Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Step complete
Step complete
Step complete

 

Dewiswyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwybodeg GIG CymruPrifysgol Abertawe a Gofal Cymdeithasol Cymru fel un o bum Labordy Data Rhwydweithio ‘The Health Foundation’. Byddant yn derbyn hyd at £400,000 dros ddwy flynedd i ffurfio cymuned o ddadansoddwyr sy'n gweithio ar yr heriau iechyd a gofal mwyaf.

Labordai Data Rhwydweithiol ‘The Health Foundation’ yw’r cyntaf o’i fath a bydd yn rhoi mewnwelediadau o ddata i arweinwyr systemau iechyd cenedlaethol a lleol er mwyn weithredu i wella iechyd a gofal y DU.

Cydlynwyd y cais gan dîm Ecosystem Iechyd Digidol Cymru a bydd yn gweld y partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i wneud y defnydd gorau o ddata arferol i fynd i'r afael ag iechyd, atal ac anghydraddoldebau ar draws cenedlaethau, a chynhyrchu mewnwelediadau gwerthfawr i lywio'r penderfyniad i wella iechyd y boblogaeth yng Nghymru.

Darllenwch yr astudiaeth achos lawn

Testunau
Data
Partneriaid / Ffynonellau Cyllid
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Prifysgol Abertawe
  • Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • The Health Foundation
  • Diweddariadau
Completed

23ain Gorffennaf 2020Cyhoeddi Enillwyr yn Swyddogol

Cyhoeddwyd pum Labordy Data Rhwydweithio a ddewiswyd yn swyddogol.

Completed

20fed Mai 2020Canlyniad y Cais

Mae'r tîm yn derbyn y newyddion i ddweud eu bod nhw wedi eu dewis fel un o bum Labordy Data Data Rhwydweithio ledled y DU.

Completed

16th April 2020 Interview Time

Panel interview with The Health Foundation.

Completed

16eg Ebrill 2020Amser Cyfweld

Cyfweliad panel gyda The Health Foundation.

Completed

15fed Ebrill 2020Paratoi am Gyfweliad

Mae partneriaid yn cyfarfod i gynnal ymarfer panel cyfweld i baratoi.

Completed

Mawrth 2020Rhestr Fer

Tîm yn derbyn y newyddion bod eu cais wedi'i symud ymlaen i rownd nesaf y broses ymgeisio.

Completed

28ain Chwefror 2020Cyflwyno Cais

Dyddiad cau am geisiadau.

Completed

24ain Chwefror 2020Cytuno y Drafft Terfynol

Cyfarfod terfynol i bartneriaid i gytuno ar y drafft terfynol a'r costau.

Completed

Chwefror 2020Adeiladu'r Cais

Cynnwys y bid yn cael ei gynhyrchu gan bartneriaid a'i dynnu at ei gilydd gan dîm EIDC i ffurfio un cais.

Completed

20fed Ionawr 2020Cyfarfod Cynllunio

Mae cynrychiolwyr o'r holl bartneriaid yn cyfarfod i drafod y cynnig llawn ar gyfer cais Labordy Data Rhwydweithio Cymru.