Dathlodd Technoleg Iechyd Cymru (HTW) ei hail ben-blwydd gyda digwyddiad i ddangos yr effaith mae’n ei gael ar iechyd a gofal yng Nghymru.
Ymunodd rhanddeiliaid o amrywiaeth o sectorau â sawl un o'r gwneuthurwyr penderfyniadau, a gyflwynodd gyfres o drafodaethau a oedd yn ysgogi'r meddwl am rôl HTW o ran cefnogi dull cenedlaethol o adnabod, arfarnu a mabwysiadu technolegau nad ydynt yn ymwneud â meddyginiaethau.
Meddai Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru:
"Mae hi wedi bod yn bleser dathlu ein hail ben-blwydd gyda chynrychiolwyr o blith ein hamrywiaeth eang o randdeiliaid, a dangos y gwahaniaeth rydyn ni'n ei wneud iddyn nhw. Rydym wedi cyflawni llawer dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Heddiw, rydyn ni'n dathlu'r effaith rydyn ni wedi ei chael ar bobl a gwasanaethau gofal yng Nghymru, ond rydyn ni hefyd yn manteisio ar y cyfle i rannu a llunio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”
Dechreuodd y trafodaethau gyda Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, a ganolbwyntiodd ar sut rydym yn mynd i'r afael ag argymhellion ymchwiliad 2014 i ' Fynediad at dechnolegau meddygol.' Soniodd am ein gwaith hefyd o ran targedu meysydd blaenoriaeth iechyd a gofal Llywodraeth Cymru. ,
Yna, trafododd Ifan Evans, Cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid Llywodraeth Cymru, sut rydym yn cefnogi arloesedd a'n rhaglen waith brysur. Mae prosesau HTW yn cyflymu’r broses arfarnu technolegau a’r cylch mabwysiadu yng Nghymru, ac yn galluogi Cymru i fod yn ymatebol i'r tirlun technolegau sy'n newid yn gyson.
Cyflwynwyd sgwrs am ein gwaith i adnabod technolegau iechyd nad ydynt yn ymwneud â meddyginiaethau gan Dr Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol Iechyd Llywodraeth Cymru. Mae dros 120 o bynciau wedi cael eu hawgrymu i ni ers i ni gael ein sefydlu yn 2017, gan gynnwys 83 i'n Galwadau Pwnc Agored.
Arweiniodd ein Cadeirydd, yr Athro Peter Groves, y drafodaeth am ein gwaith arfarnu. Amcangyfrifir bod 77,600 o bobl yn cael eu heffeithio gan ein Canllawiau (y flwyddyn) a gan arbedion cost posibl o £5,240,000 (y flwyddyn) * o'n Canllawiau. Cliciwch yma i ddysgu mwy am effaith HTW.
Mae HTW wedi cydweithio â Chomisiwn Bevan drwy gydol 2018 a 2019. Soniodd Helen Howson, Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan, am y broses o fabwysiadu Canllawiau HTW. Rhoddodd fanylion am sut mae HTW yn gweithio i sicrhau'r effaith fwyaf, a galluogi comisiynwyr iechyd a gofal i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Trefnwyd nifer o weithgareddau i'r rheiny oedd yn bresennol ryngweithio â nhw drwy gydol y dydd. Fe wnaeth HTW gydweithio â myfyrwyr darlunio ym Mhrifysgol De Cymru i ddylunio byrddau gwerthuso. Dywedodd y rheiny oedd yn bresennol wrth HTW sut rydym yn gwneud gwahaniaeth ac yna, fe ofynnom iddyn nhw wneud adduned i ni yn 2020.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r setiau sleidiau.
Mae’n bleser gan Technoleg Iechyd Cymru gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2018-2019.
Dyma'r adroddiad blynyddol cyntaf i'r sefydliad ei gyhoeddi, ac mae'n tynnu sylw at yr hyn y mae wedi'i gyflawni ers iddo gael ei lansio ym mis Tachwedd 2017, i wella ansawdd y gofal yng Nghymru.
*Mae’r ffigur hwn yn seiliedig ar y dybiaeth y byddai cynnydd o 50% mewn technoleg yn absenoldeb Canllawiau HTW.