Mae Ysbrydoli Arloesedd yn grynodeb misol o’r newyddion o dirwedd arloesi ffyniannus Cymru a gasglwyd gan Dîm Gwybodaeth y Sector ac mae’n sbarduno ein huchelgais i godi Cymru fel lle y mae pobl yn ei ddewis ar gyfer arloesi a buddsoddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae Cymru’n parhau i wneud ei marc ar y map arloesi cenedlaethol. Y mis hwn, rydyn ni wedi gweld ymchwil arloesol gan Brifysgol Caerdydd a chydnabyddiaeth haeddiannol i fusnesau gwyddorau bywyd o Gymru drwy Wobrau Busnesau Newydd Cymru 2023...
Mae astudiaeth Sefydliad Ymchwil Dementia (DRI) Prifysgol Caerdydd yn datgelu y gellir defnyddio oriawr glyfar i helpu i ganfod clefyd Parkinson hyd at 7 mlynedd cyn cael diagnosis clinigol.
Defnyddiodd yr ymchwilwyr ddeallusrwydd artiffisial i ddadansoddi cyflymder symudiadau dros 100,000 o bobl gan ddefnyddio data a gasglwyd gan fesurydd cyflymiad wedi’i adeiladu mewn oriawr glyfar. O'r data hwn, a gasglwyd o Biobanc y DU, nododd ymchwilwyr biofarciwr digidol ar gyfer clefyd Parkinson drwy olrhain cyflymder symudiad rhywun dros wythnos rhwng 2013 a 2016.
Datgelodd y darganfyddiad arloesol bod y biofarcwyr digidol yn perfformio'n well na biofarcwyr genetig, ffordd o fyw, biocemegol a’r rhai sy’n seiliedig ar symptomau ar gyfer adnabod clefyd Parkinson yn gynnar, ac roedd hefyd yn gallu nodi diagnosis clefyd Parkinson yn benodol o glefydau niwroddirywiol eraill neu anhwylderau symud.
Mae gan y gwaith ymchwil hwn, a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, Cymdeithas Alzheimer, Alzheimer’s Research UK ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y potensial i arwain at ddatblygu adnodd sgrinio ar gyfer clefyd Parkinson. Yn ôl yr ymchwilwyr, byddai’r adnodd hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil, i wella recriwtio i dreialon clinigol, ac mewn ymarfer clinigol, er mwyn caniatáu i gleifion gael mynediad at driniaethau yn gynharach, pan fydd triniaethau o’r fath ar gael.
Dywedodd arweinydd yr astudiaeth, Dr Cynthia Sandor:
"Hyd y gwyddom, dyma'r arddangosiad cyntaf o werth clinigol biofarcwyr sy'n seiliedig ar fesurydd cyflymu ar gyfer clefyd Parkinson rhagarwyddol yn y boblogaeth gyffredinol. Dangosodd ein canlyniadau fod gostyngiad cyn diagnosis mewn cyflymiad yn unigryw i glefyd Parkinson ac ni welwyd hyn ar gyfer unrhyw anhwylder arall a archwiliwyd gennym. Mae'n awgrymu y gellid defnyddio mesurydd cyflymu i nodi'r rhai sydd â risg uwch o gael clefyd Parkinson ar raddfa na welwyd ei thebyg o'r blaen"
Mae Gwobrau Busnesau Newydd Cymru 2023 yn cydnabod cryfder arloesi yng Nghymru.
Mae Gwobrau Busnesau Newydd Cymru 2023, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 22 Mehefin 2023, yn cydnabod cryfder gofod arloesi ac entrepreneuriaeth Cymru o amrywiaeth o sectorau. Roedd enillwyr y gwobrau’n cynnwys busnesau newydd ym maes iechyd a gwyddorau bywyd, sef Ceridwen Oncology, AMPED PCR, a Helping Kids Shine.
Dyfarnwyd gwobr Busnes Newydd y Flwyddyn Medtech a Technoleg Iechyd i Ceridwen Oncology. Fel cwmni darganfod cyffuriau oncoleg, mae eu ffocws presennol ar ganser prin yr esgyrn (chordoma.) Ffurfiwyd y cwmni i drawsnewid darganfyddiadau meddygol gan Brifysgolion Bangor a Chaerdydd yn driniaethau meddygol y gellir eu defnyddio, ac mae ym Mharc Gwyddoniaeth Menai, Ynys Môn.
Dyfarnwyd y wobr ar gyfer busnes newydd, “Rebel” i AMPED PCR, sef y busnes newydd gorau gyda thechnoleg aflonyddgar. Maent yn cynhyrchu cynhyrchion Adweithiau Cadwyni Polymeras (PCR) ar gyfer ymchwil anghlinigol yn y gwyddorau bywyd, y gellir eu cymhwyso hefyd mewn marchnadoedd milfeddygol a diogelwch bwyd. Mae’r cwmni wedi sefydlu labordy gweithgynhyrchu perfformiad uchel ac wedi masnacheiddio eu cynnyrch cyntaf; yr adweithydd byd-eang AMPED PCR.
Mae’r cwmni yn ArloesiAber, ac yn ddiweddar enillodd £60,000 drwy raglen BioAccelerate ArloesiAber.
Yn olaf, enillodd Helping Kids Shine wobr busnes Iechyd a Llesiant newydd y flwyddyn. Maent yn cynnig therapi galwedigaethol i blant, pobl ifanc a theuluoedd ledled De, Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Ydy hyn wedi’ch ysbrydoli chi? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes arloesi y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gallwn ni helpu. Cysylltwch â ni drwy lenwi ein Ffurflen Ymholiad Arloesi. Gyda’n gilydd, gallwn drawsnewid gofal iechyd yng Nghymru.