Mae gennym gyfle cyffrous i Bennaeth Marchnata a Chyfathrebu ymuno â’n tîm.

Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, ein nod yw sicrhau mai Cymru yw’r gyrchfan o ddewis ar gyfer arloesi ym maes iechyd, gofal a llesiant. Gan arwain ein swyddogaeth Marchnata a Chyfathrebu, byddwch yn arwain strategaethau dylanwadol sy’n codi ein proffil, sy’n arddangos arloesedd sy’n torri tir newydd, ac sy’n ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ar draws diwydiant, gofal iechyd, gofal cymdeithasol a’r byd academaidd.

Mae’r rôl arweinyddiaeth hon yn cynnig yr ymreolaeth i ddatblygu a gweithredu strategaethau marchnata a chyfathrebu deinamig, gan sicrhau bod Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn ddylanwadwr allweddol ym maes polisi, buddsoddi ac ymgysylltu â’r diwydiant. Byddwch hefyd yn arwain tîm talentog, gan sicrhau cysondeb â blaenoriaethau sefydliadol a meithrin diwylliant perfformiad uchel.

Dyma gyfrifoldebau’r rôl hon…

  • Gwella ein brand – Gosod Hwb Gwyddorau Cymru yn arweinydd ym maes arloesi iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddylanwadu ar sgyrsiau cenedlaethol a rhyngwladol.
  • Arwain y gwaith o farchnata a chyfathrebu strategol – Datblygu a gweithredu ymgyrchoedd dylanwadol sy’n ymgysylltu â rhanddeiliaid, sy’n cynhyrchu arweinwyr, ac sy’n sbarduno’r gwaith o fabwysiadu arloesedd.
  • Annog ymgysylltu â rhanddeiliaid – Meithrin perthnasoedd ystyrlon ag arweinwyr diwydiant, cyrff llywodraethol, y GIG, y byd academaidd a buddsoddwyr er mwyn cael yr effaith orau bosib.
  • Llunio strategaethau materion cyhoeddus a’r cyfryngau – Arwain ymdrechion ymgysylltu â’r cyfryngau, gwella ein presenoldeb digidol, a chynrychioli’r sefydliad i fod yn llefarydd allweddol.
  • Arwain tîm sy’n perfformio’n dda – Ysbrydoli, mentora a rheoli tîm marchnata a chyfathrebu deinamig er mwyn sicrhau canlyniadau rhagorol.

Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm i gael y manylion llawn:

application/pdf - 265.84 KB

Bydd gennych brofiad da o’r canlynol…

  • Profiad amlwg o ddatblygu a gweithredu strategaethau cyfathrebu a marchnata dylanwadol mewn amgylchedd cymhleth sy’n cynnwys llawer o randdeiliaid.
  • Sgiliau arwain cryf gyda’r gallu i ddylanwadu ar lefel uwch a sbarduno cydweithio traws-swyddogaethol.
  • Arbenigedd mewn ymgysylltu â rhanddeiliaid, cysylltu â’r cyfryngau, a rheoli enw da.
  • Meddylfryd sy’n cael ei arwain gan ddata, gan ddefnyddio dadansoddiadau i lywio’r broses o wneud penderfyniadau a mesur effaith.
  • Angerdd am drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol ac arloesi yng Nghymru.

Pam ymuno â ni?

Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni’n fwy na thîm – rydyn ni’n gatalydd dros newid. Byddwch chi’n ymuno â sefydliad sydd ar flaen y gad o ran trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol drwy arloesi. Rydyn ni’n cynnig amgylchedd cydweithredol a blaengar lle bydd eich gwaith yn cyfrannu’n uniongyrchol at lunio dyfodol iechyd a llesiant yng Nghymru.

Dyma rydyn ni’n ei gynnig:

  • Bod yn aelod o dîm bach a chyfeillgar
  • Diwylliant gweithio hyblyg, cynhwysol a chefnogol
  • Gwyliau hael – 30 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau cyhoeddus
  • Cynllun pensiwn aberthu cyflog gyda chyfraniad o 9% gan y cyflogwr

Dewch i ymuno â’n tîm!

Anfonwch e-bost atom ni ar careers@lshubwales.com gyda’ch CV cyfredol a datganiad ategol yn egluro pam mai chi yw’r unigolyn gorau ar gyfer y cyfle cyffrous hwn. Dylai eich datganiad ategol amlinellu sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol a nodir yn y disgrifiad swydd llawn, ac ni ddylai fod yn fwy na 2 dudalen i gyd.

  • Dyddiad cau: Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 4pm ar 25 Ebrill 2025.
  • Cyfweliadau: Cynhelir yn ein swyddfa yng Nghaerdydd ar 7 Mai 2025.