Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Croeso i grynodeb Ysbrydoli Arloesedd o 2023! Ysbrydoli Arloesedd yw ein crynodeb misol o newyddion o dirwedd arloesi ffyniannus a gasglwyd gan ein Tîm Gwybodaeth am y Sector. Bydd y rhifyn arbennig hwn o Ysbrydoli Arloesedd yn edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau 2023. 

Inspiring Innovation/Ysbrydoli Arloesedd

Eleni, rydym wedi gweld cynnydd anhygoel o ran gwella triniaeth Alzheimer a diagnosteg canser, cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mwy o Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd i wella mynediad at ofal yn y gymuned, cydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd a Siemens Healthineers i ddatblygu technolegau meddygol uwch, datblygiadau mewn technoleg AI gynorthwyol, a chydnabyddiaeth haeddiannol i gwmnïau gwyddorau bywyd yng Ngwobrau STEM Cymru 2023. Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am rai o ddatblygiadau mwyaf cyffrous eleni. 

 

Deallusrwydd artiffisial yn darllen delweddau meddygol  

Mae ymchwilwyr o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd wedi datblygu system deallusrwydd artiffisial (AI) arloesol sy'n dadansoddi mamogramau. 

Mewn cydweithrediad â radiolegwyr o Bron Brawf Cymru, Ysbyty Athrofaol Cymru, ac Ysbyty Great Ormond Street, llwyddodd ymchwilwyr i hyfforddi'r algorithm AI gan ddefnyddio symudiadau llygaid radiolegwyr arbenigol. Wrth greu system gadarn sy’n gallu rhagfynegi’n gywir pa feysydd i ganolbwyntio arnynt wrth baratoi diagnosis, mae gan y system hon y potensial i leihau’r risg o gamgymeriadau gan radiolegwyr yn ogystal â helpu i flaenoriaethu cleifion sydd â sganiau anarferol. 

Yn y dyfodol, gellid defnyddio’r system hon i helpu radiolegwyr dan hyfforddiant i adnabod rhannau o’r sgan a allai fod yn berthnasol, neu i ddatblygu adnodd ar gyfer asesu hyfforddeion profiadol drwy gymharu eu dadansoddiad nhw â deallusrwydd artiffisial. 

Dywedodd Dr Hantao Liu, cyd-awdur yr astudiaeth: 

"Gyda’r holl heriau sy’n wynebu’r GIG, mae’n bwysig ein bod yn manteisio ar wyddor data a deallusrwydd artiffisial ar gyfer datrysiadau posibl. Nid yw hyn yn golygu disodli pobl â robotiaid, ond yn hytrach mae’n dangos sut y gall dysgu peirianyddol gefnogi a gwella gwaith gweithwyr clinigol proffesiynol."

Ychwanegodd Judi Rhys, Prif Weithredwr Tenovus: 

"Mae’r defnydd posibl o AI wrth wneud diagnosis cynnar o ganser yn anhygoel. Gall adnoddau fel hyn fod o gymorth mawr i radiolegwyr yn eu gwaith, ac mae hynny’n fanteisiol i gleifion hefyd."

Darllenwch y datganiad llawn i’r wasg gan Brifysgol Caerdydd 


Therapi gwrthgyrff newydd ar gyfer Clefyd Alzheimer yn rhoi canlyniadau addawol  

Mae placiau Amyloid yn ddyddodion allgellog sy’n effeithio ar gysylltiadau niwronau a chredir bod y placiau hyn yn achosi Clefyd Alzheimer. Mae gwrthgorff Eli Lilly – donanemab – wedi’i beiriannu i glirio’r plac amyloid yn yr ymennydd, ac mae canlyniadau treialon clinigol wedi dangos canlyniadau optimistaidd. 

Mae’n edrych yn debyg bod donanemab yn lleihau faint o blac amyloid sy’n cronni ac fe wnaeth arwain at fanteision clinigol i lawer o gyfranogwyr y treial, gan gynnwys: 

  • 47% o gleifion - dim dirywiad o ran difrifoldeb y clefyd ar ôl blwyddyn (o’i gymharu â 29% o gyfranogwyr ar blasebo) 
  • 40% yn llai o ddirywiad yng ngallu cyfranogwyr i gyflawni gweithgareddau bywyd beunyddiol ar ôl 18 mis 
  • 39% yn llai o risg o ddatblygu i gam nesaf y clefyd, o’i gymharu â’r plasebo.

Mae Eli Lilly yn bwriadu gwneud cais am gymeradwyaeth i werthu donanemab yn y DU yn y chwe mis nesaf. Ar hyn o bryd mae NICE yn gwerthuso’r cyffur ar gyfer trin nam gwybyddol ysgafn, neu ddementia ysgafn, a achosir gan Glefyd Alzheimer. Yn dibynnu ar ganlyniad adolygiad NICE, gallai donanemab fod ar gael ar y GIG erbyn 2025 ar y cynharaf. 

Darllenwch y datganiad llawn i’r wasg gan Eli Lilly 


Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi £5 miliwn o gyllid ar gyfer mwy o Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd  

Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £5 miliwn i gynyddu’r nifer o Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yng Nghymru er mwyn gwella’r mynediad at ofal yn y gymuned.  Mae Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn darparu gofal i asesu, trin, rhoi diagnosis a rhyddhau cleifion, a gall y proffesiynau gynnwys radiograffwyr, parafeddygon, ffisiotherapyddion, dietegwyr a therapyddion galwedigaethol. 

Mae cyllid ar gael o fis Ebrill 2023.  Drwy fuddsoddi yn y gweithwyr hyn, bydd y fenter hon yn ceisio helpu pobl i barhau i fod yn heini ac yn annibynnol, gan leihau’r nifer o dderbyniadau mewn ysbytai ac, o ganlyniad i hynny, galluogi i bobl gael eu rhyddhau’n gyflymach o’r ysbyty.  Mae hyn yn galluogi i gleifion adfer yn eu cartref ac mae’n lleihau’r pwysau ar wasanaethau. 

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 

“Mae iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn canolbwyntio ar gryfhau gwasanaethau yn y gymuned. Rydyn ni am i bobl fyw gartref, mor annibynnol â phosib. Ar hyn o bryd, nid oes digon o bobl yn gallu manteisio ar arbenigedd gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i wella eu hiechyd a’u hadferiad. Dyna pam rwy’n cyhoeddi £5 miliwn i wella mynediad at weithwyr proffesiynol medrus a gwasanaethau i ddarparu dewisiadau amgen i dderbyniadau i’r ysbyty a lleihau dibyniaeth ar ofal cymdeithasol hirdymor.” 

Darllenwch y datganiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru 


Cwmnïau Gwyddorau Bywyd ar y brig yng Ngwobrau STEM Cymru 2023 

Roedd 13 o wobrau ar gael yng Ngwobrau STEM Cymru eleni. Daeth cwmnïau ac unigolion Gwyddorau Bywyd i’r brig o fewn y gystadleuaeth, gan gipio pedair o’r gwobrau, gan gynnwys: 

Gwobr Arloesi mewn STEM Afon Technology 

Mae Afon Technology yn datblygu Glucowear, monitor glwcos gwaed parhaus, anfewnwthiol. 

Cwmni STEM y Flwyddyn (o dan 50 o weithwyr)CanSense  

Mae CanSense yn datblygu prawf gwaed ar gyfer canser y coluddyn, gan leihau’r angen i gleifion gael colonosgopi mewnwthiol i roi diagnosis i’w clefyd. 

Gwobr Cynaliadwyedd STEMGenesis Biosciences 

Mae Genesis Bioscience yn datblygu amrywiaeth o gynhyrchion gwrthficrobaidd ar gyfer cymwysiadau fel glanweithdra arwynebau, trin gwastraff y diwydiant bwyd a gwaith trin dŵr gwastraff. 

Dywedodd Liz Brookes, Cyd-sylfaenydd Gwobrau STEM Cymru: 

“Mae wedi bod yn anhygoel rhoi sylw i’r sector STEM yng Nghymru. Mae ein henillwyr yn gwthio ffiniau arloesedd STEM ac yn helpu i fynd i'r afael â'r bwlch amrywiaeth a'r prinder sgiliau sy'n bodoli” 

Llongyfarchiadau mawr i’r holl enillwyr a phawb a gafodd eu henwebu! 

Dysgwch fwy am wobrau STEM Cymru ac enillwyr eleni 


Prifysgol Caerdydd a Siemens Healthineers yn cytuno ar gynghrair strategol 

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cychwyn ar bartneriaeth gyda Siemens Healthineers i ddatblygu uwch dechnolegau meddygol, gyda phwyslais ar ddelweddu a diagnosteg in vitro

Mae’r bartneriaeth hon yn canolbwyntio ar Ganolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), sy’n defnyddio peiriannau cyseinedd magnetig a ddatblygwyd gan Siemens i ddelweddu ac ymchwilio i gyflyrau niwrolegol a seiciatrig fel dementia, epilepsi, sglerosis ymledol a sgitsoffrenia. 

Mae CUBRIC yn gartref i system MRI, sganiwr a addaswyd yn arbennig gan Siemens, sy’n gallu delweddu micro-strwythur yr ymennydd i ddatgelu’r cysylltiadau niwrolegol sy'n sail i weithrediad yr ymennydd yn fanylach na systemau confensiynol. 

Dywedodd yr Athro Ian Weeks, Dirprwy Is Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd: 

“Bydd y cydweithio hwn yn trawsnewid sut rydyn ni’n defnyddio arbenigedd y ddwy ochr mewn delweddu, diagnosteg labordai clinigol a gwyddor data i ddatblygu dulliau diagnostig integredig ar gyfer rhoi diagnosis a thrin clefydau yn gynt ac yn fwy cywir.” 

Darllenwch fwy am y gynghrair strategol 


Addasu therapiwtig canser y fron cyfredol fel cyffur ataliol a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yn y GIG yn Lloegr  

Erbyn hyn, gallai menywod sydd mewn risg cynyddol o ganser y fron yn Lloegr elwa o gyffur sydd wedi’i brofi i leihau risg ar y GIG, ar ôl iddo gael ei drwyddedu i’w ddefnyddio o’r newydd i helpu i atal y clefyd. 

Diolch i waith Rhaglen Addasu Meddyginiaethau’r GIG yn Lloegr a chwmni fferyllol Accord Healthcare, mae’r cyffur Anastrozole, sy’n cael ei ddefnyddio fel triniaeth canser y fron, bellach wedi’i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) fel cyffur ataliol. Mae’r cyffur yn lleihau nifer yr achosion o ganser y fron bron i 50%ymhlith menywod ôl-menopos sydd â risg uwch o'r clefyd. 

Canser y fron yw’r math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU, gyda dros 56,000 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn, ac mae 80% o’r diagnosis hynny ymhlith menywod dros 50 oed.  

Ni chafwyd unrhyw newyddion o ran pryd fyddai Anastrozole ar gael i fenywod sydd mewn risg yng Nghymru. 

Dywedodd Amanda Pritchard, Prif Swyddog Gweithredol y GIG: 

“Mae’n wych y gallai’r opsiwn hanfodol hwn, sy’n lleihau risg, helpu miloedd o fenywod a’u teuluoedd i osgoi trallod diagnosis o ganser y fron. Mae galluogi mwy o fenywod i fyw bywydau iachach, heb ganser y fron, yn gwbl anhygoel.” 

Darllenwch fwy am y cyffur ataliol 

 

Byddwch yn rhan o'n cyfres Ysbrydoli Arloesedd 2024!   

Os oes gennych chi gyhoeddiad cyffrous neu ddiweddariad rhaglen y credwch y byddai gan ein darllenwyr ddiddordeb ynddo, cysylltwch â ni ar hello@lshubwales.com.