Rydym wedi cymryd cam allweddol tuag at helpu i roi terfyn ar y stigma sy'n gysylltiedig â dementia drwy ddod yn Ffrindiau Dementia a chefnogi gweledigaeth Cymdeithas Alzheimers Cymru o Gymru sy'n ystyriol o ddementia.
Mae Ffrind Dementia yn dysgu ychydig yn fwy am sut beth yw byw gyda dementia ac yna'n troi'r ddealltwriaeth honno'n weithredu-gall unrhyw un o unrhyw oedran fod yn gyfaill dementia.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, ein Prif Swyddog Gweithredol:
"Mae ein tîm wedi ymrwymo i ddangos eu cefnogaeth i gyfeillion dementia, a byddem yn annog eraill i wneud yr un peth. Gyda nifer cynyddol o bobl yn byw gyda dementia, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni i gyd yn deall y cyflwr yn well."
Dywedodd Sue Phelps, Cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimers Cymru:
"Nid yw dementia'n poeni pwy ydych chi; gallai effeithio arnom i gyd. Mae rhywun yn datblygu'r cyflwr bob tair munud, ac nid oes gwellhad ar hyn o bryd. Mae pobl â dementia yn teimlo'n aml – ac maent yn – cael eu camddeall, eu hymyleiddio a'u hynysu. Ac mae hynny'n golygu eu bod nhw'n llai tebygol o allu byw'n annibynnol yn eu cymunedau eu hunain."
"Mae 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth wella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia. Ond mae angen i Lywodraeth Cymru chwarae ei rhan i greu Cymru sy'n ystyriol o ddementia.
"Rydym yn falch iawn o weld Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn uno â ni yn erbyn dementia drwy ddangos eu cefnogaeth i gyfeillion dementia heddiw. Mae llai na hanner ohonon ni'n meddwl ein bod ni'n gwybod digon am ddementia. Nid yw ffrindiau dementia yn ymwneud â chreu arbenigwyr, mae'n ymwneud â helpu pobl i ddeall ychydig yn fwy am fyw gyda dementia a sut y gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr."
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn gyfaill dementia neu os hoffech helpu i greu mwy o gymunedau sy'n deall dementia, ewch i www.dementiafriends.org.uk i ddod o hyd i'ch sesiwn wybodaeth agosaf.
Mae Cymdeithas Alzheimers Cymru yma ar gyfer unrhyw un y mae dementia'n effeithio arnynt. Mae'r elusen yn darparu gwybodaeth a chymorth, i gael rhagor o wybodaeth ffoniwch y llinell gymorth genedlaethol ar ddementia ar 0300 222 1122