Mae Ysbrydoli Arloesedd yn grynodeb misol o’r newyddion o dirwedd arloesi ffyniannus Cymru a gasglwyd gan Dîm Gwybodaeth y Sector ac mae’n sbarduno ein huchelgais i godi Cymru fel lle y mae pobl yn ei ddewis ar gyfer arloesi a buddsoddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Innovation graphic

Cyfnod cyffrous arall i dirwedd arloesi ffyniannus Cymru! Y mis hwn, rydyn ni wedi gweld y byd academaidd a gofal iechyd yn cydweithio i gyflymu arloesi, ymchwil a datblygu...

 


Prifysgol De Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cydweithio i ddatblygu rhaglen symudol AI ar gyfer rhoi diagnosis o ganserau’r croen 

Dan arweiniad yr Athro Cyswllt Dr Janusz Kulon, bydd yr ap yn defnyddio camera ffonau clyfar i ddadansoddi nodweddion namau croen fel siâp, lliw, anghymesuredd, ac anghysondebau eraill i ganfod tyfiannau malaen posibl. Y nod yw creu ap wedi’i ddilysu’n glinigol sy’n gallu helpu meddygon teulu i benderfynu a oes angen atgyfeiriad dermatolegydd. 

Mae’r ap yn defnyddio deallusrwydd artiffisial deallus ac mae’n cael ei dreialu gan ddefnyddio data cleifion y GIG a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae ymchwilwyr wrthi’n datblygu algorithmau i ddeall sut mae namau wedi effeithio ar gleifion yn y gorffennol ac y gellir eu defnyddio wedyn ar gyfer gwneud penderfyniadau clinigol yn y dyfodol.  

Dywedodd Dr Kulon:  

“Drwy gael mynediad at ddata cleifion a chanlyniadau archwiliadau arbenigwyr, gan gynnwys canlyniadau histopatholeg, gallwn nodi nodweddion penodol unrhyw annormaleddau sy’n heriol yn ddiagnostig a datblygu system fwy gwrthrychol i helpu meddygon teulu i roi diagnosis o namau croen”.   

“Fodd bynnag, nid yw'n disodli arbenigedd dynol, nid ydym yn creu blwch du meddygol arall, rydym yn creu algorithm AI y mae modd ei ddehongli i gefnogi asesiad diagnostig. Ar ôl datblygu’r ap, bydd yn adnodd a fydd yn cefnogi’r arbenigwyr yn eu gwaith ac yn bâr ychwanegol o lygaid a fydd yn gallu helpu i wneud y system diagnosis yn fwy effeithlon.”  

 

 


 

Prifysgol Caerdydd yn lansio’r Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl (NMHII) 

Bydd y sefydliad hwn yn defnyddio ymchwil am iechyd meddwl ac iechyd yr ymennydd Prifysgol Caerdydd, sydd gyda’r gorau yn y byd, i wella bywydau cleifion a’u teuluoedd.  

Mae’r sefydliad yn rhan o fuddsoddiad gwerth £5.4 miliwn gan Brifysgol Caerdydd mewn pum sefydliad arloesedd ac ymchwil i fynd i’r afael â’r materion mwyaf sy’n wynebu cymdeithas, yr economi a’r amgylchedd.  

Dyma "feysydd her" y sefydliad:  

  • Trosi canfyddiadau genomeg i ddatgelu bioleg clefydau niwrowyddoniaeth. 
  • Cyfuno genomeg a data mawr i ddatgloi gwybodaeth newydd am haeniad anhwylderau’r ymennydd.
  • Datblygu meddyginiaethau newydd ar gyfer triniaethau iechyd meddwl a’r ymennydd.
  • Defnyddio gwyddorau cymdeithasol i wella iechyd meddwl y gymdeithas. 

Mae’r sefydliad yn gartref i 21 o brif ymchwilwyr, 23 o staff ymchwil cyswllt ac 17 o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd â chryfderau mewn bioleg bôn-gelloedd, niwrobioleg systemau, a delweddu, a bydd yn gweithio’n agos gyda chanolfannau niwrowyddorau eraill ym Mhrifysgol Caerdydd.  

 


Ydy hyn wedi’ch ysbrydoli chi? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes arloesi y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gallwn ni helpu. Cysylltwch â ni drwy lenwi ein Ffurflen Ymholiad Arloesi. Gyda’n gilydd, gallwn drawsnewid gofal iechyd yng Nghymru.