Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae consortiwm o dan arweiniad Agile Kinetic Limited yn falch o gyhoeddi ei fod wedi derbyn cyllid gan Innovate UK, asiantaeth arloesi y DU ar gyfer prosiect sy’n torri tir newydd o’r enw "Dadansoddi Symudiadau ar gyfer Meddygaeth Gyhyrysgerbydol Fanwl."

Woman standing with movement tracking

Mae consortiwm o dan arweiniad Agile Kinetic Limited yn falch o gyhoeddi ei fod wedi derbyn cyllid gan Innovate UK, asiantaeth arloesi y DU ar gyfer prosiect sy’n torri tir newydd o’r enw "Dadansoddi Symudiadau ar gyfer Meddygaeth Gyhyrysgerbydol Fanwl". Mae’r cyllid hwn yn rhan o gystadleuaeth “Hyrwyddo Meddygaeth Fanwl” Innovate UK, sydd wedi’i hanelu at gefnogi prosiectau ymchwil a datblygu arloesol a allai drawsnewid y maes meddygaeth fanwl. 

Mewn partneriaeth â Chyfleuster Ymchwil Biomecaneg Cyhyrysgerbydol Prifysgol Caerdydd (MSKBRF) ac Acumed Ltd, nod y prosiect yw ail-siapio’r ffordd y mae dadansoddi symudiadau yn cael ei berfformio i roi diagnosis a monitro cyflyrau cyhyrysgerbydol, yn ogystal â gwella ar ôl llawdriniaeth neu anaf. Drwy ddisodli dulliau cyfredol costus, anghyfleus sy'n cymryd llawer o amser, bydd Agile Kinetic yn adeiladu ar eu llwyfan MoveLab® cyfredol y gall pobl gael mynediad ato drwy ddefnyddio ffôn symudol. 

Bydd yr ateb arloesol hwn yn galluogi asesiadau symudiadau clinigol o bell, sydd wedi’u dilysu, ar gyfer nodi cyflyrau neu gymhlethdodau yn gynt, gan arwain at driniaethau cyflymach, wedi’u targedu’n well, ac yn y pen draw canlyniadau gwell i gleifion. Er y bydd y prosiect yn canolbwyntio'n bennaf ar eiddilwch, mae potensial i'w ddefnyddio hefyd wrth dargedu rheolaeth ragweithiol cyflyrau iechyd cyhyrysgerbydol a chyflyrau cronig. 

Dywedodd Peter Bishop, Sylfaenydd Agile Kinetic: "Rydyn ni wrth ein bodd o fod wedi derbyn cyllid gan Innovate UK, a fydd yn ein galluogi i ddatblygu ein system dadansoddi symudiadau blaengar ymhellach sydd â’r potensial i drawsnewid y maes meddygaeth gyhyrysgerbydol fanwl. Drwy wneud dadansoddi symudiadau yn fwy hygyrch ac effeithlon, ein nod yw gwella gofal a chanlyniadau i gleifion ledled y DU."

Bydd y prosiect hefyd yn elwa o arbenigedd cydweithredwyr eraill  o Gymru, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Big Lemon Creative ac Uwchgyfrifiadura Cymru, a bydd y prosiect hwn yn defnyddio pŵer data mawr, meddygaeth fanwl a darpariaeth well o ofal gwerth uchel i wella profiad y claf ar draws ystod o gyflyrau cyhyrysgerbydol. 

Dywedodd Cathy Holt, Athro Biomecaneg a Pheirianneg Orthopedig yn Ysgol Peirianneg Caerdydd: "Mae derbyn cyllid ymchwil a datblygu UKRI yn newyddion gwych i’r Cyfleuster Ymchwil Biomecaneg Cyhyrysgerbydol, gan ganiatáu cydweithio clos gydag Agile Kinetic i greu adnoddau dadansoddi swyddogaethol fanwl newydd y gellir eu defnyddio’n hawdd yng nghartrefi pobl, canolfannau iechyd a chwaraeon. Bydd y gwelliannau dilynol i fynediad clinigol a chleifion o fudd mawr i'r ddarpariaeth gofal ar gyfer clefydau a chyflyrau cyhyrysgerbydol.”

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwerthiant, DU ac Ewrop Acumed Ltd: “Rydyn ni wrth ein bodd o allu cefnogi Agile Kinetic gyda’r dechnoleg ddatblygol gyfffrous yma. Eu gweledigaeth i gefnogi adsefydlu cleifion, ynghyd â'u hymrwymiad parhaus i archwilio datblygiad dadansoddi symudiadau manwl i ddiwallu angen clinigol nas diwallwyd, yw'r union gydweithrediad sy'n cyd-fynd yn dda â chenhadaeth Acumed ei hun o ran arloesi gyda phwrpas.” 

Mae’r prosiect yn adeiladu ar ymchwil a chydweithio blaenorol a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru, Accelerate Cymru a Sefydliad Alan Turing. Cefnogodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Agile Kinetic gyda’r broses o wneud cais, drwy ddarparu adolygiad ac arweiniad ar ysgrifennu cais neilltuol. 

Dywedodd Sarah Taylor, Arweinydd y Sector Deallusrwydd: “Llongyfarchiadau i Agile Kinetic ar eu cais llwyddiannus! Roedd yn wych eu cefnogi ac adolygu eu cais. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae eu gwaith yn datblygu gyda chymorth ariannol ymchwil a datblygu UKRI, ac i weld sut gall eu technoleg lywio’r broses o fonitro cyflyrau cyhyrysgerbydol o bell."

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect hwn, ewch i Agile Kinetic.


 

Ynglŷn ag Agile Kinetic Limited: 

Cwmni meddalwedd o Gasnewydd yn Ne Cymru yw Agile Kinetic Limited sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddigido symudiadau drwy ddefnyddio dyfeisiau y mae pobl yn berchen arnyn nhw’n barod. Eu cenhadaeth yw gwneud y broses o ddysgu o symud yn syml, yn hygyrch ac yn gynaliadwy. 

Ynglŷn ag Innovate UK: 

Mae Innovate UK yn llywio cynhyrchiant a thwf economaidd drwy gefnogi busnesau i ddatblygu a gwireddu potensial syniadau newydd. Maen nhw’n cysylltu busnesau â'r partneriaid, y cwsmeriaid a’r buddsoddwyr a all helpu busnesau i droi syniadau yn gynnyrch a gwasanaethau masnachol llwyddiannus a thwf busnes. 

Maen nhw’n ariannu cynlluniau cydweithredol busnes ac ymchwil i gyflymu arloesedd ac i ysgogi buddsoddiadau busnes mewn ymchwil a datblygu. Mae cymorth ar gael i fusnesau ar draws pob sector economaidd, cadwyni gwerth a rhanbarthau’r DU. Mae Innovate UK yn rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU. Am fwy o wybodaeth, ewch i Innovate UK