Trydydd parti

Mae Biofilm Alliance yn brosiect arloesol sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r heriau byd-eang o fioffilmiau microbaidd drwy ymchwil gydweithredol, arloesedd, a datblygiadau rheoleiddiol. 

An image of the BioFilm team

Mae Biofilm Alliance yn dod ag arbenigwyr y byd academaidd, diwydiant, metroleg, cyrff rheoleiddio a sefydliadau safoni ynghyd, gan uno ymchwil wyddonol arloesol a defnydd ymarferol mewn lliniaru a rheoli haenau microbaidd. Mae’r fenter hon yn cyd-fynd yn berffaith â sector gwyddorau bywyd fywiog Cymru, gan feithrin datblygiadau mewn technoleg iechyd, amgylcheddol a diwydiannol.

Wrth galon y berthynas hon, mae’r ymroddiad i gydnabod materion haenau microbaidd ar draws sectorau allweddol: bwyd, dŵr, prosesau diwydiannol, ac amgylchedd adeiledig. Mae'r cyfranogwyr yn cael buddiannau sylweddol, gan gynnwys y canlynol:

  • Arloesedd ac Effeithlonrwydd: Adnoddau a mewnwelediadau i greu technolegau uwch sy’n lleihau risgiau llygredd a gwella perfformiad gweithredol.
  • Dylanwad Rheoleiddiol: Cyfleoedd i lunio canllawiau a safonau ar gyfer cydymffurfio a chynaliadwyedd.
  • Rhwydweithio a Chydweithio: Cyswllt i gymuned arbenigol byd-eang er mwyn rhannu gwybodaeth, mentrau ar y cyd, a rhagolygon cyllido.
  • Digwyddiadau a Hyfforddiant: Mynediad at brif ddigwyddiadau a sesiynau i arwain tueddiadau rheoleiddiol a’r arferion gorau.

Sut mae cymryd rhan

Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch i bob gweithiwr proffesiynol, ymunwch heddiw yn  a bod yn rhan o ddyfodol rheoli haenau microbaidd.

Archwilio adnoddau’r undeb a diweddariadau drwy’r llwyfan pwrpasol.

Helpwch i rannu twf yr undeb a rhannu eich mewnwelediadau chi drwy lenwi arolwg sydyn

Cofiwch nodi yn eich calendr y dyddiad ar gyfer y Gynhadledd Biofilm Alliance gyntaf yn Birmingham ar 21 Hydref 2025. Bydd y digwyddiad hwn yn dod â rhanddeiliaid ynghyd er mwyn cynnal trafodaethau ar ddatblygiadau ymchwil, datblygiadau technoleg, llwybrau rheoleiddiol, partneriaethau traws-sector, darparu atebion sydyn i heriau haenau microbaidd. 

Gallwch gofrestru a chael rhagor o wybodaeth yma.