Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Ysbrydoli Arloesedd yw ein crynodeb o newyddion o dirwedd arloesi ffyniannus a gasglwyd gan ein Tîm Gwybodaeth am y Sector. Mae’n sbarduno ein huchelgais i godi Cymru fel lle y mae pobl yn ei ddewis ar gyfer arloesi a buddsoddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. 

Inspiring Innovation

Yn y rhifyn hwn, rydyn ni’n tynnu sylw at bartneriaeth Prifysgol Caerdydd yn astudiaeth ColoCap, endosgopi capsiwl posibl i roi diagnosis o ganser y coluddyn, yn ogystal â llwyddiant i gwmnïau iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngwobrau Technoleg Cymru 2024.

 

Mae Caerdydd yn ymuno â'r treial clinigol delweddu'r coluddyn ledled y DU i asesu endosgopi capsiwl

Mae Canolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd (CTR) yn bartner allweddol yn astudiaeth ColoCap, treial i asesu potensial endosgopi capsiwl i wneud diagnosis o ganser y coluddyn.

Ar hyn o bryd, mae cleifion yr amheuir bod canser y coluddyn arnynt yn cael diagnosis drwy golonosgopi. Er mai colonosgopi yw safon aur diagnosis canser y coluddyn, mae’n driniaeth ymwthiol ac yn cymryd llawer o adnoddau, gyda galw mawr ac amseroedd aros hir. Mae triniaeth endosgopi capsiwl colon yn golygu bod y claf yn llyncu dyfais maint tabled sy’n cynnwys golau, camera ac antena, sy’n tynnu lluniau o leinin mewnol y coluddyn. Trosglwyddir y delweddau hyn i gofnodwr, a bydd y capsiwl yn pasio’n naturiol allan o’r corff yn y carthion.

Os bydd yr astudiaeth yn llwyddiannus, gallai endosgopi capsiwl y colon gynyddu’n gyflym y gallu i wneud diagnosis o ganser y coluddyn a chlefydau eraill y coluddyn a lleihau amseroedd aros. Gallai hefyd gael llai o effaith amgylcheddol na cholonosgopïau, a gwella boddhad cleifion, gan mai anaml y mae’r driniaeth yn achosi poen a gallai leihau ymweliadau ag ysbytai gan y gallai’r capsiwl gael ei ddarparu mewn meddygfa.

Bwriedir recriwtio ar gyfer y treial ar gyfer mis Ebrill 2024 ar draws tua 30 o safleoedd yn y DU, a disgwylir canlyniadau yn 2026-2027.

Dywedodd Georgina Gardner, Rheolwr Treialon yn y Ganolfan Treialon Ymchwil:

"Nod ColoCap yw gwerthuso effeithiolrwydd technoleg delweddu'r coluddyn newydd. Os bydd endosgopi capsiwl colon yn brawf cywir, boddhaol a chost-effeithiol, mae ganddo’r potensial i fynd i’r afael yn arloesol â’r heriau presennol sy’n wynebu’r GIG o ran capasiti, defnydd a hygyrchedd mewn diagnosteg y colon a’r rhefr.”

Darllenwch fwy am yr astudiaeth

 

Llwyddiant cwmnïau iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngwobrau Technoleg Cymru 2024

Mae Gwobrau Technoleg Cymru yn arddangos y cwmnïau technoleg mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Cynhaliwyd y seremoni eleni ar 22 Mawrth.

Llongyfarchiadau i Clear_Pixel VR am ennill Gwobr y Rhaglen Technoleg Iechyd Orau a Matthew Davies o The Social Work Way am ennill Gwobr Seren Newydd y Flwyddyn!

Llongyfarchiadau hefyd i GoggleMinds, Virtus Tech, Llusern, CanSense a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd gydag Age Connects Torfaen ac AITutoring ar gyrraedd y rownd derfynol yng ngwobrau eleni.

Dywedodd Avril Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Technology Connected:

“Mae Gwobrau Technoleg Cymru yn symbol o uchafbwynt arloesedd a rhagoriaeth yn niwydiant technoleg Cymru. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol – mae eich llwyddiannau’n ysbrydoli a hefyd yn cadarnhau safle Cymru fel canolfan technoleg ac arloesi sy’n dod i’r amlwg.”

Gwelwch y rhestr lawn o’r enillwyr yma