Mae’r Academi Gwyddorau Meddygol (AMS) wedi lansio eu Rhaglen Traws Sector, sydd wedi’i dylunio i hybu arloesedd ym maes iechyd drwy ddod ag arloeswyr ac ymchwilwyr traws sector ynghyd drwy ddigwyddiadau rhwydweithio a chynllun cyllido cydweithredol.
Mae’r rhaglen yn cysylltu ymchwilwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a llunwyr polisïau sy’n gweithio ar draws y sectorau gwyddorau bywyd i ddatrys y prif broblemau sy’n wynebu iechyd.
Bydd yn mynd i’r afael â’r heriau allweddol a wynebir wrth geisio gweithio ar draws sectorau fel anawsterau wrth gysylltu â’r bobl a’r sefydliadau iawn, bylchau diwylliannol, cymhellion cyfyngedig ar gyfer symud gyrfa a diffyg adnoddau i ymgysylltu ar draws sectorau.
Mae’r rhaglen newydd hon wrth galon strategaeth 10 mlynedd newydd Academi’r Gwyddorau Meddygol, i gryfhau ymchwil drwy ddod ag ymchwilwyr ar draws sectorau at ei gilydd i gydweithio ar yr heriau iechyd mwyaf.
Bydd yn ceisio hybu cysylltiadau mewn meysydd blaenoriaeth penodol i ymchwil iechyd, gan gynnwys dadansoddi data a deallusrwydd artiffisial ar gyfer genomeg, patholeg, datblygu cyffuriau, delweddu meddygol, a therapi celloedd a genynnau.
Dywedodd yr Athro Paul M Stewart FMedSci, Is-lywydd yr Academi Gwyddorau Meddygol (Clinigol): “Mae pwysau llwyth gwaith, cydbwyso bywyd teuluol, costau teithio a hyd yn oed dod o hyd i’r bobl iawn i gysylltu â nhw i gyd yn heriau go iawn, sy’n ei gwneud hi’n anodd rhwydweithio y tu hwnt i’ch cylch. Rwy’n edrych ymlaen at weld y rhaglen hon yn cychwyn ac yn cynyddu parhad ar draws prifysgolion, y GIG, diwydiant a rhanddeiliaid eraill. Mae’n hanfodol i lwyddiant parhaus ein sectorau gwyddorau bywyd. Mwynhewch yr antur!”
Dywedodd yr Athro Jackie Hunter CBE FMedSci, Cadeirydd y Grŵp Cyfeirio sy’n goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno’r rhaglen: “Mae cael rhwydwaith cryf a chadarn yn bwysig iawn i unrhyw unigolyn, ond yn aml gall ffafrio pobl sy’n fwy allblyg ac yn fwy parod i’w rhoi eu hunain allan. Rydyn ni eisiau galluogi pobl o bob cefndir i gysylltu â rhwydweithiau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes a helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan. Un o nodweddion gwahaniaethol allweddol y cynllun hwn yw y byddwn yn cynnal llawer o weithgareddau rhanbarthol gan weithio gyda chanolfannau i fanteisio ar gryfder gwirioneddol yr arbenigedd ledled y DU.”
Yng ngham cyntaf y rhaglen, maent yn sefydlu canolfannau rhwydweithio lleol yng ngwledydd a rhanbarthau datganoledig y DU, mewn partneriaeth â sefydliadau lleol.
Mae’n bleser gan Academi’r Gwyddorau Meddygol gyhoeddi bod y cyntaf o’r canolfannau rhwydweithio hyn yn cael eu lansio heddiw yng Nghymru, mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Cofrestrwch nawr ar gyfer ein digwyddiad rhwydweithio cyntaf, sy’n cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Iau 17 Tachwedd 2022.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: “Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â’r Academi 'r Gwyddorau Meddygol ar y rhaglen beilot hon a fydd yn darparu cyfleoedd ystyrlon i ymchwilwyr, pobl sy’n gweithio mewn diwydiant a chlinigwyr yng Nghymru i rwydweithio, cael gafael ar gymorth ariannol ac, yn anad dim, i gydweithio.”
Bydd cyllid cydweithredol, elfen arall y rhaglen, i gefnogi symudiad tymor hwy pobl rhwng sectorau, yn cael ei lansio yn 2023.