Gweinyddwr Cymorth Busnes
Mae Catherine yn rhan o’r Tîm Adnoddau Dynol a Llesiant ac mae’n gweithio fel Gweinyddwr Cymorth Busnes. Mae’n mwynhau gweithio gydag eraill ac mae ganddi gyfoeth o brofiad mewn gwasanaethau i gwsmeriaid. Mae ei chyfrifoldebau’n cynnwys darparu cymorth gweithredol a chymorth busnes cyffredinol, rheoli archebion prynu, trefnu teithio a llety, archebu ystafelloedd, rheoli offer a chynnig canllawiau technegol.
