Mae GIG Cymru eisiau clywed gan unrhyw staff sy'n credu eu bod wedi gweld ffordd ddoethach o weithio neu wedi cynnig arferion newydd arloesol yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae arolwg byr wedi'i sefydlu i ddal gwybodaeth werthfawr yn gyflym ac yn syml a fydd wedyn yn cael ei ddadansoddi, a bydd adroddiad yn cael ei gynhyrchu ar y gwersi.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Yn y frwydr yn erbyn COVID-19, rydym wedi gweld pa mor arloesol a dyfeisgar y gall pobl Cymru fod. Rhannu’r ffyrdd newydd hyn o weithio yw’r cam nesaf hanfodol, a bydd yn helpu i gefnogi gweithwyr allweddol ac, yn y pen draw, achub bywydau. Os oes gennych chi syniad, fawr neu fach, cysylltwch heddiw ’.
Gallwch gwblhau yr arolwg yma