Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Ysbrydoli Arloesedd yw ein casgliad misol o newyddion sy’n crynhoi tirwedd arloesi ffyniannus Cymru. Mae Tîm Gwybodaeth y Sector yn casglu’r cyfan gan ddod â’r datblygiadau diweddaraf i chi yn y sector gwyddorau bywyd ac effaith bosibl y datblygiadau hynny ar ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol.

Inspiring Innovation Graphic

Y mis hwn, rydym yn hyrwyddo ymchwil academaidd yng Nghymru sy’n torri tir newydd yn rhyngwladol, yn ogystal â chyflwyno’r newyddion diweddaraf o ddiwydiant gwyddorau bywyd y DU. Mae’n amlwg bod mis Awst yn fis cryf o ddatblygiadau yng Nghymru a Lloegr a allai gael effaith yn fyd-eang.

 


Prifysgol Caerdydd yn darganfod math amgen o gell-T

Mae tîm ymchwil o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi darganfod math amgen o gell-T, sy'n bresennol mewn cleifion sydd wedi cael adferiad iechyd llwyr yn dilyn canser solet cyfnod terfynol.

Mae celloedd-T yn gelloedd gwaed gwyn sy’n chwarae rhan hanfodol yn ymateb imiwnedd addasol y corff. Mae rhai celloedd-T yn gyfrifol am ddinistrio celloedd canser, ac roedd gwyddonwyr yn arfer credu mai dim ond un math o gell canser roeddent yn ei dargedu. Fodd bynnag, mae'r ymchwil newydd hon yn datgelu bod yna gelloedd-T 'aml-bigyn', sy'n gallu adnabod sawl math o gelloedd tiwmor.

Yn dilyn treial deinamig gyda chleifion sy'n derbyn therapïau canser, canfu gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd gelloedd-T aml-bigyn sy'n ymosod ar gelloedd canser mewn amrywiaeth o ffyrdd, ar yr un pryd. Roeddent hefyd yn dangos mwy o gydnabyddiaeth o gelloedd malaen, sy’n golygu ei bod yn anoddach i gelloedd canser guddio rhag ymosodiadau gan gelloedd-T.

Roedd celloedd-T aml-bigyn yn bresennol mewn nifer o oroeswyr canser. Mae hyn yn awgrymu y gall presenoldeb y celloedd hyn fod yn gysylltiedig â phrognosis canser da. Mewn triniaethau canser yn y dyfodol, efallai bydd y celloedd-T aml-bigyn hyn yn cael eu peiriannu’n enetig ar gyfer triniaeth, fodd bynnag bydd angen cynnal ymchwil glinigol helaeth yn gyntaf.

 

 


Deallusrwydd artiffisial yn darllen delweddau meddygol

Mae ymchwilwyr o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd wedi datblygu system deallusrwydd artiffisial (AI) arloesol sy'n dadansoddi mamogramau.

Mewn cydweithrediad â radiolegwyr o Bron Brawf Cymru, Ysbyty Athrofaol Cymru, ac Ysbyty Great Ormond Street, llwyddodd ymchwilwyr i hyfforddi'r algorithm AI gan ddefnyddio symudiadau llygaid radiolegwyr arbenigol. Wrth greu system gadarn sy’n gallu rhagfynegi’n gywir pa feysydd i ganolbwyntio arnynt wrth baratoi diagnosis, mae gan y system hon y potensial i leihau’r risg o gamgymeriadau gan radiolegwyr yn ogystal â helpu i flaenoriaethu cleifion sydd â sganiau anarferol.

Yn y dyfodol, gellid defnyddio’r system hon i helpu radiolegwyr dan hyfforddiant i adnabod rhannau o’r sgan a allai fod yn berthnasol, neu i ddatblygu adnodd ar gyfer asesu hyfforddeion profiadol drwy gymharu eu dadansoddiad nhw â deallusrwydd artiffisial.

Dywedodd Dr Hantao Liu, cyd-awdur yr astudiaeth:

Gyda’r holl heriau sy’n wynebu’r GIG, mae’n bwysig ein bod yn manteisio ar wyddor data a deallusrwydd artiffisial ar gyfer datrysiadau posibl. Nid yw hyn yn golygu disodli pobl â robotiaid, ond yn hytrach mae’n dangos sut y gall dysgu peirianyddol gefnogi a gwella gwaith gweithwyr clinigol proffesiynol.

 

Ychwanegodd Judi Rhys, Prif Weithredwr Tenovus:

Mae’r defnydd posibl o AI wrth wneud diagnosis cynnar o ganser yn anhygoel. Gall adnoddau fel hyn fod o gymorth mawr i radiolegwyr yn eu gwaith, ac mae hynny’n fanteisiol i gleifion hefyd.

 

 


Therapi gwrthgyrff newydd ar gyfer Clefyd Alzheimer yn rhoi canlyniadau addawol

Mae placiau Amyloid yn ddyddodion allgellog sy’n effeithio ar gysylltiadau niwronau a chredir bod y placiau hyn yn achosi Clefyd Alzheimer. Mae gwrthgorff Eli Lilly – donanemab – wedi’i beiriannu i glirio’r plac amyloid yn yr ymennydd, ac mae canlyniadau treialon clinigol wedi dangos canlyniadau optimistaidd.

Mae’n edrych yn debyg bod donanemab yn lleihau faint o blac amyloid sy’n cronni ac fe wnaeth arwain at fanteision clinigol i lawer o gyfranogwyr y treial, gan gynnwys:

  • 47% o gleifion - dim dirywiad o ran difrifoldeb y clefyd ar ôl blwyddyn (o’i gymharu â 29% o gyfranogwyr ar blasebo)
  • 40% yn llai o ddirywiad yng ngallu cyfranogwyr i gyflawni gweithgareddau bywyd beunyddiol ar ôl 18 mis
  • 39% yn llai o risg o ddatblygu i gam nesaf y clefyd, o’i gymharu â’r plasebo

Mae Eli Lilly yn bwriadu gwneud cais am gymeradwyaeth i werthu donanemab yn y DU yn y chwe mis nesaf. Ar hyn o bryd mae NICE yn gwerthuso’r cyffur ar gyfer trin nam gwybyddol ysgafn, neu ddementia ysgafn, a achosir gan Glefyd Alzheimer. Yn dibynnu ar ganlyniad adolygiad NICE, gallai donanemab fod ar gael ar y GIG erbyn 2025 ar y cynharaf.

 

 


Ysgogi’r Ymennydd Dwfn: Dyfais a dull clinigol newydd

Mae Ysgogi’r Ymennydd Dwfn (Deep Brain Simulation - DBS) yn driniaeth niwrolawfeddygol lle gosodir electrodau mewn rhannau penodol o ymennydd claf er mwyn ceisio rheoleiddio ysgogiadau ymennydd annormal sy’n cael effaith negyddol ar gelloedd yr ymennydd. Caiff ei ddefnyddio’n aml i drin cyflyrau niwrolegol, fel clefyd Parkinson.

Yn wreiddiol, roedd y cwmni o Fryste, BioInduction, wedi datblygu Picostim er mwyn gwella triniaethau DBS gan eu bod yn cymryd llawer o amser ac roeddent yn gostus. Fodd bynnag, mae ymchwilwyr o Brifysgol Bryste ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste wedi darganfod yn ddiweddar y gellid defnyddio DBS ar gyfer cleifion â gorbwysedd gwrthsafol (“refractory hypertension” neu bwysedd gwaed uchel sy’n gwrthsefyll triniaethau meddygol eraill).

Mewn treial bach, datgelwyd bod pedwar o bob chwech o gleifion â phwysedd gwaed uchel wedi gweld gostyngiad mewn cyfartaledd pwysedd gwaed, ac mae ymchwilwyr bellach yn cynllunio astudiaeth glinigol genedlaethol i asesu ymhellach botensial DBS i drin pwysedd gwaed uchel.

Dywedodd Nik Patel, niwrolawfeddyg ymgynghorol a sylfaenydd BioInduction:

“Ar hyn o bryd nid oes triniaeth ar gael ar gyfer gorbwysedd gwrthsafol, sy’n effeithio ar o leiaf 1.5% o’r holl gleifion â phwysedd gwaed uchel, neu oddeutu 20 miliwn o bobl ledled y byd, a thua 140,000 o bobl yn y DU.”

 

 


Ydy hyn wedi’ch ysbrydoli chi? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes arloesi y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gallwn ni helpu. Cysylltwch â ni drwy lenwi ein Ffurflen Ymholiad Arloesi. Gyda’n gilydd, gallwn drawsnewid gofal iechyd yng Nghymru.