Step complete
Step complete
Step complete

Roedd PhysioNow yn un o bum prosiect a chafodd cyllid fel rhan o gronfa Datrysiadau Digidol COVID-19 Llywodraeth Cymru a weinyddir gan EIDC. Offeryn cymorth bot-sgwrsio dan arweiniad clinigol yw PhysioNow, sy'n darparu brysbennu ystwyth ac anghysbell ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol. Mae algorithmau soffistigedig sydd wedi'u datblygu'n glinigol a'u hadolygu a'u mireinio'n gyson yn tywys defnyddwyr i'r llwybr priodol, gan alluogi'r gofal iawn, ar yr adeg iawn, gan y person iawn.

Darllenwch yr astudiaeth achos lawn

 

Testunau
Digidol
Partneriaid / Ffynonellau Cyllid
  • Connect Health
  • EIDC
  • Llywodraeth Cymru
  • GIG Cymru
  • EQL
  • PhysioSpace Cardiff
Dyddiad dechrau
Dyddiad Cwblhau
  • Diweddariadau
Completed

11eg Ionawr 2021

I grynhoi, canfyddiadau'r peilot oedd bod profiad y claf yn dda a bod potensial pendant yn yr ateb, i glinigwyr a llwybr MSK, sy'n gofyn am astudiaeth fwy. Mae'r peilot wedi rhoi mewnwelediad i'r timau clinigol sut y gallai datrysiadau digidol gefnogi llwybr MSK yn y dyfodol, sy'n cael ei rannu a'i drafod â gwasanaethau ffisio eraill ledled Cymru.

Completed

1af Rhagfyr 2020

Mae'r tîm bellach yn wythnos olaf ond un y peilot gyda 863 o gleifion yn cael mynediad at ofal.

Mae adborth cleifion yn parhau i fod yn gadarnhaol iawn gyda bron i 200 o ymatebion wedi'u cwblhau.

Completed

6ed Tachwedd 2020

Mae 639 o gleifion ar draws y ddau fwrdd iechyd wedi cymryd rhan yn y peilot.

Completed

23ain Hydref 2020

Mae'r gweithgaredd wedi rhagori ar 50% o'r cyfanswm ar gyfer y peilot gyda chyfanswm o 507 o gleifion yn cymryd rhan. Mae adborth cleifion ar 25% o'r holl gleifion, ac mae ar Brawf Ffrindiau a Theuluoedd 80% positif.

Completed

15fed Hydref 2020

Ymestynnwyd y peilot i leddfu pwysau ar y timau ym Myrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda yng nghanol ail don Coronafeirws.

Completed

28ain Medi 2020

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Connect Health yn cwrdd i drafod integreiddio TG y tu hwnt i'r peilot (os cymerir ymlaen) a sut y gellid datblygu hyn.

Completed

18fed Medi 2020

Mae adborth cleifion a gasglwyd yn gadarnhaol gyda sgoriau Prawf Ffrindiau a Theuluoedd da, a sylwadau cadarnhaol ar rhwyddineb defnydd a chyfleustra ar draws ystod oedran amrywiol.

Completed

4ydd Medi 2020

Cymerodd 66 o gleifion ar draws y ddau fwrdd iechyd ran yn y peilot hyd yn hyn. Gwellwyd y gwaith cyfathrebu i ledaenu'r gair am y peilot.

Completed

21ain Awst 2020

Aeth peilot yn fyw yn y ddau fwrdd iechyd. Mae llif cleifion yn araf i ddechrau ond mae hyn wedi caniatáu i Connect Health nodi unrhyw faterion prosesu yn gynnar.

Completed

22ain Mehefin 2020

Dewiswyd PhysioNow fel un o bum prosiect o dan Gronfa Datrysiadau Digidol COVID-19 Llywodraeth Cymru