Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Ysbrydoli Arloesedd yw ein crynodeb newyddion o’r tirlun arloesi ffyniannus a gasglwyd gan ein tîm Gwybodaeth y Sector, sydd bellach yn canolbwyntio ar newyddion a diweddariadau sy’n ymwneud â’n maes blaenoriaeth, sef canser. Yn sbarduno ein huchelgais i godi Cymru i fod yn wlad y mae pobl yn ei dewis ar gyfer arloesi a buddsoddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. 

Inspiring Innovation

Yn y rhifyn hwn, cewch wybod am brawf anadl a allai ganfod canser y pancreas a philsen newydd i helpu i drin canser y prostad gartref.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn treialu prawf newydd a allai ganfod canser y pancreas yn gynharach

Mae ymchwilwyr o Goleg Imperial Llundain wedi datblygu prawf anadl sy'n canfod cyfansoddion sy'n cael eu rhyddhau o diwmor pancreatig. Ar hyn o bryd mae Ysbyty Treforys yn recriwtio cleifion ar gyfer eu hastudiaeth VAPOR, sef treial clinigol i asesu potensial y prawf anadl hwn i hwyluso diagnosis cynharach o ganser y pancreas, sef y 6ed canser sy’n achosi’r nifer fwyaf o farwolaethau yng Nghymru. Gellir casglu anadl claf a'i anfon i labordy i'w ddadansoddi. Yno, byddai canlyniad positif yn arwain at atgyfeiriad brys i wasanaeth delweddu i gadarnhau’r diagnosis. Canfu astudiaeth gychwynnol fod 99% o ddefnyddwyr yn dweud bod y prawf yn hawdd ac yn gyfforddus i’w gynnal.

Mae tua 55% o gleifion canser y pancreas yng Nghymru yn cael diagnosis yng ngham 4 o ddatblygiad y canser, gyda dim ond 16% yn cael diagnosis yng nghamau 1 neu 2.

Dywedodd Chris Macdonald, Pennaeth Ymchwil Canser y Pancreas y DU:

"Byddai prawf i ganfod y canser yn gynnar yn un o’r datblygiadau pwysicaf o ran goroesiad canser y pancreas mewn 50 mlynedd. Rydyn ni’n gwybod y bydd symptomau cynnar yn ymddangos yn y mwyafrif helaeth o gleifion ddwy flynedd cyn cael diagnosis, felly ar hyn o bryd rydyn ni’n colli cyfle mawr yn ystod y cyfnod hwn. Yn y dyfodol, gallai chwythu i mewn i fag yn y feddygfa arwain yn sydyn at sgan brys, ac o bosib triniaeth i’r rheini sydd ei hangen a gwellhad yn y pen draw gobeithio."

Rhagor o wybodaeth am y prawf


Pilsen newydd ar gyfer canser y prostad wedi’i chymeradwyo i’w defnyddio yn Lloegr

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi cymeradwyo defnyddio relugolix (a elwir hefyd yn orgovyx), sef therapi hormonau i’w gymryd drwy’r geg ar gyfer pobl sydd â chanser datblygedig y prostad.

Mae Relugix, sy’n bilsen i’w llyncu bob dydd, yn lleihau lefel yr hormonau androgen yn y corff, sef yr hormonau sydd eu hangen er mwyn i gelloedd canser dyfu. Yn benodol, mae relugolix yn gostwng lefelau testosteron (math o androgen) sy’n cael ei gynhyrchu yn y ceilliau, gan atal celloedd canser y prostad rhag tyfu. Er nad yw defnyddio’r therapi hwn yn gwella canser y prostad, ar y cyd â thriniaethau eraill, gall leihau’r risg y bydd y clefyd yn dod yn ôl.

Dywedodd Dr Lyndsy Ambler, Uwch-reolwr Tystiolaeth Strategol yn Cancer Research UK: 

“Mae tua 150 o bobl yn cael diagnosis o ganser y prostad bob dydd yn y DU, sef tua 55,000 o achosion bob blwyddyn. Mae Relugolix yn galluogi pobl i gymryd tabled ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw, yn hytrach na chael pigiad yn y feddygfa. Drwy symud gofal yn nes at gartrefi pobl, gall cyffuriau fel hyn helpu i wella ansawdd bywyd pobl sydd â chanser y prostad.”

Rhagor o wybodaeth am y bilsen


Arloeswr sy’n canolbwyntio ar ganser?

Os ydych chi’n arloeswr sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â chanser ac yn dymuno datblygu eich arloesedd neu’ch rhaglen yng Nghymru, rydym ni eisiau clywed gennych chi. Cyflwynwch eich ymholiad yma heddiw, gan roi cymaint o fanylion â phosibl, a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi.