Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Ysbrydoli Arloesedd yw ein crynodeb misol o newyddion o dirwedd arloesi ffyniannus a gasglwyd gan ein Tîm Gwybodaeth am y Sector. Mae’n tanio ein huchelgeisiau i ddyrchafu Cymru fel lle o ddewis ar gyfer arloesi a buddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol.  

Ysbrydoli arloesedd / Inspiring innovation

Y mis yma, rydyn ni wedi gweld cwmnïau gwyddorau bywyd yn serennu yng Ngwobrau STEM Cymru, cynlluniau cydweithio a ffurfiwyd i ddatblygu uwch dechnolegau meddygol a datblygiad arloesol wrth atal canser y fron yn Lloegr. 

 

Cwmnïau Gwyddorau Bywyd ar y brig yng Ngwobrau STEM Cymru 2023  

Roedd 13 o wobrau ar gael yng Ngwobrau STEM Cymru eleni. Daeth cwmnïau ac unigolion Gwyddorau Bywyd i’r brig o fewn y gystadleuaeth, gan gipio pedair o’r gwobrau, gan gynnwys: 

Gwobr Arloesi mewn STEM – Afon Technology 

Mae Afon Technology yn datblygu Glucowear, monitor glwcos gwaed parhaus, anfewnwthiol. 

Cwmni STEM y Flwyddyn (o dan 50 o weithwyr) – CanSense  

Mae CanSense yn datblygu prawf gwaed ar gyfer canser y coluddyn, gan leihau’r angen i gleifion gael colonosgopi mewnwthiol i roi diagnosis i’w clefyd. 

Gwobr Cynaliadwyedd STEM – Genesis Biosciences 

Mae Genesis Bioscience yn datblygu amrywiaeth o gynhyrchion gwrthficrobaidd ar gyfer cymwysiadau fel glanweithdra arwynebau, trin gwastraff y diwydiant bwyd a gwaith trin dŵr gwastraff. 

Dywedodd Liz Brookes, Cyd-sylfaenydd Gwobrau STEM Cymru: 

“Mae wedi bod yn anhygoel rhoi sylw i’r sector STEM yng Nghymru. Mae ein henillwyr yn gwthio ffiniau arloesedd STEM ac yn helpu i fynd i'r afael â'r bwlch amrywiaeth a'r prinder sgiliau sy'n bodoli” 

Llongyfarchiadau mawr i’r holl enillwyr a phawb a gafodd eu henwebu! 

Dysgwch fwy am wobrau STEM Cymru ac enillwyr eleni 

 

Prifysgol Caerdydd a Siemens Healthineers yn cytuno ar gynghrair strategol 

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cychwyn ar bartneriaeth gyda Siemens Healthineers i ddatblygu uwch dechnolegau meddygol, gyda phwyslais ar ddelweddu a diagnosteg in vitro. 

Mae’r bartneriaeth hon yn canolbwyntio ar Ganolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), sy’n defnyddio peiriannau cyseinedd magnetig a ddatblygwyd gan Siemens i ddelweddu ac ymchwilio i gyflyrau niwrolegol a seiciatrig fel dementia, epilepsi, sglerosis ymledol a sgitsoffrenia. 

Mae CUBRIC yn gartref i system MRI, sganiwr a addaswyd yn arbennig gan Siemens, sy’n gallu delweddu micro-strwythur yr ymennydd i ddatgelu’r cysylltiadau niwrolegol sy'n sail i weithrediad yr ymennydd yn fanylach na systemau confensiynol. 

Dywedodd yr Athro Ian Weeks, Dirprwy Is Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd: 

“Bydd y cydweithio hwn yn trawsnewid sut rydyn ni’n defnyddio arbenigedd y ddwy ochr mewn delweddu, diagnosteg labordai clinigol a gwyddor data i ddatblygu dulliau diagnostig integredig ar gyfer rhoi diagnosis a thrin clefydau yn gynt ac yn fwy cywir.” 

Darllenwch fwy am y gynghrair strategol

 

Addasu therapiwtig canser y fron cyfredol fel cyffur ataliol a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yn y GIG yn Lloegr  

Gallai menywod sydd mewn risg cynyddol o ganser y fron yn Lloegr nawr elwa o gyffur sydd wedi’i brofi i leihau risg ar y GIG, ar ôl iddo gael ei drwyddedu i’w ddefnyddio o’r newydd i helpu i atal y clefyd. 

Diolch i waith Rhaglen Addasu Meddyginiaethau’r GIG yn Lloegr a chwmni fferyllol Accord Healthcare, mae’r cyffur Anastrozole, sy’n cael ei ddefnyddio fel triniaeth canser y fron, bellach wedi’i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) fel cyffur ataliol. Mae’r cyffur yn lleihau nifer yr achosion o ganser y fron bron i 50%ymhlith menywod ôl-menopos sydd â risg uwch o'r clefyd.

Canser y fron yw’r math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU, gyda dros 56,000 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn, ac mae 80% o’r diagnosis hynny ymhlith menywod dros 50 oed.  

Ni chafwyd unrhyw newyddion o ran pryd fyddai Anastrozole ar gael i fenywod sydd mewn risg yng Nghymru. 

Dywedodd Amanda Pritchard, Prif Swyddog Gweithredol y GIG: 

“Mae’n wych y gallai’r opsiwn hanfodol hwn, sy’n lleihau risg, helpu miloedd o fenywod a’u teuluoedd i osgoi trallod diagnosis o ganser y fron. Mae galluogi mwy o fenywod i fyw bywydau iachach, heb ganser y fron, yn gwbl anhygoel.” 

Darllenwch fwy am y cyffur ataliol