Gall pob meddyg teulu yng Nghymru bellach gael mynediad i system newydd, sy'n caniatáu i bobl gael apwyntiadau ar-lein gyda'u meddyg a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal iechyd.

Image or person holding a tablet - nurse on tablet screen

Drwy gydweithio, cynhyrchodd Llywodraeth Cymru a TEC Cymru gynnig ar gyfer darparu'r gwasanaeth ymgynghori fideo yn gyflym ar gyfer pob meddyg teulu yng Nghymru mewn ymateb i'r pandemig Coronafeirws (COVID-19). Roedd y gwasanaeth eisoes yn rhan o dreial ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Yn ogystal â helpu pobl i gadw at y rheolau aros-yn-y-cartref, bydd y system newydd yn caniatáu i feddygon a nyrsys sy'n hunanynysu, ond sy'n fodlon ac yn gallu gweithio, barhau i wasanaethu eu cymunedau.

Bydd ymgynghoriadau o bell yn helpu meddygfeydd i gadw staff rheng flaen a'u cleifion yn ddiogel drwy leihau'r risg o wasgaru coronafeirws wrth i Gymru ddechrau ar yr ail wythnos o reolau llym aros gartref.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

"Mae arloesiadau fel hyn yn galluogi'r Llywodraeth i helpu staff rheng flaen i gadw pobl yn ddiogel ac yn iach yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn. Mae hefyd yn golygu haen arall o ddiogelwch ar gyfer staff y GIG.

"Rydym yn newid y ffordd y mae'r GIG yn gweithredu. Drwy gynnig apwyntiadau dros y ffôn ac ar fideo, gallwn leihau'r pwysau ar staff rheng flaen a rhoi cymorth gwell i bobl gyda gwybodaeth a chyngor heb gyswllt diangen. Rydym bellach yn edrych ar gam nesaf y gwasanaeth hwn, a fydd yn cynnwys cyflwyno hyn mewn mannau fel ysbytai."

Caiff apwyntiadau fideo eu cynnig os bydd meddygon eisiau mwy o wybodaeth na'r hyn y gall galwad ffôn ei ddarparu. Yn yr achosion hyn, gall meddygfeydd ddarparu cyfarwyddiadau syml ynghylch sut y gall pobl gael gafael ar y dechnoleg am ddim a hawdd ei defnyddio a fydd yn gweithio gyda'u ffôn clyfar, tabled neu gyfrifiadur.

Mae TEC Cymru eisoes wedi galluogi 290 o feddygon teulu ar draws 73 o feddygfeydd ar y platfform newydd; mae mwy na 430 o ymgynghoriadau fideo wedi'u cynnal ers ei lansio ar 16 Mawrth.

Mae'r ymdrechion i gyflymu'r defnydd cyflym o wasanaeth ymgynghori fideo GIG Cymru wedi cael ei gefnogi gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sefydliad sydd wedi cymryd y cyfrifoldeb i arwain holl ddiwydiannau gwyddorau bywyd y genedl yn yr ymdrech i gefnogi brwydr GIG Cymru yn erbyn coronafeirws.

 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

"Rydym yma i helpu i uno diwydiant a chael y cynhyrchion, y gwasanaethau a'r cyflenwadau y mae eu hangen yn fawr lle mae eu hangen i fynd i'r afael â COVID-19. Mae gwasanaeth ymgynghori fideo GIG Cymru yn dangos sut y gall defnyddio technoleg newydd gefnogi ein gwasanaeth iechyd a helpu i achub bywydau.

"Ni fyddai'n bosibl defnyddio ymgynghoriadau fideo yn gyflym heb raglenni fel Ecosystem Iechyd Digidol Cymru. Mae'r cydweithio hynny'n gweithio i sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yn gallu cael mynediad at yr arloesiadau diweddaraf sydd ar gael iddynt. Heddiw, mae'n fraint i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru allu cynorthwyo'r broses o gyflwyno arloesiadau o'r fath yn gyflymach yn y sefyllfaoedd mwyaf taer.

"Os ydych yn fusnes neu'n unigolyn ac yn meddwl y gallwch helpu yn y frwydr, rydym am glywed gennych. Cysylltwch â'r tîm yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a gallwn eich helpu i'n helpu ni i gyd drwy eich cysylltu â phobl a busnesau a all eich cynorthwyo i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau yng Nghymru a thu hwnt. " 

Dywedodd Mike Ogonovsky, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwybodeg, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

"Mae'r rhaglen hon yn dangos sut yr ydym yn cyflwyno arfau i gefnogi clinigwyr sydd wedi mynnu ffordd amgen o ddarparu gofal i'w cleifion. Mae eisoes wedi bod yn werth chweil cael adborth mor gadarnhaol gan glinigwyr a chleifion. "

Mae TEC Cymru yn hyfforddi staff y Bwrdd Iechyd, sy'n gweithio gyda thimau rheng flaen ledled Cymru. Dylai darparwyr gofal iechyd sydd am gael gafael ar ragor o wybodaeth a hyfforddiant am wasanaeth ymgynghori fideo GIG Cymru ymweld â https://digitalhealth.wales/cy/tec-cymru/gwasanaeth-ymgynghori-fideo.