Mae Ysbrydoli Arloesedd yn grynodeb misol o’r newyddion o dirwedd arloesi ffyniannus Cymru a gasglwyd gan Dîm Gwybodaeth y Sector ac mae’n sbarduno ein huchelgais i godi Cymru fel lle y mae pobl yn ei ddewis ar gyfer arloesi a buddsoddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mis cyffrous arall i dirwedd arloesi ffyniannus Cymru! Y mis hwn, rydyn ni wedi gweld cydweithio yn cyflymu ymchwil a datblygu arloesedd, a threial newydd a gynhelir yng Nghymru gyda photensial mawr.
Arbrawf MS arloesol yn dechrau recriwtio yng Nghymru
Mae arbrawf Octopus, yr arbrawf llwyfan aml-gam cyntaf yn y byd i drawsnewid a darganfod triniaethau ar gyfer Sglerosis Ymledol (MS) wedi agor ei safle cyntaf yng Nghymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae MS yn gyflwr awto-imiwn sy’n effeithio ar yr ymennydd neu linyn y cefn, gan achosi symptomau fel blinder, anhawster cerdded, sbasmau cyhyrau a phroblemau gyda’r golwg. Nid oes modd gwella MS, er y gall triniaethau reoli’r cyflwr a lleddfu’r symptomau.
Mae arbrawf Octopus wedi’i ariannu gan grant o £12.9m gan y Gymdeithas MS ac mae’n cael ei arwain gan ymchwilwyr o Uned Treialon Clinigol Coleg Prifysgol Llundain.
Nod Octopus yw cofrestru o leiaf 1,200 o bobl ag MS cynyddol, a disgwylir canlyniadau yn 2028. Yn ogystal â safle Ysbyty Athrofaol Cymru, bydd Ysbyty Treforys yn Abertawe yn dechrau recriwtio cyn bo hir.
Dywedodd Lisa Haines, cyfranogwr cyntaf Cymru:
“Roeddwn i’n teimlo’n wych fy mod i wedi cael lle ar yr arbrawf. Doeddwn i methu credu’r peth! Does dim byd arall ar gyfer pobl sydd ag MS sylfaenol cynyddol, felly does gen i ddim byd i’w golli. Ac os nad yw’n fy helpu i, gall helpu gydag ymchwil ar gyfer rhywun yn y dyfodol”
Rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer yr arbrawf
Gallai’r cynnig i brynu Calon Cardio arwain at ffurfio cwmni meddygaeth adfywiol newydd
Mae’r cwmni dyfeisiau meddygol yn Abertawe sy’n datblygu pwmp calon y gellir ei fewnblannu, sef Calon Cardio, wedi llofnodi cytundeb caffael rhagarweiniol am £39 miliwn gan Ashlington Innovation. Gall hyn arwain at ffurfio cwmni meddygaeth adfywiol newydd sy’n canolbwyntio ar fethiant y galon, drwy uno Calon Cardio â'r cwmni therapi celloedd Celixir.
Mae Calon Cardio wedi datblygu MiniVAD, sef pwmp gwaed bach y gellir ei fewnblannu i drin cleifion sydd â methiant cronig uwch yn y galon. Mae’r pwmp yn cael ei fewnblannu yn fentrigl chwith y galon i roi hwb i’w swyddogaeth a darparu cyflenwad digonol o waed i’r corff.
Mawn astudiaethau in vitro blaenorol, mae MiniVAD wedi dangos gostyngiad sylweddol mewn niwed i'r gwaed o’i gymharu â dyfeisiau cymorth fentrigl chwith (LVADs). Mae’r cwmni wedi codi dros £20m o gyllid ecwiti a grant, ac yn 2022 fe ddechreuodd proses datblygu clinigol 3.5 blynedd, gyda’r nod o sicrhau cymeradwyaeth reoleiddiol yn Ewrop ar gyfer MiniVAD.
Dywedodd yr Athro Steve Westaby, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Calon Cardio:
"Mae gan ddatblygiad y dyfeisiau cymorth fentrigl chwith (LVADs), therapïau celloedd a therapi cyfunol botensial enfawr i wella bywydau’r miliynau lawer o gleifion sydd â photensial enfawr i wella bywydau'r miliynau lawer o gleifion sydd â chardiomyopathi ac felly, rydyn ni’n falch iawn o ymuno ag Ashington a CTL i gyflymu datblygiad y triniaethau achub bywyd hyn ar gyfer cleifion sydd â methiant y galon"
Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn cael £0.5m i ddatblygu therapiwtig newydd ar gyfer canser y prostad
Mae Prostate Cancer UK wedi dyfarnu £0.5 miliwn i Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd (ECSCRI) Prifysgol Caerdydd, i ariannu ymchwiliad i gyffur gwrth-ganser newydd posibl sy'n targedu llwybr signalau celloedd BLC3.
Yn ôl Prostate Cancer UK, mae 21,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chanser y prostad, ac mae dros 2,800 o bobl yn cael diagnosis o ganser y prostad bob blwyddyn. I un o bob pum dyn sy’n cael diagnosis o ganser y prostad yng Nghymru, mae eu canser nhw yn cael ei ganfod ar adeg sy’n rhy hwyr i’w wella, gan ddangos pwysigrwydd datblygu triniaethau newydd wedi’u targedu, a’u personoli.
Mae llwybr signalau celloedd BLC3 yn signal a roddir gan gelloedd canseraidd i sbarduno twf, gan gyfrannu at ddatblygiad tiwmorau. Mae ymchwilwyr o’r ECSCRI wedi datblygu'r cyffur cyntaf erioed sy’n targedu’r llwybr hwn, ac maent bellach yn ceisio profi effeithiolrwydd y therapi hwn mewn amrywiaeth o fodelau labordy sy’n efelychu canserau’r prostad dynol yn agos.
Dywedodd Simon Grieveson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Prostate Cancer UK:
"Rydyn ni’n hynod gyffrous i gefnogi Dr Pearson, yr Athro Clarkson a’u tîm ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd eu hymchwil nid yn unig yn rhoi cipolwg hanfodol i ni ar fecanweithiau sut mae rhai mathau o ganser ymosodol yn lledaenu, ond bydd hefyd yn profi triniaeth newydd sbon ar gyfer canser y prostad yn y labordy."
Rhagor o wybodaeth am dargedu BCL3 i drin canser y prostad
Ydy hyn wedi’ch ysbrydoli chi? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes arloesi y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gallwn ni helpu. Cysylltwch â ni drwy lenwi ein Ffurflen Ymholiad Arloesi. Gyda’n gilydd, gallwn drawsnewid gofal iechyd yng Nghymru.