Yr wythnos hon rydyn ni'n croesawu'r uchelgais a bennwyd gan Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw lansio Strategaeth Arloesi newydd Cymru. Mae hyn yn rhoi’r gwaith o greu diwylliant o arloesi cryf, cyson a chysylltiedig ar flaen y gad o ran helpu i gyfoethogi ein hiechyd a’n llesiant, ein heconomi a’n hamgylchedd.

Left to Right - Cardiff University Graduation, North Hoyle Windfarm Prestatyn, Operating Theatre, Toyota Deeside Enterprise Zone

Mae'r weledigaeth drawslywodraethol newydd o arloesi er mwyn creu Cymru gryfach, decach, a fwy gwyrdd yn dangos sut y byddwn yn mynd ati i arloesi mewn ffyrdd gwahanol yn y dyfodol. Bydd yr integreiddio hwn yn helpu i sicrhau bod buddsoddi mewn ymchwil ac arloesi'n cyd-fynd mewn ffordd gyson a chydgysylltiedig.

 Mae’n mabwysiadu agwedd 'seiliedig ar genhadaeth' ac ar gydweithio sy’n cynnwys y pedair cenhadaeth ganlynol sy’n gallu cael effaith lle bydd ei hangen:

  • Iechyd a llesiant: mae maint y galw sy’n wynebu system iechyd a gofal Cymru yn fwy nag a fu erioed o’r blaen. Bydd y genhadaeth hon yn cydweithio â diwydiant, y byd academaidd a’r trydydd sector er mwyn mynd i'r afael â'r pwysau hyn. Bydd gwaith o’r fath yn hwyluso ffyrdd newydd o weithio sy’n darparu mwy o werth ac effaith i ddinasyddion. Byddant yn gweithio gyda'i gilydd ac yn arloesi er mwyn trawsnewid meysydd allweddol megis oedi wrth drosglwyddo gofal, y ddarpariaeth gofal yn y gymuned, gwasanaethau canser a gwasanaethau iechyd meddwl.

     
  • Yr Economi: mae'r genhadaeth hon yn golygu mynd ati i sicrhau bod Cymru yn genedl flaenllaw ac arloesol. Bydd economi Cymru yn arloesi er mwyn creu twf, yn cydweithio ar draws sectorau er mwyn datrys yr heriau sy’n wynebu ein cymdeithas, yn mabwysiadu technolegau newydd er mwyn gwella effeithlonrwydd a chynhyrchiant, yn defnyddio adnoddau mewn ffordd gymesur, ac yn caniatáu i ddinasyddion rannu cyfoeth drwy waith teg.

     
  • Addysg: mae'r genhadaeth hon yn helpu i sicrhau bod gan Gymru system addysg sy’n cefnogi'r gwaith o ddatblygu gwybodaeth a sgiliau arloesol drwy gydol bywydau pobl yng Nghymru. Bydd canolbwyntio fel hyn yn meithrin talent, brwdfrydedd a photensial anhygoel ein pobl ifanc, a fydd o fudd nid yn unig i economi Cymru ond hefyd yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl yn y dyfodol.

     
  • Yr Hinsawdd a natur: bydd y genhadaeth hon yn gwneud y defnydd gorau posibl o’n hadnoddau naturiol er mwyn gwarchod a chryfhau cydnerthedd yr hinsawdd a byd natur. Byddwn yn canolbwyntio ymdrechion arloesi ar fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur ar yr un pryd, gan sicrhau newid i economi llesiant mewn ffordd deg.

 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Mae’n wych gweld sector Gwyddorau Bywyd Cymru yn cael ei chydnabod fel elfen allweddol yn y gwaith o drawsnewid system iechyd a gofal Cymru. 

Mae cydweithredu’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o’n helpu ni i ddeall a goresgyn yr heriau hollbwysig sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi hyn; gweithredu fel rhyngwyneb deinamig sy’n helpu i sbarduno arloesi ym maes iechyd sydd ar flaen y gad i gyrraedd y rheng flaen, yng Nghymru a thu hwnt.”

Mae’r strategaeth yn dangos yr ymrwymiad cadarn y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio’i gael i sbarduno buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a thu hwnt mewn ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gydag asiantaethau arloesi yn y DU lle mae uchelgeisiau’n cael eu rhannu, ac yn cyd-fynd â’r bwriad a nodwyd ganddynt i gynyddu buddsoddiad ymchwil, datblygu ac arloesi’n sylweddol y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr.

Yn ychwanegol, cadarnhaodd y Gweinidog na fyddai cefnogaeth arloesedd SMART hyblyg Llywodraeth Cymru'n cael ei chyfyngu i fusnesau a sefydliadau ymchwil. Bydd unrhyw sefydliad sy’n dymuno ymgysylltu ag ymchwil, datblygu ac arloesi’n gallu cael gafael ar y gefnogaeth hon, gan gynnwys y trydydd sector, awdurdodau lleol a byrddau iechyd.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

“Mae’r Strategaeth Arloesi hon yn cael ei lansio ar adeg dyngedfennol i'n gwlad. Wrth i’r rhaglenni sy'n cael eu hariannu gan yr UE ddirwyn i ben eleni, ac oherwydd nad oes unrhyw sicrwydd y byddwn ni’n cael cymryd rhan ym mentrau gwyddonol yr UE yn y dyfodol, bydd y dirwedd ymchwil, datblygu, ac arloesi yn newid yng Nghymru.

Mae’r ffaith bod y DU wedi gadael yr UE yn golygu bod Cymru yn colli arian a rheolaeth, a bod ganddi lai o lais dros lai o arian erbyn hyn. Felly, nod y strategaeth hon yw’n harwain at ffordd wahanol o arloesi.  Allwn ni ddim cystadlu ym mhob maes, ond gallwn ni ddewis cenadaethau sy'n manteisio i'r eithaf ar ein cryfderau ac sy’n creu cyfleoedd newydd er budd y cyhoedd.

Mae'n cenadaethau’n cynnwys nifer o sectorau a’r heriau sy'n ein hwynebu. Mae arloesi yn rhywbeth i bawb, dylai pawb yng Nghymru gael cyfle i fod yn rhan o’r arloesi hwnnw, ac i elwa arno.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl bendant ac yn benderfynol o gefnogi’r holl randdeiliad i ddarparu arloesi gwirioneddol, gan weithredu fel crwsibl, a defnyddio’r grym sydd ganddi i hyrwyddo cydweithredu yn yr ecosystem sy’n angenrheidiol i’n helpu i wireddu ein huchelgeisiau.”

Bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi cynllun gweithredu atodol maes o law, a fydd yn cynnwys nodau penodol a mesuradwy, er mwyn symud pob cenhadaeth yn ei blaen.

Llwytho Strategaeth Arloesi Cymru i lawr