth am Alwad am Geisiadau Carfan 9 Rhaglen Esiamplwyr Bevan, gan gynnwys mynediad at y ffurflen gais ar gael yma