Dyfarnodd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Gymrodoriaeth Ymchwil i arwain prosiect arloesol ar ganfod briwiau mater gwyn yr ymennydd a'u cydberthynas â cholli clyw, tinitws a phroblemau cydbwysedd.
Mae Helen Slade yn Ddarlithydd Awdioleg ym Mhrifysgol Abertawe ac mae hi wedi bod yn gweithio rhan-amser yn yr adran Awdioleg yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Yn ystod ei gwaith, mae hi wedi bod yn canolbwyntio ar brosiect sy’n ymwneud â chanfod briwiau yn ngwynnin yr ymennydd a’u cysylltiad â cholli clyw, tinitws a phroblemau cydbwysedd drwy ddeallusrwydd artiffisial (AI). Dechreuodd y syniad ymchwil gwreiddiol fel trafodaeth archwiliol syml rhwng Dr Jonathan Arthur, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Pennaeth Awdioleg yn BIP CTM a Dr Emma Richards, Uwch Swyddog Ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) ym Mhrifysgol Abertawe. Dyma oedd y man cychwyn ar gyfer ymchwil ar y cyd rhwng grŵp amrywiol o ymchwilwyr.
Yn ogystal â Jonathan ac Emma, bydd Helen yn arwain y bartneriaeth ymchwil rhwng yr Athro Andrea Tales, Cyd-gyfarwyddwr CADR, yr Athro Huw Summers, Pennaeth yr Adran Peirianneg Fiofeddygol, o Brifysgol Abertawe ac Antony Bayer, Athro Emeritws Meddygaeth Geriatrig, Prifysgol Caerdydd.
Ariannwyd yr ymchwil hon yn y lle cyntaf drwy grant bach yr oedd Dr Emma Richards yn y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) wedi’i sicrhau. Roedd y cyllid cychwynnol wedi galluogi Helen i sefydlu a pharatoi moeseg ymchwil a dogfennau perthnasol eraill fel gwybodaeth ar gyfer cyfranogwyr ymchwil posibl yn barod ar gyfer casglu data.
Mae Helen bellach wedi llwyddo i sicrhau Cymrodoriaeth Ymchwil gan Gydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru (RCBC Cymru). Fel rhan o'r dyfarniad cymrodoriaeth ymchwil, bydd y prosiect hwn yn gallu parhau. Bydd Helen nawr yn ymgymryd ag un o’r rolau Cymrawd Ymchwil Glinigol mewn Awdioleg rhan-amser cyntaf, os nad y cyntaf, yn GIG Cymru. Fel Cymrawd, bydd Helen yn mynd i gyfarfodydd deufisol Cymuned yr Ysgolorion, sy'n rhoi cyfle i rwydweithio a chael gwybodaeth a sgiliau ymchwil unigryw.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil, byddwch yn gallu cael yr wybodaeth ddiweddaraf am canfyddiadau ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Slade, Awdiolegydd Ymchwil a Darlithydd drwy e-bost: helen.slade@wales.nhs.uk / h.m.slade@swansea.ac.uk neu
Dr Emma Richards drwy e-bost: e.v.richards@swansea.ac.uk.