Mae Ysbrydoli Arloesedd yn grynodeb misol o’r newyddion o dirwedd arloesi ffyniannus Cymru a gasglwyd gan Dîm Gwybodaeth y Sector. Mae’n dangos cryfder sector Gwyddorau Bywyd Cymru a’r datblygiadau arloesol diweddaraf sy’n trawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Innovation graphic

Mae mis Mai wedi bod yn fis gwych i Gymru gyda phrosiectau arloesol yn cael eu datblygu, cyllid uchelgeisiol yn cael ei lansio i sbarduno newid yn y dyfodol a chydweithrediadau’n dod yn gatalydd ar gyfer cyflymu arloesedd i wella canlyniadau iechyd i bobl ledled y wlad.

 


Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn symud Cofnod Gofal Nyrsio Cymru ymlaen i gam nesaf y gwaith datblygu

Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR), a gafodd ei lansio ym mis Ebrill 2021, yn system ddigidol sydd wedi’i dylunio i ddisodli nodiadau papur gan nyrsys yng Nghymru, gan ganiatáu iddynt gofnodi, storio a chael gafael ar wybodaeth glinigol yn fwy effeithlon. Mae’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ym mhob un o’r saith bwrdd iechyd ledled Cymru, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Mae dros 3.9 miliwn o nodiadau cleifion wedi cael eu casglu hyd yma ac mae dros 86,000 o gleifion mewnol wedi cael eu hasesu’n ddigidol.

Bydd cyllid o £1.8m o Gronfa Buddsoddi Blaenoriaethau Digidol Llywodraeth Cymru yn symud y prosiect ymlaen i’r cam nesaf. Bydd hyn yn caniatáu i ddogfennau cleifion mewnol pediatrig gael eu llwytho i fyny a’u storio ar y system.

Ychwanegodd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru:

“Mae’n wych bod y system ddigidol nawr yn cael ei chyflwyno i gleifion pediatrig, ac mae sicrhau cysondeb lle bo hynny’n briodol yn bwysig iawn o safbwynt ansawdd a diogelwch. Mae symud i system ddigidol eisoes yn dod â manteision gwirioneddol i nyrsys drwy osgoi dyblygu gwaith a chaniatáu iddynt dreulio mwy o amser yn gofalu am gleifion.”

 

 


Prifysgol Abertawe yn arwain partneriaeth ymchwil cydweithredol newydd gyda’r nod o wella iechyd mamau a babanod

Mae’r bartneriaeth Dadansoddi Data Electronig Mamau a Babanod yn cael ei harwain gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, ac mae’n dod ag ymchwilwyr at ei gilydd o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Caeredin, King’s College Llundain, Prifysgol Nottingham, Prifysgol Birmingham a Sefydliad Ymchwil Iechyd Bradford.

Mae’r Cyngor Ymchwil Feddygol wedi dyfarnu dros £1.4 miliwn o gyllid i MIREDA er mwyn:

  • Creu adnodd yn y DU sy’n cysoni data am iechyd mamau a babanod, gan gysylltu â setiau data lleol ym maes iechyd, gofal sylfaenol ac ysbytai.
  • Creu cydweithrediad amlddisgyblaethol er mwyn gallu gwneud gwaith dadansoddi heb orfod symud y data.
  • Datblygu dulliau safoni a rheoli data ar draws setiau data.
  • Darparu cyllid ychwanegol ar gyfer ymchwil i wella gofal i famau a chanlyniadau babanod.

 

Ychwanegodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Rydyn ni’n falch iawn o weld bod y bartneriaeth arloesol a chyffrous hon yn rhoi iechyd mamau a babanod ar flaen y gad o ran gallu ymchwil yng Nghymru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld partneriaeth MIREDA yn datblygu gyda chydweithwyr o bob cwr o’r DU a chymorth gan y cyngor Ymchwil Feddygol, er mwyn helpu i wella canlyniadau bywyd go iawn mewn perthynas ag iechyd mamau a babanod.”

 

 


Y Sefydliad Iechyd yn croesawu ceisiadau ar gyfer rhaglen gyllido Tech for Better Care

Mae Tech for Better Care yn canolbwyntio ar y potensial ar gyfer defnyddio technoleg arloesol i alluogi gofal yn y cartref ac yn y gymuned. Bydd y cyfnod ymgeisio ar agor o fis Mai 2023 ymlaen a bydd y rhaglen yn cefnogi hyd at chwe thîm gyda syniadau arloesol sy’n ymwneud â’r perthnasoedd gofalu a galluogi sydd eu hangen rhwng y rheini sy’n darparu gofal a’r rheini sy’n derbyn gofal, er mwyn cefnogi pobl i fyw bywyd gwell a mwy annibynnol lle bo hynny’n bosibl.

Bydd y rhaglen yn cefnogi timau drwy broses arloesi tri cham sy’n cynnwys archwilio cyfleoedd a datblygu, profi a threialu syniadau. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cymorth ymarferol ac arbenigedd i ddatblygu cysylltiadau newydd a gofal rhagweithiol sy’n cynnwys technolegau deinamig.

Dywedodd Jenna Collins, Rheolwr Rhaglen y Sefydliad Iechyd:

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y rhaglen yn arwain at syniadau addawol a gwybodaeth am sut gall technoleg fod o fudd i fywydau pobl sy’n derbyn ac yn darparu gofal, gyda gwybodaeth ymarferol am sut mae modd lledaenu a datblygu’r syniadau hyn yn y system gofal.”

 

 


Buddsoddiad gwerth £1.5m i HALO Therapeutics gyflwyno’r chwistrell gwrthfeirysol cyntaf mewn clinigau yng Nghymru

Mae treialon clinigol ar gyfer triniaeth therapiwtig hawdd ei defnyddio yn y cartref ar gyfer SARS-CoV-2 (coronafeirws) yn cael eu cynnal yn dilyn buddsoddiad gwerth £1.5 miliwn dan arweiniad Banc Datblygu Cymru ochr yn ochr ag aelodau’r Science Angel Syndicate a’r Grŵp KBA. Mae Halo Therapeutics wedi cael ei ddenu i Gymru, ac mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi helpu i gydlynu cyfarfodydd i drafod opsiynau posib ar gyfer lleoliad. Arweiniodd hyn at ddod o hyd i safle presennol Halo yng Nghanolfan Arloesi Menter Cymru, Caerffili.

Bydd yr astudiaeth gyntaf hon o chwistrell gwrthfeirysol anadlol Halo Therapeutics ar gyfer y coronafeirws yn ymchwilio i ba mor ddiogel a goddefadwy yw’r driniaeth cyn cynnal astudiaethau dilynol mewn cleifion sy’n SARS-CoV-2 positif neu sydd mewn perygl o fod yn SARS-CoV-2 positif.

Ychwanegodd yr Athro Berger:

“Mae brechiadau a thriniaethau wedi lleihau effaith y feirws, ond mae’n dal yn risg sylweddol i iechyd. Mae ein triniaeth gwrthfeirysol hunan-weinyddol a chost-effeithiol yn atal y feirws rhag mynd i mewn i gelloedd epithelaidd y trwyn a dyblu, lle gall wedyn ledaenu i’r gwddf ac i’r ysgyfaint. Mae’n drobwynt posibl o ran trin ac atal y coronafirws, yn enwedig wrth i feirysau newydd ddatblygu.”

 

Dywedodd Dr Mark Bowman, Rheolwr Cronfa Fenter y Banc Datblygu:

“Mae’n galonogol gweld nifer cynyddol o gwmnïau gwyddorau bywyd a thechnoleg feddygol yn buddsoddi yng Nghymru. Fel cenedl, rydyn ni’n cynnig amgylchedd bywiog a ffyniannus sy’n ddeniadol i fusnesau sydd newydd sefydlu fel Halo Therapeutics wrth iddynt symud tuag at fasnacheiddio’n fyd-eang o ganolfan yma yng Nghymru.”

 

 


Ydy hyn wedi’ch ysbrydoli chi? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes arloesi y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gallwn ni helpu. Cysylltwch â ni drwy lenwi ein Ffurflen Ymholiad Arloesi. Gyda’n gilydd, gallwn drawsnewid gofal iechyd yng Nghymru.