Mae Cymru yn lleoliad delfrydol ar gyfer datblygu a defnyddio arloesiadau gwyddorau bywyd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gyda llawer o gwmnïau arloesol yn dewis cynnal busnes yma. Mae hyn yn cynnwys Halo Therapeutics sy’n dechrau treialon clinigol ar gyfer triniaeth therapiwtig chwistrell trwyn syml ar gyfer coronafeirysau.
Mae effaith Covid-19 ar iechyd, yr economi a lles yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod yn barod ar gyfer pandemig yn y dyfodol. Gallai chwistrell trwyn gwrthfeirysol newydd Halo Therapeutics yng Nghaerffili, sydd wedi cael £1.5 miliwn o fuddsoddiad yn ddiweddar, chwarae rhan bwysig yn hyn o beth.
Sefydlwyd Halo Therapeutics yn 2021 ar ôl i wyddonwyr o Brifysgol Bryste ddarganfod moleciwl o’r enw asid linoleig a allai atal neu gyfyngu ar haint feirysol SARS-CoV-2. Fodd bynnag, nid mwtaniadau Covid-19 yn unig y mae’n eu trin yn effeithiol, ond hefyd SARS, MERS a mathau eraill o goronafeirysau.
Darganfu tîm Bryste fod asid linoleig yn gweithio drwy rwymo i boced fach o broteinau sbigyn, sydd i’w gweld ar draws y rhan fwyaf o goronafeirysau heintus. Pan fydd wedi rhwymo, bydd siâp y feirws yn newid a bydd yn cael ei atal rhag rhwymo i gelloedd yn y trwyn lle mae’r feirws yn mynd i mewn i’r corff, rhag mynd i mewn i’r celloedd hyn a rhag lluosogi oddi mewn iddynt. Mae hyn yn ei dro yn cyfyngu ar ledaeniad y feirws yn y gwddf a/neu’r ysgyfaint.
Mae asid linoleig yn perthyn i ddosbarth o foleciwlau o’r enw Asidau Brasterog Rhydd (FFAs). Mae FFAs eisoes yn adnabyddus mewn ffarmacoleg ac yn cael eu defnyddio yn y triniaethau ar gyfer clefydau anadlol eraill, er enghraifft, fel ychwanegyn mewn pympiau asthma. Mae hyn yn golygu bod FFAs eisoes wedi cael eu profi mewn nifer o dreialon clinigol ac yn cael eu hystyried yn ddiogel. Fodd bynnag, dyma’r tro cyntaf i’r moleciwl gael ei ddefnyddio fel prif gynhwysyn gweithredol triniaeth therapiwtig, felly bydd nawr yn destun treialon clinigol dynol ar gyfer diogelwch a goddefiant, cyn y cynhelir astudiaethau dilynol ar gleifion Covid-19 neu’r rheini sydd mewn risg o gael prawf Covid-19 positif.
Mae Halo Therapeutics yn bwrw ymlaen â’r camau cyffrous hyn o’u canolfan newydd yng Nghaerffili. Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi hyn drwy gydlynu trafodaethau â rhanddeiliaid allweddol i ddarparu cysylltiadau ac opsiynau ar gyfer lleoliad yng Nghymru.
Mae Halo Therapteuics yn gweithio’n agos gyda Banc Datblygu Cymru, sef y prif fuddsoddwr, ac mae’n cyfrannu arweiniad a gwybodaeth arbenigol at y dirwedd arloesi ariannol.
Soniodd yr Athro Imre Berger, Cyd-sylfaenydd Halo Therapeutics, am gryfder yr ecosystem arloesi yng Nghymru:
“Mae Cymru yn lleoliad delfrydol i ni gynnal busnes. Rydyn ni wedi cael cefnogaeth dda gan Fanc Datblygu Cymru ac rydyn ni wrth ein bodd â’r trywydd rydyn ni’n ei ddilyn. Mae popeth yng Nghymru yn glos – mae cydweithio rhagorol rhwng partneriaid a phellteroedd byrrach rhyngddynt, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i’n cysylltu â rhanddeiliaid allweddol. Mae hefyd yn gartref i gwmnïau gwych sy’n gwneud gwaith arloesol sy’n berthnasol i’n sefydliad ni ein hunain, fel CatSci, Sefydliad Ymchwil Contract yng Nghaerdydd.
“Mae ein triniaeth therapiwtig yn rhywbeth a allai fod yn newid arloesol ar gyfer mynd i’r afael â straeniau newydd o Covid-19 a mathau eraill o goronafeirysau, a gallai fod yn adnodd hollbwysig i baratoi ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol. Rydyn ni’n gyffrous iawn am ein cynnyrch a’r effaith y gallai ei chael, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut mae ein taith yn mynd rhagddi.”
Mae Halo Therapeutics bellach wedi cau cyfnod codi arian Cyllid Sbarduno B i gymryd rhan mewn treialon clinigol, yn dilyn buddsoddiad gwerth £1.5 miliwn dan arweiniad Banc Datblygu Cymru, ochr yn ochr ag aelodau Science Angel Syndicate (SAS) a’r KBA Group – grŵp o unigolion uchel eu parch sy’n arbenigo mewn clefydau anadlol.
I gael rhagor o wybodaeth am Halo Therapeutics, ewch i’w gwefan.