Mae GIG Cymru yn defnyddio mwy a mwy o holiaduron safonol i gleifion er mwyn mesur canlyniadau clinigol a’u gwella.
Mae tîm Ecosystem GIG Cymru wedi dechrau cydweithio ag asiantaethau allanol Dr Doctor a Patient Knows Best er mwyn gweithio tuag at safon cyffredin ar gyfer API PROMs (Mesur Canlyniadau a Adroddwyd gan Gleifion), ac i gynnig proffil FHIR safonol a chanllaw gweithredu er mwyn gallu integreiddio’n rhwydd yn y dyfodol.
Menter Prawf o Gysyniad fydd hon.
- DrDoctor
- Patient Knows Best
- Gofal Iechyd yn Seiliedig ar Werth
- ETTF
Cydweithio yn Dechrau
Dechreuodd y cydweithio rhwng tîm Ecosystem GIG Cymru a rhanddeiliaid allweddol.
Cwmpasu
Cynhaliwyd amryw o gyfarfodydd cwmpasu gyda rhanddeiliaid allweddol drwy gydol 2019. Daeth y rhain i benllanw yn y cyfarfod olaf ym mis Tachwedd 2019, lle penderfynwyd ar y dyddiad dechrau a'r prif ffrydiau gwaith.