Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod nawr yn derbyn ceisiadau gyfer y Rhaglen Cyflymydd Arweinyddiaeth ‘Resilience’.

Nod y rhaglen hon, sydd wedi’i threfnu gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mewn cydweithrediad â’r Rhaglen ‘Resilience’, ac a ariennir gan Innovate UK, yw canfod a meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr yn y diwydiant gweithgynhyrchu meddyginiaethau.
Dan arweiniad Dr Tony Bradshaw o Biosocius Ltd, mae'r rhaglen yn cynnig cyfle unigryw i ddarpar arweinwyr y dyfodol o ddiwydiant a'r byd academaidd – gan gynnwys arweinwyr ar ddechrau eu gyrfa, ymgeiswyr PhD (cam olaf), ymchwilwyr ôl-ddoethurol, a gweithwyr proffesiynol sydd ar ddechrau eu gyrfa. Bydd y cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn dau weithdy My Future Plan (MFP) dilyniannol, sy’n cyfuno gwaith proffilio seicometrig, myfyrdod personol, a datblygu sgiliau arwain cymhwysol.
Nod y rhaglen yw cynyddu hunanymwybyddiaeth o nodweddion a sgiliau ymddygiad personol, nodi'r strategaethau gorau posibl o ran gyrfa, datblygu gwydnwch a deallusrwydd emosiynol ar gyfer rolau arwain, rhoi sgiliau arwain a chyfathrebu hanfodol i gyfranogwyr ar ddechrau eu gyrfa, a meithrin dulliau cydweithio a dysgu gan gymheiriaid ar draws y byd academaidd a diwydiant.
Mae rhagor o wybodaeth am strwythur y rhaglen ar gael yma.
Mae wyth lle ar gael ar gyfer y garfan yng Nghymru, a fydd yn sicrhau profiad personol iawn. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu dewis drwy broses Datgan Diddordeb agored, ac yn cael eu hasesu yn erbyn meini prawf penodol. Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus weithredu mewn rôl lysgenhadol ar gyfer y sefydliadau partner a'r Rhaglen 'Resilience’ yn ehangach.
Rydym nawr yn derbyn ceisiadau i’r garfan yng Nghymru, a gellir eu cyflwyno yma.
Bydd panel o randdeiliaid arbenigol yn blaenoriaethu’r ceisiadau, gyda'r lleoedd sydd wedi'u hariannu yn cael eu cynnig i’r ymgeiswyr gorau yn gyntaf. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Tachwedd 2025, a bydd wyth lle yn cael eu cynnig erbyn 1 Rhagfyr.
Mae'r rhaglen hon yn rhan o Raglen 'Resilience’ ledled y DU. Bydd y cyfranogwyr yng ngharfan Cymru yn cael cyfle i fynychu sesiynau Cyflymydd Arweinyddiaeth eraill ledled y DU, yn amodol ar deithio ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Sgiliau Gwydnwch - Cyflymydd Arweinyddiaeth.
Gwnewch gais heddiw a helpu i lunio dyfodol y diwydiant gweithgynhyrchu meddyginiaethau.