Trydydd parti

Cyflwynodd IQ Endoscopes adnodd diagnostig untro i fynd i’r afael â’r galw cynyddol am driniaethau endosgopi yn y GIG, yn enwedig i leihau amseroedd aros. Mae’r dechnoleg yn ategu dyfeisiau amldro presennol, gan gynnig atebion graddadwy i leoliadau gofal iechyd.

A doctor performing an endoscopy

Cyflwyniad

Mae IQ Endoscopes, a sefydlwyd gan y Dr Patrick W. Booth, wedi datblygu dyfais endosgopi untro arloesol sy’n ceisio datrys y prif heriau sy’n wynebu’r GIG, gan gynnwys rhestrau aros hir am driniaethau. Mae'r dechnoleg yn gweithio ochr yn ochr â dyfeisiau amlddefnydd traddodiadol, gan ychwanegu capasiti hanfodol mewn lleoliadau cleifion allanol, cymunedol a chlinigau.

Nodau’r Prosiect

Sefydlwyd y prosiect i ddarparu ateb graddadwy i’r galw cynyddol am driniaethau endosgopi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gan leihau amseroedd aros drwy ddefnyddio technoleg untro i gyflwyno capasiti ychwanegol. Y nod oedd ategu dyfeisiau presennol yn hytrach na’u disodli, gan ei gwneud yn haws i gleifion gael gafael ar brofion diagnostig hanfodol.

Dechrau’r Prosiect

Dechreuodd y prosiect gyda gwaith ymchwil a datblygu clinigol trylwyr i sicrhau bod y ddyfais yn cyrraedd safonau’r GIG. Roedd cydweithio â chlinigwyr a rhanddeiliaid, gan gynnwys rheolwyr, yn allweddol i ddyluniad y cynnyrch. Roedd y buddsoddiad o £750,000 gan Gronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hanfodol, gan gyfeirio adnoddau at y camau cynnar o’i ddatblygu a dilysu’r farchnad a’i fabwysiadu.

Heriau’r Prosiect

Roedd yr heriau’n cynnwys canfod ffordd drwy’r dirwedd reoleiddio ar gyfer dyfeisiau meddygol untro, mynd i’r afael â phryderon ynghylch cynaliadwyedd, a sicrhau bod y ddyfais yn bodloni gofynion clinigol. Gweithiodd IQ Endoscopes yn agos gyda chlinigwyr i addasu’r dyluniad ar sail adborth o’r byd go iawn a mynd i’r afael ag ystyriaethau economaidd ym maes iechyd. Roedd cydweithio’n gynnar â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn amhrisiadwy ac yn bwysig.

Canlyniadau’r Prosiect

Llwyddodd IQ Endoscopes i ddatblygu dyfais endosgopi untro a gafodd adborth clinigol cadarnhaol o ran ansawdd ei ddelweddau a’i dyluniad ysgafn. Arweiniodd y prosiect at greu dros 30 o swyddi yng Nghymru, ac mae’r cwmni bellach yn canolbwyntio ar symud tuag at fasnacheiddio. Mae disgwyl i’r ddyfais helpu cleifion i gael profion diagnostig drwy gynyddu capasiti a mynd i’r afael â rhestrau aros Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Roedd cam dau'r her yn canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch cynaliadwy a chafodd hynny ei integreiddio yn y broses weithgynhyrchu, gan sicrhau cyfrifoldeb amgylcheddol.

Cyllid ar gyfer y Prosiect

Arweiniwyd y prosiect gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a’i gefnogi gan y Gronfa Her, a oedd yn darparu adnoddau hanfodol ar gyfer datblygu cynnyrch, ymchwil a threialon clinigol.

Partneriaid a Thîm y Prosiect

Rhai o’r prif bartneriaid oedd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, CEDAR, Simply DO, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: y Gronfa Her, a thimau peirianneg a rheoleiddio mewnol IQ Endoscopes. Rhoddodd clinigwyr adborth beirniadol i fireinio'r ddyfais, ac fe wnaeth rheolwyr sicrhau bod y cynnyrch yn cyd-fynd ag anghenion y GIG.

Y Camau Nesaf

Y camau nesaf fydd cwblhau’r cymeradwyaethau rheoleiddiol, paratoi ar gyfer masnacheiddio, ac ehangu llinell gynhyrchu’r cwmni. Nod IQ Endoscopes yw cynhyrchu tystiolaeth drwy bartneriaethau academaidd i ddangos gwerth eu technoleg mewn lleoliadau gofal iechyd amrywiol.

Dywedodd Zoe Hilton – Rheolwr Rhaglen Arloesi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

"Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda IQ Endoscopes am y ddwy flynedd ddiwethaf ar Her Endoscopi Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae tîm IQ wedi ymateb yn gyson i bob her a gyflwynir gan y timau endosgopi, cynaliadwyedd a gwerth mewn iechyd. Maent wedi gweithio’n ddiwyd i addasu a goresgyn y rhwystrau hyn wrth iddynt godi, gan arwain at greu cynnyrch a fydd, yn ein barn ni, yn diwallu anghenion y gwasanaeth, yn darparu gwerth am arian, ac yn cynnig gwell profiad i’n cleifion. Rwy’n edrych ymlaen at y cam olaf hwn a’r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil."

Dywedodd Matt Ginn, Prif Swyddog Gweithredol IQ Endoscopes:

"Mewn cydweithrediad â’r tîm yng Nghaerdydd a’r Fro, rydym wedi canfod a phrofi rhai meysydd clinigol lle gallai ein technoleg Endosgopig Untro ddarparu diagnosis cyflymach i gleifion a manteision enfawr i glinigwyr. Ar ben hynny, rydym wedi gweithio’n galed iawn i oresgyn unrhyw bryderon ynghylch cynaliadwyedd neu’r amgylchedd o feysydd clinigol a chaffael sy’n ymwneud â defnyddio ein technoleg."

I gael rhagor o wybodaeth am IQ Endoscopes a’u hatebion arloesol, ewch i wefan IQ Endoscopes.