28 Tachwedd, bu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru lansio’r Her Arloesi Canser Cymrucyntaf.

Roedd y digwyddiad dau ddiwrnod yn cynnwys dros 100 o gynadleddwyr, gan gynnwys pobl o ar draws y diwydiant gwyddorau bywyd yn y DU a clinigwyr dros GIG Cymru.

pitch to the Dragons Den

Pwrpas y digwyddiad oedd i alluogi gweithwyr proffesiynol canser y GIG i nodi eu sialensau wrth ddarparu gofal a gweithio gyda y diwydiant i gynnig atebion y gellid eu graddio a'u mabwysiadu ledled Cymru.

Sut mae’r sialens yn gweithio

Yn dilyn ein galwad cenedlaethol, cawsom 32 o heriau a gyflwynwyd i banel o arbenigwyr. Cafodd yr heriau hyn eu cyflwyno ar y rhestr fer, a gwahoddwyd un ar ddeg o gyflwyniadau i'r digwyddiad.

Crynhowyd y digwyddiad Her Arloesi Canser yn berffaith gan Charlotte Bloodworth o Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, a ddywedodd:

"Rydyn ni'n gwybod beth rydyn ni eisiau, ond rydym angen eich help i wneud hynny."

Unwaith yr oedd yr holl heriau wedi'u cyflwyno, ffurfiwyd y timau. Roedd pob tîm yn gymysgedd hunanddewisol o gynrychiolwyr o'r GIG, y diwydiant gwyddorau bywyd a'r byd academaidd.

24 awr yn ddiweddarach, gwnaethom ailymgynnull, cafodd y prosiectau a'r datrysiadau newydd eu cyflwyno ar ffurf arddull 'Dragon's Den'.

Prosiectau llwyddiannus a ddyfarnwyd rhan o fuddsoddiad £50,000

Dyranwyd y cyllid rhwng pum enillydd teilwng. Gofynnwyd i brosiectau ddangos datrysiad effeithiol i angen clinigol nas diwallwyd ac amlinellu'n glir sut y byddai eu syniad yn gwella canlyniadau cleifion canser yng Nghymru.

Dyma'r pum prosiect llwyddiannus:

Hyfforddiant y genhedlaeth nesaf i weithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth ddelio â sepsis – Ymddiriedolaeth GIG Felindre a Phrifysgol Caerdydd

Pwyntio, clicio, diagnosio dermatoleg-Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac ARCH

Gwella canlyniadau a phrofiad cleifion sy'n cael trawsblaniad mêr esgyrn-Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd

Gwella effeithlonrwydd llwybrau cleifion drwy patholeg ddigidol-Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cynyddu recriwtio treialon clinigol-Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dyma beth oedd gan rai o'n mynychwyr i'w ddweud am y diwrnod:

“Roedd cynrychioli Olympus Medical yn Her Arloesi Canser - Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn brofiad gwych. Roedd gweld yr angerdd pan fyddai'r GIG a'r diwydiant yn dod at ei gilydd i fynd i'r afael ag un o'n clefydau mwyaf yn wirioneddol ysbrydoledig. Rydym ni yn Olympus yn ymfalchïo yn ein gwaith o gefnogi darpariaeth gwell o ganser ledled Cymru. Roedd hwn yn gyfle gwych i gael gwell dealltwriaeth o ble mae'r pwyntiau poen a sut yn union y gallwn ni helpu. Alla i ddim aros am y digwyddiad nesaf!" - Graham Popham, Pennaeth mynediad i'r farchnad Olympus Medical.

"Roedd yn galonogol iawn bod yn rhan o ddigwyddiad lle'r oeddem yn gweithio ar y cyd â chynulleidfa ehangach – datblygu ffyrdd newydd o weithio yn unol âg anghenion gwasanaeth" – Huw Shurmer, rheolwr perthynas strategol, systemau meddygol, FUJIFILM UK Limited.

Diolch yn fawr i Rwydwaith Canser Cymru a Llywodraeth Cymru am yr arian i gefnogi'r prosiectau hyn ar eu camau nesaf i wella canlyniadau i gleifion yng Nghymru.

Yn dod yn fuan; Hac Iechyd Gogledd Cymru – arbedwch y dyddiadau yn eich dyddiadur a chymryd rhan.