Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn croesawu safbwynt y Prif Weinidog bod arloesi ym maes gofal iechyd yn ganolog i sicrhau nad yw'r diwylliant o gyflawni pethau'n gyflym yn y gwasanaeth iechyd yn ystod pandemig y coronafeirws yn cael ei golli wrth symud ymlaen.

Mark Drakeford - First Minister of Wales



Yn ei gyfweliad cyntaf yn dilyn etholiad y Senedd, dywedodd yr Athro Mark Drakeford AC wrth Wales Online

"Ac yna arloesi, gan sicrhau bod yr holl bethau y mae'r gwasanaeth iechyd wedi'u gwneud mor gyflym i ymdopi â coronafeirws fel nad ydym yn colli'r diwylliant hwnnw o gyflawni pethau'n gyflym a gwneud pethau'n wahanol oherwydd er mwyn cael y gwasanaeth iechyd yn ôl ar ei draed, nid yw’n ddigon ceisio mynd yn ôl i'r ffordd yr oedd pethau cyn i'r coronafeirws ddechrau."

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

"Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio gyda'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, y byd academaidd a diwydiant i gyflymu'r broses o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol ar gyfer gwell iechyd a lles.

"Dros y flwyddyn diwethaf, rydym wedi gweithio gyda chwmnïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i gefnogi GIG Cymru i ymateb i bandemig y coronafeirws. Mae'r sector gwyddorau bywyd yn bartner ac yn alluogwr allweddol wrth gefnogi gwasanaethau iechyd i adfer ac ailadeiladu o'r pandemig, ac ar yr un pryd yn darparu prosiectau sydd â'r potensial i ddod â chyflogaeth gynaliadwy ychwanegol i Gymru."

Ym mis Mai 2019, wrth siarad ar bodlediad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Healthy Thinking, siaradodd yr Athro Drakeford am bwysigrwydd arloesi o fewn darpariaeth iechyd fel ffactor pwysig wrth helpu i frwydro yn erbyn anghydraddoldeb:

"Rydyn ni'n gwybod bod yna bobl sy'n methu â chael yr hyn maent ei angen nad ydynt yn siarad ar eu rhan eu hunain, tra bod pobl eraill sydd â mwy o adnoddau, yn fwy gwybodus, mewn sefyllfa well rywsut i fynd i mewn yn gynnar a chael y driniaeth sydd ei hangen arnynt.

"Lle gallwn ddefnyddio arloesedd i erydu'r anghydraddoldebau hynny - yna bydd yr arloesi hwnnw wedi cynnig nid yn unig ffordd i ni wella gofal iechyd, ond bydd wedi ein helpu ar y daith i Gymru fwy cyfartal."

Dywedodd Dr Chris Martin, Cadeirydd dros dro Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Prif Weinidog a'i lywodraeth newydd i ddatblygu ein gweledigaeth gyffredin o wella iechyd a gofal pob teulu ledled Cymru drwy arloesi."