Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Crynodeb newyddion yw Ysbrydoli Arloesedd, sy’n cael ei greu gan dîm Gwybodaeth y Sector ac yn trafod y tirlun arloesi ffyniannus. Erbyn hyn rydym ni’n canolbwyntio’n benodol ar newyddion a diweddariadau sy’n ymwneud â’n maes blaenoriaeth, sef canser. Yn sbarduno ein huchelgais i godi Cymru i fod yn wlad y mae pobl yn ei dewis ar gyfer arloesi a buddsoddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. 

Inspiring Innovation

Yn y rhifyn hwn, darllenwch am y posibiliad o gael clwstwr gwyddorau bywyd newydd yng Nghaerdydd, cyllid i ddatblygu therapïau gwrth ganser, a system broncosgopi robotaidd sy’n ein galluogi i roi diagnosis cynt o ganser yr ysgyfaint.

Oligoniwcleotidau- Clwstwr gwyddorau bywyd newydd yn datblygu yng Nghymru?

Mae buddsoddiad o £1.75 miliwn dan arweiniad Banc Datblygu Cymru wedi sbarduno Argonaute RNA i symud i Gaerdydd. Mae Argonaute RNA yn gwmni biotechnoleg sy’n datblygu therapiwteg oligoniwcleotidau ar gyfer cyflyrau cardiofasgwlaidd prin. Mae’r penderfyniad hwn i symud yn cryfhau perthynas Argonaute gyda CatSci, ei phartner gweithgynhyrchu. Agorodd CatSci gyfleuster synthesis yng Nghaerdydd yn 2023. Gall y ffaith eu bod nhw, ynghyd â chwmni Cytiva, arweinydd byd-eang ym maes gweithgynhyrchu therapïau oligoniwcleotidau, yn yr un lleoliad arwain at glwstwr oligoniwcleotidau newydd yn y rhanbarth.

Dywedodd Mike Khan, Prif Swyddog Gweithredol Argonaute:

“Rydym ni’n gwerthfawrogi cymorth y Banc Datblygu, ac yn gyffrous iawn ein bod ni’n rhan o’r hyn sy’n digwydd ym maes oligoniwcleotidau yng Nghaerdydd. Ein nod yw treialu ein prif gyffur, a dangos cymaint o wahaniaeth y gallwn ni ei wneud i fywydau cleifion.”

Rhagor o wybodaeth

 

Awen Oncology yn cael cyllid i ddatblygu therapiwteg gwrth-ganser

Mae Awen Oncology, cwmni sy’n deillio o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd wedi codi dros £1 miliwn mewn buddsoddiadau ecwiti, ac mae ganddyn nhw gefnogaeth gwerth chwe ffigwr gan Fanc Datblygu Cymru a Start Codon. Mae'r cwmni wedi ei leoli yn M-Sparc, parc gwyddoniaeth cyntaf Cymru, ac maen nhw’n datblygu therapiwteg sydd wedi ei hanelu at enynnau datblygedig sy’n gysylltiedig â chanser.  Arferai Awen Oncology gael eu cyllido gan Cancer Reaserch UK, Innovate UK, a rhaglen SMART Llywodraeth Cymru, ond erbyn hyn maent yn cael eu cysylltu â sefydliad Therapiwteg Milner Prifysgol Caergrawnt, ac yn cael cymorth gan raglen START Start Codon, i gynyddu eu hymdrechion masnach.

Dywedodd Dr Ramsay McFarlane, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Awen Oncology: 

“Rydym ni yn hyderus bod cefnogaeth y Banc datblygu a Start Codon, yn ogystal â’r prifysgolion ac M-Sparc, yn golygu bod gennym ni ddigon o gefnogaeth i gyflymu’r broses o droi ein gwyddoniaeth arloesol yn fenter fasnachol fyd-eang a llwyddiannus, a allai helpu i drin canser.”

Rhagor o wybodaeth

 

Broncosgopi Robotaidd yn cael ei ddefnyddio i ganfod Canser yr ysgyfaint yn gynnar

Ysbyty Wythenshawe ym Manceinion yw un o’r ysbytai cyntaf yn Ewrop i ddefnyddio System Endolwminaidd Ion, sef system froncosgapi robotaidd sy’n ein galluogi i roi diagnosis cynharach o ganser yr ysgyfaint drwy gyrraedd nodylau sy’n ddwfn yn yr ysgyfaint. Mae rhoi biopsi ar y nodylau hyn yn anodd wrth ddefnyddio dulliau traddodiadol.

Mae'r dechnoleg ddatblygedig hon yn galluogi clinigwyr i reoli cathetr robotaidd a’i arwain drwy’r ysgyfaint gyda manylder. Mae ganddi gyfradd llwyddo diagnostig o 100% hyd yn hyn. Gyda’r cynnydd yn rhaglenni sgrinio canser yr ysgyfaint, mae systemau fel hyn yn allweddol wrth ganfod canser mewn nodylau bychan yn gynt, lleihau’r oedi cyn cael triniaeth, a gwella canlyniadau cleifion.

Dywedodd Dr Haval Balata, Meddyg Resbiradol, ac Arweinydd Clinigol i wasanaeth Ion, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Prifysgol Manceinion: 

“Mae Ion yn ein galluogi ni i wneud profion mewn modd manwl a diogel, a rhoi’r atebion angenrheidiol i gleifion. Mae hyn yn ei dro, yn ein galluogi ni i gynnig y driniaeth orau bosib i’n cleifion, a hynny mor fuan â phosib. Mae triniaeth yn fwy tebygol o lwyddo os yw'r claf yn ei chael hi’n fuan”.

Rhagor o wybodaeth

 

Arloeswr sy’n canolbwyntio ar ganser?

Os ydych chi’n arloeswr sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â chanser ac yn dymuno datblygu eich arloesedd neu’ch rhaglen yng Nghymru, rydym ni eisiau clywed gennych chi. Cyflwynwch eich ymholiad heddiw, gan roi cymaint o fanylion â phosibl, a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.