Mae gan Gymru her i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd - o'r crud i'r bedd - a gweithredu ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd. Yn y darn hwn allan o gyfres erthyglau barn Comisiwn Bevan, mae'r Athro Syr Michael Marmot (Comisiynydd Bevan) a'i gydweithwyr Dr Angela Donkin a Dr Frances Macguire o'r Sefydliad Tegwch Iechyd yn trafod sut y gall Cymru wneud newid cadarnhaol drwy bolisi, addysg ac eiriolaeth.

Checklist

Mae'n newyddion da i Gymru bod disgwyl i fwy o bobl fyw yn hirach, ac yn wir, rhagwelir y bydd poblogaeth y rhai hynny sy'n 75 oed a hŷn yn cynyddu 50% rhwng 2014 a 2030.  Fodd bynnag, mae dau bwynt pwysig i'w nodi. Yn gyntaf - nid yw disgwyliad oes wedi bod yn cynyddu mor gyflym yng Nghymru ag y mae wedi yn Lloegr. Yn ail, ynghyd â gweddill y DU, mae anghydraddoldebau iechyd amlwg, gyda bwlch oedran oddeutu 10 mlynedd rhwng disgwyliad oes y rhai hynny sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig a'r rhai hynny sy'n byw mewn ardaloedd llai difreintiedig mewn rhai ardaloedd yng Nghaerdydd.  

Yn ogystal â bod yn anghyfiawnder cymdeithasol, mae anghydraddoldebau iechyd yn costio o oddeutu £3-4 biliwn bob blwyddyn drwy daliadau lles uwch, colledion o ran cynhyrchiant a threth, a rhagor o salwch.

Anghyfartaledd o'r crud

Wrth ganolbwyntio ar ddisgwyliad oes yn unig ni cheir y darlun cyflawn, ac wrth wneud hynny rydym yn tueddu i roi sylw i bobl hŷn.  Ar begwn arall y sbectrwm, dengys dangosyddion iechyd ar gyfer plant dueddiadau tebyg, er enghraifft mae gordewdra ymhlith plant yn amrywio rhwng y cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig. Mae 28.4% o blant sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig naill ai dros eu pwysau neu'n ordew o'i gymharu â 20.9% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig

Mae dwywaith cymaint o'r plant sy'n byw ym Merthyr Tudful, er enghraifft, yn ordew o'i gymharu â'r plant sy'n byw ym Mro Morgannwg (14.7% Merthyr Tudful, 7.3% Bro Morgannwg). Dengys achosion o anafiadau a phydredd dannedd yn ystod plentyndod batrymau tebyg.

Er bod cyfraddau marwolaethau babanod wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru, mae cyfraddau marwolaethau babanod a newyddanedigion yn parhau i fod ar eu huchaf yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o'r wlad, bron i 50% yn fwy nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae plant sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ddwywaith yn fwy tebygol o fod â phwysau geni isel a hanner mor debygol o gael eu bwydo ar y fron o'i gymharu â phlant yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, o'r crud, a thrwy gydol cwrs bywyd yn hanfodol.

Gweithredu lleol a chenedlaethol

Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru yn gofyn am gyfuniad o wleidyddiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ysbryd o gyfiawnder cymdeithasol, gan weithredu yn ôl etifeddiaeth Aneurin Bevan. Roedd adolygiad Marmot a gynhaliwyd gan y Sefydliad Tegwch Iechyd (IHE) yn nodi chwe amcan polisi.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi amlinellu amrywiaeth gysylltiedig o fecanweithiau i leihau afiechyd ac anghydraddoldebau. Er bod yna fwy o ffocws ar ymddygiad yma mae cydnabyddiaeth glir o'r angen i leihau tlodi.

Yn amlwg nid yw'r holl amcanion polisi o fewn cylch gwaith traddodiadol gweinyddiaethau iechyd llywodraeth. I lwyddo a symud ymlaen, mae gweithredu ar y cyd gyda chefnogaeth gan holl adrannau'r llywodraeth yn ofynnol.  Mae'n hynod galonogol, felly, fod Llywodraeth Cymru ar flaen y gad o ran ei syniadaeth yn y maes hwn.  Mae dwy ddeddf bwysig wedi cael eu pasio'n ddiweddar yng Nghymru. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff cyhoeddus gydweithio ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor Cymru a'i phobl.

Yn ogystal, wrth wraidd gwireddu newid, mae awdurdodau lleol, ac arweinwyr ymrwymedig. Gall unigolion lleol hefyd annog newid cadarnhaol drwy gwmnïau buddiant cymunedol. Gellir defnyddio'r rhain i sefydlu clybiau chwaraeon lleol neu grwpiau iechyd a lles sy'n cynyddu cysylltiad pobl â gweithgarwch corfforol a'u mynediad ato.

Mae newid yn bosibl

Ers yr adolygiad yn 2010, mae IHE wedi parhau i adeiladu'r sylfaen dystiolaeth ar anghydraddoldebau iechyd, ac yn sgil galw, wedi ysgrifennu nifer o adroddiadau i gynorthwyo rhoi'r argymhellion hyn ar waith.  Yn ganolog i'r gwaith hwn mae ymrwymiad cadarn gan swyddogion iechyd cyhoeddus i wella penderfynyddion cymdeithasol iechyd, yn genedlaethol yn yr asiantaethau iechyd, ac yn lleol. 

Mae'r gwaith ar ddangosyddion a wneir gennym yn flynyddol yn monitro cynnydd ar draws holl feysydd pob un o'r amcanion polisi, ac mae'n glir bod rhai ardaloedd, ar gyfer pob dangosydd, a derbyn bod lefel penodol o amddifadedd, yn gwneud yn well na'r disgwyl.  Er enghraifft, edrychom hefyd ar y perfformwyr gorau a gwaethaf yn nhermau'r bwlch o ran cyrhaeddiad pan yn 5 mlwydd oed rhwng y grŵp cyfan a'r rhai hynny y gallant fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Ar gyfartaledd yn Lloegr mae yna wahaniaeth o 15.6 pwynt canran, ond yn Hackney, dim ond gwahaniaeth o 4.2 pwynt canran ydyw, o'i gymharu â Chaerfaddon a Gwlad yr Haf, lle mae bron yn wahaniaeth o 30 pwynt canran.  Yn amlwg, mae Hackney yn gwneud rhywbeth yn iawn.  Dylai rhannu arferion da'r ardaloedd sy'n perfformio orau fod yn flaenoriaeth polisi allweddol.

Ni wnaeth llywodraeth Lloegr ddilyn yr holl argymhellion yn adolygiad Marmot, ac roedd ei thawelwch ar y mater o gael isafswm incwm ar gyfer byw'n iach yn hysbys iawn. Mae tystiolaeth o Ystadegau'r UE ar Incwm ac Amodau Byw (EU-Silc) yn dangos bod amddifadedd materol yn rhagfynegydd cryf o salwch hunangofnodedig, llawer mwy nag incwm ei hun neu addysg. 

Dylai sicrhau bod gan bobl incwm digonol i fod yn iach fod yn flaenoriaeth polisi a arweinir gan y llywodraeth ganolog, a hynny yn enwedig oherwydd y bydd incwm annigonol yn golygu mwy o gostau i'r gwasanaethau iechyd yn y pen draw.  Rydym yn gwybod bod gan Sweden y lefelau amddifadedd isaf yn Ewrop, nid yw'n syndod felly fod ganddynt anghydraddoldebau iechyd bychain o'i gymharu â'r DU.  Efallai y bydd ardaloedd lleol yn cael trafferth i fynd i'r afael â chyni economaidd, ond efallai y byddant yn dymuno cyflwyno gofyniad ar gyrff cyhoeddus i dalu’r cyflog byw go iawn a cheisio annog cyflogwyr preifat lleol i wneud yr un fath. 

Symud ymlaen gyda'r proffesiwn iechyd

Mae gan weithwyr iechyd proffesiynol rôl bwysig ond yn aml un na fanteisir ddigon arni wrth leihau anghydraddoldebau iechyd. Mae'r gweithlu iechyd mewn sefyllfa dda i ddatblygu gwasanaethau sy'n cael effaith ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd ehangach a lleihau anghydraddoldebau drwy:

  • Addysgu a hyfforddi'r gweithlu
  • Cymryd camau ymarferol wrth ryngweithio â chleifion
  • Dulliau o weithio mewn Partneriaeth
  • Ac eiriolaeth.

O ystyried bod salwch yn datblygu o ganlyniad i'r amodau mae pobl yn cael eu geni, yn tyfu, yn byw, yn gweithio ac yn heneiddio ynddynt - penderfynyddion cymdeithasol iechyd - mae'n glir bod gan bob asiantaeth rôl i'w chwarae wrth leihau achosion salwch ac, yn wir, achosion yr achosion. Dylai gweithredu ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd fod yn rhan greiddiol o fusnes gweithwyr iechyd proffesiynol, gan ei fod yn gwella canlyniadau clinigol, ac yn arbed arian ac amser yn y tymor hir. Fodd bynnag, yn bwysicach, mae cymryd camau i leihau anghydraddoldebau iechyd yn fater o gyfiawnder cymdeithasol ac mae gan bob sector o'r gymdeithas rôl i'w chwarae wrth leihau anghydraddoldebau.

Galwad i weithredu

Mae anghyfiawnder cymdeithasol yn lladd ar raddfa fawr. Gwyddom y gellir sicrhau gwell tegwch o ran iechyd drwy weithredu ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd gan fabwysiadu dull gydol oes a dilyn arferion gorau sydd eisoes yn eu lle.  Wrth gwrs, mae yna bob amser le i wella a dylid annog a gwerthuso mentrau newydd, ond mae'n bosibl newid canlyniadau er gwell: yn awr.

Yr Athro Syr Michael G Marmot, Dr Angela J M Donkin, Dr Frances AS MacGuire, y Sefydliad Tegwch Iechyd yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL).

Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol yng nghyfres erthyglau barn Comisiwn Bevan ac mae'n fersiwn byrrach o'r bennod 'Addressing Health Inequalities in Wales' sy'n ymddangos yn y llyfr '70 years on – what next? Personal reflections on the NHS in Wales from the Bevan Commission'.