Mae QuicDNA a'i bartneriaid wedi bod yn fuddugol yng Ngwobrau Hyrwyddo Gofal Iechyd Cymru 2023, gan ennill dwy wobr am yr effaith drawsnewidiol maent wedi’i chael ar y sector gofal iechyd yng Nghymru, ac am botensial y prosiect o gael ei roi ar waith ar draws y wlad.
Enillodd y prosiect traws-sector yr Enillydd Cyffredinol o blith yr holl ymgeiswyr ar y rhestr fer ar draws pob categori a’r Wobr am Ffyrdd Newydd o Weithio, a oedd yn dathlu ei ddull arloesol o gyflymu’r llwybr triniaeth drwy ddiagnosis cynharach ar gyfer cleifion canser yr ysgyfaint.
Mae’r rhaglen yn gwerthuso profion biopsi hylifol mewn Byrddau Iechyd ledled Cymru dros gyfnod o 18 mis. Mae biopsi hylifol yn ddewis arall syml ac anymwthiol a wneir drwy brawf gwaed, yn lle biopsïau tiwmorau arferol. Gellir ei gasglu’n gynnar yn y llwybr diagnostig a darparu dadansoddiad genomig, sydd ei angen ar gyfer cynnal triniaethau wedi’u targedu. Y gobaith yw y bydd hyn yn golygu y gall cleifion ddechrau triniaeth yn gynt, a bod mwy o dystiolaeth hanfodol ar gael er mwyn caniatáu i brofion biopsi hylifol fod yn rhan safonol o ofal pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru.
Cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi yn ystod y Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd ar 20 Hydref ym Maes Criced Gerddi Sophia, Caerdydd. Roedd y seremoni, syn cael ei chynnal ers 16 o flynyddoedd, yn dathlu gwaith hanfodol gwyddonwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol perthynol sy’n sicrhau newid yn y system ledled Cymru.
Mae QuicDNA wedi dod â chasgliad o bartneriaid at ei gilydd, gan gynnwys Gwasanaethau Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWGMS), nifer o Fyrddau Iechyd yng Nghymru, y Ganolfan Treialon Ymchwil, Llywodraeth Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gwahanol bartneriaid yn y diwydiant gan gynnwys Illumina, yn ogystal â chyllid a chefnogaeth gan sefydliadau yn y trydydd sector, fel Moondance Cancer Initiative.
Roedd y Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd yn cydnabod bod ei ddull cydweithredol yn dangos yr arweinyddiaeth gref sydd ei hangen i drawsnewid ar lefel system mewn gofal iechyd yng Nghymru a gwella canlyniadau i’r bobl sy’n byw yma. Mae’r prosiect hefyd wedi cael ei yrru ymlaen gan waith codi arian ysbrydoledig gan yr eiriolwr cleifion, Craig Maxwell – sydd bellach wedi helpu i godi bron i £1 miliwn i gefnogi’r gwaith cyflwyno.
Cafodd dull arloesol QuicDNA hefyd ei amlygu drwy ddull arloesol AWGMS o gynnal profion genomig, sef yr unig labordy genomeg yn y GIG i gynnig profion biopsi hylifol mewnol ar gyfer panel genynnau mawr yn y DU.
Dywedodd Sian Morgan, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Labordy Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS):
“Rwy’n wirioneddol ddiolchgar bod Prosiect QuicDNA yn un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer gwobr ‘Ffyrdd Newydd o Weithio’ yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru eleni. Mae’n anrhydedd mawr i mi fod QuicDNA yn cael ei gydnabod fel hyn.
Mae prosiect QuicDNA wir yn brosiect o gydweithio rhwng y Gwasanaeth Iechyd, y trydydd sector, gwasanaethau fferyllol, diwydiant a chleifion. Rydym yn ddiolchgar bod y prosiect rydym mor angerddol amdano hefyd yn un y mae eraill yn gweld gwerth ynddo.
Rydym yn gobeithio bydd y gydnabyddiaeth hon gan Wobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru yn ysbrydoliaeth i eraill ym maes gofal iechyd. Rydym hefyd yn falch y bydd y prosiect yn galluogi cleifion sydd â chanser yr ysgyfaint i gael triniaethau yn gyflymach yn y dyfodol.”
Dywedodd Magda Meissner, Arweinydd Biopsi Hylif Clinigol yn AWMGS:
“Rwy’n hynod werthfawrogol bod QuicDNA wedi’i gydnabod drwy dderbyn dwy wobr. Mae’r prosiect hwn yn dangos sut y gall y byd academaidd, y GIG, diwydiant, a’r trydydd sector, gyda chefnogaeth amhrisiadwy cleifion anhygoel fel Craig Maxwell, gydweithio’n effeithiol. Ein nod yw cael effaith ystyrlon ar ddiagnosis a thriniaeth cleifion â chanser yr ysgyfaint, gan sicrhau eu bod yn cael triniaeth gyflymach a mwy effeithiol.”
Dywedodd Mark Robinson, Rheolwr Cyffredinol y DU ac Iwerddon, Illumina:
“Fel partner yn y diwydiant, mae Illumina yn falch iawn o weld tîm QuicDNA yn cael cydnabyddiaeth drwy'r gwobrau hyn. Mae’n brawf o ymroddiad, syniadau arloesol, a chydweithrediad llwyddiannus gan bob parti, er mwyn datblygu prawf gwaed biopsi hylifol ar gyfer diagnosis canser yr ysgyfaint er budd cleifion yn y pen draw.”
Yn ôl Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae QuicDNA yn brosiect gwirioneddol arloesol mewn sawl ffordd. Gallai ei ddadansoddiad genomig arloesol a ddarperir drwy AWGMS helpu cleifion canser i gael triniaeth hollbwysig yn gynt, ac mae hefyd wedi dwyn ynghyd ystod eang o bartneriaid o nifer o sectorau sy'n gweithio gyda'i gilydd i greu'r canlyniadau hyn. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o fod wedi cefnogi QuicDNA, ac rydym yn eithriadol o falch fod y prosiect wedi cael ei gydnabod drwy’r Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru.”
Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect, ewch i dudalen prosiect Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.