Yn ddiweddar, mae Comisiwn Bevan wedi agor ceisiadau ar gyfer Wythnos Dysgu Dwys Arloesi 2023. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i bobl wneud cais am 1 o 30 o leoedd sy’n cael eu hariannu’n llawn yn yr wythnos ddysgu a rhwydweithio unigryw hon.
Mae Comisiwn Bevan wedi ymrwymo i gefnogi’r arloesi a’r trawsnewid beiddgar sydd eu hangen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gyda chred gadarn bod y syniadau mwyaf effeithiol yn dod gan y rhai sydd ar flaen y gad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae Wythnos Dysgu Dwys Arloesi Comisiwn Bevan yn gyfle i ymuno â phobl o’r un anian ac arbenigwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol i ddatblygu atebion arloesol i heriau iechyd a gofal cymdeithasol.
Dros bedwar diwrnod, bydd cymysgedd ddeinamig o gyflwyniadau blaengar, astudiaethau achos, sesiynau trafod grŵp diddorol, a hyfforddiant wedi’i deilwra, i roi gwybodaeth, sgiliau ac atebion ymarferol newydd i’r rhai sy’n bresennol.
Os ydych chi’n frwd dros wneud newidiadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, dyma gyfle gwych i baratoi ar gyfer 2024 a’r tu hwnt. Fe fydd y lleoedd sy’n cael eu hariannu’n llawn ar gael i weithwyr iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector (gan gynnwys llety), ac mae pawb sy’n bresennol yn cael achrediad DPP.
Os ydych chi’n barod i fod yn rhan o’r newid, ewch i wefan Comisiwn Bevan a chofrestrwch heddiw.