Mewn partneriaeth â menter gymdeithasol sydd wedi’i lleoli yn Abercynon, Anturiaethau Organig Cwm Cynon, mae tîm Cyflymu Arloesi Clinigol Prifysgol Caerdydd yn falch o arddangos ei brosiect Cyflymu cyffrous, ‘Presgripsiynu Gwyrdd’, yn ein hastudiaeth achos fideo ddiweddaraf.

Mae Presgripsiynu Gwyrdd yn cyflwyno dewis arall yn lle presgripsiynau confensiynol ar gyfer triniaeth feddygol, lle mae gweithwyr iechyd proffesiynol a phresgripsiynwyr cymdeithasol eraill yn annog unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau ym myd natur, megis garddio, plannu a gwaith cadwraeth, er mwyn helpu i wella eu hiechyd corfforol a’u lles meddyliol.
Nod Anturiaethau Organig Cwm Cynon, yn ei goetir cymunedol a gardd 5 acer, yw datblygu, gwerthuso a hybu ymgysylltiad ag adnodd ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd. Gan weithio mewn partneriaeth ag ymchwilwyr arbenigol ac archeolegwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, maent yn cyd-gynhyrchu ac yn cyd-greu llwybr natur ystyriol o beillwyr, sy’n cynnwys gardd les Rufeinig, planhigion meddyginiaethol, blodau gwyllt a Thŷ Crwn Celtaidd go iawn. Bydd ardaloedd yn cael eu hadfer i’w topograffeg hanesyddol drwy archwilio olion paill.
Mae datblygu’r llwybr natur yn gyfle unigryw i edrych sut y mae creu adnodd o’r fath mewn gwirionedd yn helpu i wella iechyd meddwl y rhai sy’n cymryd rhan, drwy atgyfeiriadau Presgripsiynu Gwyrdd. Gwneir hyn ar y cyd â’r bwrdd iechyd lleol, meddygon teulu, gweithwyr cyswllt a phobl eraill sy’n dylanwadu ar weithgarwch presgripsiynu cymdeithasol yn y gymuned.
Mae’r rhaglen Cyflymu wedi darparu cysylltiadau o dair prifysgol er mwyn helpu i addasu ac esblygu dulliau’r fenter o fesur, a dangos sut y mae natur yn cael effaith ar ein lles.
Mae staff Prifysgol Caerdydd wedi rhoi eu hamser a’u harbenigedd i wneud y prosiect Presgripsiynu Gwyrdd yn fwy hygyrch, addysgol a rhyngweithiol; herio camliwio a darparu tystiolaeth gredadwy ar gyfer pwnc sy’n datblygu, lle mae ymchwil cynhwysfawr a data ymarferol yn gymharol brin.
Darparwyd cyllid hefyd, ynghyd â chefnogaeth ymarferol i gynhyrchu data sy’n torri tir newydd, er mwyn hybu cynnydd prosiectau eraill yn y dyfodol. O ganlyniad, mae Anturiaethau Organig Cwm Cynon wedi gallu cysylltu â chlystyrau gofal iechyd yn yr ardal, er mwyn cyfeirio unigolion i helpu i adeiladu’r llwybr natur, a mesur beth mae ‘iechyd gwyrdd’ yn ei olygu i bobl a’r cymunedau lle maent yn byw.
Janis Werrett, cyd-sylfaenydd Anturiaethau Organig Cwm Cynon:
“Ar y safle rydym yn cynnig gwasanaethau Addysg amgen, ond mae meddygon, byrddau iechyd ac elusennau yn cyfeirio pobl atom ar gyfer llesiant. Pan wnes i ddechrau gweithio ar y tir, roeddwn i mewn lle braidd yn dywyll fy hun, ond fe wnes i ddarganfod fy mod yn dechrau cryfhau wrth ddod yma bob diwrnod, felly fe wnes i brofi manteision natur a llesiant fy hun a dweud y gwir.”
Gobeithio, drwy’r cydweithrediad hwn, y gall y fenter hybu llesiant drwy addysg ac ymgysylltu, cynyddu ymwybyddiaeth o fanteision presgripsiynu gwyrdd i’r boblogaeth leol ac ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ym maes gofal sylfaenol yn Ne Cynon, a chynnig tystiolaeth o lwyddiant o’r fath er mwyn datblygu model y gellir ei weithredu ledled Cymru. Fel arwydd cynnar o’i lwyddiant enillodd y prosiect wobr anrhydeddus Prosiect y Flwyddyn Loteri Genedlaethol Cymru 2021.
Mae Cyflymu yn cael ei arwain gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i fusnesau bach a chanolig a Mentrau yng Nghymru fanteisio ar arbenigedd academaidd, a’r cyfleusterau diweddaraf sydd eu hangen ar arloeswyr ac entrepreneuriaid er mwyn gwireddu eu syniadau.
Yr Athro Les Baillie, Prifysgol Caerdydd:
“Sefydlwyd y prosiect yma yn Abercynon gan Janis a’i chydweithwyr ac mae’n enghraifft wych o’r hyn y gall unigolion ei wneud er mwyn newid eu hamgylchedd. Felly, mae prosiectau fel Cyflymu yn chwarae rhan allweddol drwy gysylltu’r syniad da â phobl sydd â’r gallu i ddatblygu hynny fel cynnyrch.”
Yr Athro Kamila Hawthorne, meddyg teulu ym Meddygfa Glan Cynon:
“Rydyn ni’n lwcus iawn bod y lle hwn mor agos at ein practis, ac mewn gwirionedd ein clwstwr o bractisiau yn y Cwm, ac mae llawer ohonynt yn ei ddefnyddio. Mae’r unigolion rydw i wedi eu dilyn i’w gweld yn cael budd mawr o ddod yma. Mae’n ymddangos bod manteision, ond mewn gwirionedd, mae angen arnom ymchwil wedi’i gynllunio’n iawn er mwyn i ni allu mesur faint o iechyd gwyrdd y mae ar rhywun ei angen, a pha mor aml, y math yna o gwestiynau nad oes gennym atebion iddynt.”
Mae’r rhaglen Cyflymu wedi’i hymestyn yn awr tan fis Rhagfyr 2022. Os hoffech ddarganfod mwy ynglŷn â sut y gallai’r rhaglen gefnogi eich syniad da neu eich arloesiad chi, cysylltwch â ni heddiw drwy helo@hwbgbcymru.com.