Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi penodi pum Cyfarwyddwr Anweithredol i ymuno â’i Fwrdd i chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o lunio cyfeiriad strategol y sefydliad ar gyfer y dyfodol. Daw’r penodiadau ar adeg gyffrous a heriol i ddiwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol, lle mae mwy o alw nag erioed am atebion arloesol. 

Professor Hamish Laing, Erica Cassin, Peter Max, Victoria Bates and Len Richards

Bydd y cyfarwyddwyr newydd yn mynd ati i gefnogi’r sefydliad i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran arloesi ym maes iechyd a lles drwy rannu gwybodaeth ac arweiniad tactegol. Mae gan bob Cyfarwyddwr Anweithredol gyfoeth o brofiad sy’n cwmpasu gwyddorau bywyd, iechyd a gofal cymdeithasol a chyllid, a bydd hyn yn helpu i gyflymu arloesedd ledled Cymru.

Mae gan Ms Victoria Bates a Ms Erica Cassin, sy’n ymuno â’r sefydliad, brofiad helaeth yn y diwydiant. Mae gan Erica arbenigedd helaeth mewn arwain newid sefydliadol ar draws sawl sector. Yn y gorffennol, mae hi wedi bod yn gweithio fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y DU ac Iwerddon ar gyfer Novartis. Mae gan Victoria dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant iechyd a fferyllol. Mae hi wedi dal swyddi ar lefel cyfarwyddwr yn y sector Gwyddorau Bywyd, gan gynnwys arwain Gweithrediadau Gofal Iechyd yn Pfizer UK sy’n galluogi partneriaethau sy’n seiliedig ar werth. Mae hi bellach yn gweithio fel prif ymgynghorydd sy’n hwyluso cydweithio. 

Mae’r Athro Hamish Laing a Mr Len Richards wedi hen ennill eu plwyf fel arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gydag arbenigedd mewn Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth a gofal iechyd digidol, cafodd Hamish yrfa hir fel llawfeddyg plastig adluniol yn y GIG cyn dod yn Gyfarwyddwr Gweithredol mewn Bwrdd Iechyd. Erbyn hyn, mae’n Athro mewn Arloesi ac Ymgysylltu Uwch a Chanlyniadau ym Mhrifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd, Len yw Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae ganddo arbenigedd helaeth mewn rheoli gofal iechyd a gweithio ar y cyd ag amrywiaeth o ddarparwyr gofal iechyd. 

Penodwyd Mr Peter Max yn Gyfarwyddwr Anweithredol Ariannol, sy’n canolbwyntio ar archwilio a risg. Mae ganddo brofiad helaeth o weithio mewn rolau gweithredol ac anweithredol ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae ganddo gefndir ym maes ecwiti preifat a chyllid corfforaethol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:  

“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi penodi pum aelod newydd ar Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.  Fel y byddech yn ei ddisgwyl, roedd safon yr ymgeiswyr yn uchel iawn, a bydd pob un yn dod â chyfoeth o brofiad i helpu i ddatblygu’r Hwb wrth i ni edrych tua’r dyfodol. 

 

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn ymateb Cymru i bandemig y coronafeirws, ac mae’n parhau i wneud hynny, ac mae’n edrych ar ffyrdd arloesol o ddod o hyd i gyflenwadau ac atebion digidol hollbwysig. 

 

“Yn ei hanfod, mae’r Hwb wedi ymrwymo i barhau i gefnogi’r gwaith o gyflymu a mabwysiadu arloesedd ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, a thu hwnt i’r argyfwng presennol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Victoria, Erica, Hamish, Len a Peter ar adeg dyngedfennol i Gymru ac i’r DU.”

Dywedodd Chris Martin, Cadeirydd Dros Dro Bwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Mae’n bleser gen i groesawu ein Cyfarwyddwyr Anweithredol newydd i Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at elwa o’u harbenigedd wrth arwain y sefydliad ar adeg mor ddeinamig.”

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Mae penodi ein Cyfarwyddwyr Anweithredol newydd yn dod ar adeg bwysig, wrth i ni barhau i weithio gyda diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol a’u cefnogi. Mae profiad ein cydweithwyr newydd yn golygu cyfle i sicrhau newid cadarnhaol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol a’r economi yng Nghymru.” 

I gael rhagor o wybodaeth am aelodau newydd ein bwrdd, ewch i wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.